MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Disgrifiad

YSGOL MORGAN LLWYD

Ffordd Cefn

Wrecsam

LL13 9NG

Ffôn: 01978 315050

E-bost: bocspost@ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk

PENNAETH

Llawn Amser - Parhaol

L27 i L33 (£90,980 i £105,390)

Ar gyfer Ionawr 2025 neu cyn gynted a phosibl

Ysgol Morgan Llwyd

'Ym mhob llafur y mae elw'

(This is an advertisement for a Headteacher at Ysgol Morgan Llwyd, Wrexham, for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential .)

Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer swydd y Pennaeth.

Fel ysgol sy'n tyfu mewn niferoedd , mae'r ysgol hon ar y trywydd iawn i fod yn ysgol ragorol sy'n darparu addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl. Rydym yn chwilio am arweinydd i gydweithio'n effeithiol gyda phob rhanddeiliad i adeiladu ar gryfderau'r ysgol a symud ymlaen at ddyfodol llewyrchus a llwyddiannus.

Mae Ysgol Morgan Llwyd yn gymuned falch a chroesawgar sy'n angerddol dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a'i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o'i gymdeithas.

Rydym yn chwilio am arweinydd deinamig sydd â gwir awydd i wneud gwahaniaeth i addysg myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Wrecsam ac i weithio'n agored, yn gynhwysol ac yn gydweithredol gyda'r Awdurdod Lleol ac a'r Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE).

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sydd yn:

Dangos angerdd ac ymrwymiad i addysg cyfrwng Cymraeg pob disgybl - disgyblion cyfrwng Cymraeg a disgyblion sy'n dymuno cael mynediad drwy'r cynllun trochi

Uchelgeisiol a gyda hanes o ddefnyddio arloesedd i ddatblygu gwelliant

Arddangos sgiliau arwain cryf

Arddangos arloesedd a chreadigrwydd wrth gyflwyno safonau academaidd rhagorol

Ymrwymiad i holl fywyd yr ysgol a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu, a chreu amgylchedd addysgol sy'n ysgogi, cefnogi a meithrin myfyrwyr

Meddu ar ddealltwriaeth ddofn o'n gweledigaeth a'n gwerthoedd a dangos ymrwymiad iddynt

Ysbrydoledig gyda Chymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) a'r gallu i ddangos blaengaredd, brwdfrydedd a sgiliau arwain profedig.

Os ydych yn arweinydd ysbrydoledig a chryf, a bod gennych weledigaeth rymus ar sut i barhau i godi safonau hyd yn oed ymhellach, croesawn eich cais ar gyfer y swydd.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Gofrestriad Cyngor y Gweithlu Addysg a'r CPCP.

I drefnu ymweliad, neu am ragor o wybodaeth cyn cyflwyno'ch cais, cysylltwch â'r ysgol os gwelwch yn dda.

I wneud cais : cwblhewch y ffurflen gais ar-lein sydd i'w chael ar dudalen swyddi gwag Awdurdod Lleol Wrecsam ( Swyddi Gwag ) erbyn 12yp ddydd Llun yr 17eg o Fehefin.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Bydd angen cynnal gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) ar gyfer y swydd hon.

(Hysbyseb swydd ar gyfer Pennaeth Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam yw hon lle mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol .)

Dyddiadau Allweddol

Os ydych yn dymuno ymweld â'r Ysgol cysylltwch yn uniongyrchol

DYDDIAD CAU: Hanner dydd, Dydd Llun 17 eg Mehefin, 2024

RHESTR FER: Dydd Iau 27 ain Mehefin, 2024

CYFWELIADAU: Dydd Mercher 3 ydd Gorffennaf, 2024