MANYLION
  • Lleoliad: Abergavenny, Monmouthshire, NP7 9LS
  • Testun: Cynorthwyydd Clwb Brecwast
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2024 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Goruchwyliwr Clwb Brecwast - Ysgol Gynradd Llanfoist Fawr

Cyngor Sir Fynwy
Rydym yn edrych am gynorthwyydd clwb brecwast i ymuno â’n tîm clwb brecwast i gynorthwyo ein plant yn ein ysgol brysur a bywiog.

Pwrpas y rôl:-
• Paratoi a gweini brecwast a goruchwylio disgyblion sy’n cymryd rhan yn y cynllun Brecwast a chyflawni dyletswyddau cysylltiedig.


Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:-
• Paratoi a gweini bwyd a diodydd i ddisgyblion sy’n cymryd rhan yng Nghynllun Brecwast Llywodraeth Cymru.
• Goruchwylio a rheoli ymddygiad y disgyblion cyn ac yn ystod y brecwast yn unol â Pholisi Rheoli Ymddygiad yr Ysgol.
• Ymdrin â damweiniau yn ardal y brecwast.
• Hysbysu’r Cydlynydd Cynllun Brecwast am y ddarpariaeth fwyd sy’n ofynnol.
• Gweithio bob amser yn unol â gofynion ymarfer hylendid arlwyo da.
• Glanhau’n ddyddiol yn y gegin, yr ardal o’i chwmpas ac offer ar ôl gorffen gweini.
• Sefydlu a chlirio offer a dodrefn a ddefnyddir ar gyfer y cynllun.
• Cymryd rhan weithredol wrth gefnogi egwyddorion ac ymarfer cydraddoldeb cyfle fel sy’n cael ei nodi ym mholisi’r Ysgol.
• Cydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a Pholisi’r Ysgol (D.S. Bydd yr union gyfrifoldebau yn dibynnu ar y swydd.)