MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 14 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Darlithydd Adnoddau Dynol CC/2593

Coleg Cambria
Disgrifiad Swydd a Manyleb Yr Unigolyn

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Adnoddau Dynol

Lleoliad: Llaneurgain

Math o Gontract: Parhaol, llawn amser (Bydd rhannu swydd yn cael ei ystyried)

Cyflog: £30,620 - £47,331

Mae gennym swydd wag ar gyfer Darlithydd Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) i addysgu ein cyrsiau Lefel 3 a 5 a modiwlau Adnoddau Dynol ar y rhaglen radd. Os ydych yn angerddol ynglŷn ag addysg AD ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth ym mywydau myfyrwyr, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb dysgwyr trwy ddarlithoedd deinamig, gweithdai rhyngweithiol, ac astudiaethau achos bywyd go iawn sy'n dod â theori AD yn fyw. Byddwch yn rhoi cyngor addysgol, cymorth a chwnsela i'r holl fyfyrwyr ac yn gweithredu fel tiwtor personol pan fo angen. Yn ogystal â hyn bydd y darlithydd yn dysgu gwersi wedi'u hamserlennu, paratoi deunyddiau addysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff arholi a Phrifysgolion a goruchwylio arholiadau. Bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am gynhyrchu a chwblhau dogfennau erbyn y terfynau amser y cytunwyd arnynt fel: cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau, adroddiadau myfyrwyr, adroddiadau absenoldeb, ffeiliau cwrs ac ati.

Byddant yn cysylltu â thiwtoriaid meysydd busnes eraill ynglŷn ag adnoddau, datblygu cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill.

Gofynion Hanfodol
  • Yn gymwys hyd at Lefel 6 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol
  • Cymhwyster addysgu neu hyfforddi (er enghraifft TAR, Tystysgrif Addysg neu C&G 7407)
  • Sgiliau TGCh cadarn
  • Gallu datblygu a defnyddio ystod o dechnegau dysgu ac addysgu
  • Yn cydnabod ac yn gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o'u cryfderau a'u hanghenion datblygu
  • Yn gallu asesu canlyniadau dysgu a chyflawniadau dysgwyr
  • Gallu ymdrin ag ymddygiad amhriodol yn y dosbarth mewn modd effeithiol ac amserol
  • Gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol
  • Dangos gwerthfawrogiad o werthoedd a moeseg Addysg Bellach
  • Gallu adfyfyrio a gwerthuso ar eu perfformiad eu hunain a chynllunio ar gyfer eu hymarfer yn y dyfodol.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig