MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £26,403 - £27,694 Pro Rata | Grade 4
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cymorth Ysgol Lefel 2 (Gweinyddu a Threfniadaeth) - Ysgol Crownbridge

Torfaen Local Authority

Cyflog: £26,403 - £27,694 Pro Rata | Grade 4

Swyddog Cymorth Ysgol Lefel 2 (Gweinyddu a Threfniadaeth) - Ysgol Crownbridge

35 Awr yr wythnos, 8:30 AM i 4:00 PM font-size:12pt">39 Wythnos y flwyddyn, amser tymor yn unig. font-size:12pt">Y Swyddog Cymorth Ysgol yw'r pwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr â'r ysgol gan gynnwys rhieni, staff a phlant. Dylai'r Swyddog fod yn groesawgar, yn ddymunol, yn gymwynasgar, gyda'r gallu i gynrychioli'r ysgol mewn ffordd broffesiynol a chyfeillgar. Yn ogystal, mae'n hanfodol bod y person sy'n derbyn y rôl hon yn drefnus, yn gallu amldasgio, gweithio yn hyblyg ac yn meddu ar agwedd 'gallu gwneud'. Mae'n ofynnol i'r Swyddog Cymorth Ysgol hefyd gynorthwyo'r Uwch Swyddog Cymorth Ysgol gyda thasgau gweinyddol amrywiol, sy'n galw am lefel dda o gyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig yn ogystal â sgiliau TG da. Dylech fod yn ddibynadwy, yn wydn ac yn hyblyg a gweithio'n dda fel rhan o dîm.

Mae Ysgol Crownbridge yn cefnogi disgyblion 2 - 19 oed sydd ag anawsterau dysgu difrifol a chymhleth. font-size:12pt">Dylai fod gan bob ymgeisydd:-
  • Y gallu i ddilyn cyfarwyddyd ac awydd i hyrwyddo eu datblygiad proffesiynol;
  • Brwdfrydedd ac ymagwedd gydwybodol; font-size:12pt">Y gallu i groesawu newid a chyfrannu at ddatblygiad yr ysgol

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i'r ymgeisydd ymuno â thîm arloesol, bywiog a gweithgar. font-size:12pt">I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, neu i drefnu sgwrs anffurfiol, anfonwch e-bost at Sue.Kempton@torfaen.gov.uk .

Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal. font-size:12pt">Dyddiad Cau: Dydd Gwener 9fed Ionawr 2026 am 23.59 pm font-size:12pt">Llunio Rhestr Fer: Dydd Llun 12fed Ionawr 2026 font-size:12pt">Cyfweliadau: Dydd Llun 26ain Ionawr 2026