MANYLION
  • Lleoliad: Abergavenny, Monmouthshire, NP7 0AY
  • Testun: Gofalwr
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2024 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Gofalwr - Ysgol Gynradd Gilwern

Cyngor Sir Fynwy
Mae’r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Gofalwr. Bydd angen i’r person a benodir fod yn hyblyg, diwyd a brwdfrydig. Dylai fedru gweithio fel rhan o dîm ac ar ei liwt ei hun.

Unwaith y cwblheir gwiriadau priodol, bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau yn y gwaith ddydd Llun 2 Medi 2024.


Dyletswyddau

Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau rhesymol o dan gyfarwyddyd y Pennaeth yr ysgol neu gynrychiolywyr a ddirprwyr gan y Pennaeth i gefnogi gwaith y sefydliad.




Diogelwch

1. Mynd i’r safle er mwyn agor a chau’r safle (ac unrhyw adeilad ar osod) ar amseroedd penodedig ac yn gyfrifol am ddiogelwch cyffredinol y safle drwy’r amser. Gall fod rhaid i chi fynychu yn ystod oriau anghymdeithasol neu ar y penwythnos er mwyn delio gyda phroblemau o ran diogelwch, gwneud atgyweiriadau brys neu er mwyn caniatáu atgyweiriadau brys.

2. Ymgymryd â dyletswyddau diogelwch a nodwyd yn y sefydliad a’r tir o amgylch, gan gymryd pob math o gamau rhesymol ac ymarferol er mwyn atal tresmasu a pharcio heb awdurdod.

Gofalu am y Boeler / Arbed Ynni

1. Goruchwylio, fel sydd wedi ei nodi yn y cyfarwyddiadau ar gyfer arbed ynni, er mwyn sicrhau bod yr offer gwresogi a goleuo yn gweithio yn effeithiol, monitro faint o danwydd sydd yn cael ei ddefnyddio, cadw cofnodion a chynnal safonau o ran sut y maent yn perfformio.
2. Darllen mesuryddion fel sydd angen a chadw cofnodion sydd wedi eu cymeradwyo gan gynnwys materion arbed ynni a dŵr, ac yn ymwybodol o leoliad yr holl stopfalfiau, mannau tân a gwasanaethau pŵer.
Dyletswyddau Cyffredinol

1. Darparu gwasanaeth yn cludo pethau ar draws y safle fel sydd angen.

2. Glanhau a bod yn gyfrifol am gasglu sbwriel o’r llwybrau ac arwynebau caled eraill, gan gynnwys y meysydd chwarae dan orchudd a’r holl fannau o fewn ffiniau’r sefydliad, gan gynnwys ardaloedd glaswelltog a gwelyau blodau, gan gadw arwynebau caled yn rhydd o fwsogl neu chwyn, clirio gylïau, gratiau, draeniau ac yn y blaen a glanhau unrhyw waliau, arwyddion ac yn y blaen sydd wedi eu baeddu.

3. Casglu unrhyw deganau chwarae a chyfarpar ysgol sydd wedi eu gadael ar dir yr ysgol, gan gynnwys y maes parcio, tra’n sgubo ar gyfer sbwriel ac yn y blaen.

4. Hysbysu Pennaeth /Cydlynydd Iechyd a Diogelwch yr ysgol am unrhyw ddiffygion sydd yn effeithio ar iechyd a diogelwch y bobl ar y safle, a lle bo’n bosib, yn sicrhau eu bod yn cael eu gwneud yn ddiogel fel bod modd ynysu peryglon.

5. Cadw llwybrau, pwyntiau mynediad a mynedfeydd rhag cael eu hatal gan eira ac iâ er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel i’w defnyddio. Clirio’r eira lle mae hynny yn ymarferol o'r holl fynedfeydd i’r ysgol gan gynnwys gwasgaru’r graean lle bo’n bosib.

6. O dro i dro, bydd angen glanhau cysgodlenni a diffoddwyr golau gan ystyried y cyfarwyddiadau ar gyfer glanhau ar uchder.

7. Hysbysu’r Pennaeth neu Rheolwr y Ganolfan am unrhyw ddiffygion am adeiladau, celfi, gosodion ac offer yn unol â’r rheoliadau.

8. Adlenwi sebon, tywelion, papur toiled yn yr holl leoliadau ar hyd a lled y safle fel sydd angen.

9. Sicrhau bod yr holl sbwriel yn cael ei osod mewn man penodol.

10. Gwacau pob un bin yn fewnol a’n allanol.

11. Sicrhau fod yr holl ailgylchu a gwastraff yn barod i’w casglu..

12. Glanhau’r arwynebau o dro i dro ar lefel benodol.
13. Glanhau’r gwydr mewnol o dro i dro ar uchder sydd yn is na’r 11 troedfedd a’r holl wydr allanol.
14. Glanhau o dan y matiau sydd ger y mynedfeydd.

15. Gweithio oriau ychwanegol pan fydd angen.

Glanhau

(a) Glanhau rhan fewnol benodol o’r ysgol yn unol gyda chyfarwyddiadau’r Pennaeth.

(b) Cynnal glendid neuadd yr ysgol gan ddefnyddio byffer a/neu sgrwbiwr a sychwr.

(c) Symud offer i neuadd yr ysgol yn gyfnodol er mwyn sicrhau bod modd glanhau.

(d) Rhoi mynediad i weithlu contractwyr i’r safle yn ystod amseroedd a gytunir.

(e) Glanhau ardaloedd ar frys yn unol gyda chyfarwyddiadau’r Pennaeth.

(f) Glanhau unrhyw ddail, sbwriel neu eira o lwybrau a safle’r ysgol.

(j) Ysgubo a chadw holl lwybrau’r ysgol yn glir.

(k) Ysgubo a chadw holl fannau awyr agored y Cyfnod Sylfaen yn glir.

(l) Gosod teganau’r Cyfnod Sylfaen yn yr adeilad neu o dan orchudd yn ystod tywydd garw.

(j) Ysgubo a chadw’r lloches ar gyfer beiciau yn lân.

(k) Defnyddio’r peiriant golchi er mwyn golchi safleoedd allanol fel sydd angen yn unol â chyfarwyddiadau’r Pennaeth


Disgwyliadau a Chanlyniadau’r Swydd:
Gweithio o dan gyfarwyddyd y Pennaeth neu gynrychiolwyr a ddirprwywyd gan y Pennaeth er mwyn ymgymryd â’r dyletswyddau gofalu.

Eich cyfrifoldebau yw:-
Dyletswyddau gofalu, diogelwch syfle/ dyeltswyddau bwyler/cadwraetih ynni, glanhau fel a nodir a dyletswyddau cyffredinol.