MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Blwyddyn 5/6

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Pennaeth

Mrs Nicola Locker B.Ed (Anrh) CPCP

Hanmer, ger Yr Eglwys Wen, Swydd Amwythig, SY13 3DG

01948 830 238

mailbox@hanmer-pri.wrexham.sch.uk

www.stchadsschool.co.uk

Mae'r Corff Llywodraethu yn bwriadu penodi Athro/Athrawes Blwyddyn 5/6

Ar gyfer mis Medi 2024 neu'n gynharach

Prif Raddfa Gyflog/Uwch Raddfa Gyflog

Rydym yn chwilio am athro/ athrawes angerddol, brwdfrydig ac ymroddedig, sy'n hynod drefnus ac a fydd yn mynd yr ail filltir i gefnogi disgyblion, rhieni a staff yn ein hysgol Eglwys deuluol unigryw.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:-

• Athro/athrawes blwyddyn 5/6 profiadol sydd wedi ymrwymo i gynnal Ethos Cristnogol yr ysgol.

• Hyrwyddo a datblygu addysgu a dysgu cynhwysol ar draws yr ysgol, drwy ddangos eu hymrwymiad personol i safonau a disgwyliadau uchel ar gyfer pob dysgwr.

• Sicrhau bod anghenion dysgu dynodedig pob disgybl yn cael eu diwallu yn yr ystafell ddosbarth.

• Rhannu ac arddangos arferion cynhwysol yn eu hystafell ddosbarth eu hunain ac ar draws yr ysgol, a gallu gweithio fel rhan o dîm.

• Ymrwymedig i godi safonau a bod â disgwyliadau uchel o'u hunain ac eraill.

• Creu amgylchedd dysgu dengar sy'n ymgorffori egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.

• Gallu addysgu Cymraeg (ail iaith) neu iaith dramor fodern arall.

Gallwn gynnig:-

• Ethos Cristnogol cadarn, lle caiff pawb eu gwerthfawrogi a'u cefnogi.

• Cymuned ysgol gynhwysol a chroesawgar.

• Plant sy'n frwdfrydig am eu haddysg.

• Ymrwymiad cadarn i'ch datblygiad proffesiynol.

• Cyfle i gydweithio ag aelodau'r tîm.

• Cyfle i ddatblygu sgiliau addysgu creadigol ac arloesol sy'n gysylltiedig â'r Cwricwlwm i Gymru.

• Cysylltiadau cadarn â'r Eglwys a'r gymuned a Chorff Llywodraethu cefnogol.

Argymhellir eich bod yn ymweld â'r ysgol. Am ragor o wybodaeth ac i drefnu ymweliad, cysylltwch â'r Pennaeth, Nicola Locker ar 01948830238

DYDDIAD CAU: 03/06/2024

Bydd y broses gyfweld yn cynnwys cyfweliad a gwers fer. Rhennir y manylion gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.

Mae'r swydd yn destun gwiriad Datgeliad a Gwasanaeth Gwahardd gwell

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.