MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Mathemateg a Chydlynydd Rhifedd - Ysgol Syr Hugh Owen

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL SYR HUGH OWEN, CAERNARFON

(Cyfun 11 - 18; 930 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer 1 Medi, 2024,

ATHRO/ATHRAWES Mathemateg a Chydlynydd Rhifedd

Llawn amser / Parhaol

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) ynghyd a lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu CAD2 o £7,986 y flwyddyn.

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Mr Clive Thomas pennaeth@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru .

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu i'w cyflwyno Marian Williams, PA y Pennaeth, Ysgol Syr Hugh Owen, Ffordd Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1HW. Rhif ffôn: 01286 682975; e-bost: marian.williams.syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 10:00Y.B, DYDD MERCHER, 22 MAI, 2024.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

(The above is an advertisement for the post of mathematics Teacher and Numeracy co-ordinator at Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential, The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.)

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

Swydd Ddisgrifiad
Athro Mathemateg a Chydlynydd Rhifedd
Aelod o'r Tîm Datblygu

Rheolwr Cyswllt: Pennaeth

Pwynt/Graddfa Cyflog: Prif Raddfa + CAD 2a (£7,986)

Cytundeb: Parhaol - Llawn Amser

Dyddiad Cychwyn: Medi 1af 2024

Pwrpas y Swydd:
• Gwella darpariaeth Rhifedd ar draws y cwricwlwm.
Cyfrifoldebau Arwain Strategol:
• Cefnogi Penaethiaid Adrannau ac Arweinwyr MDaPh i gynllunio darpariaeth ar gyfer Rhifedd ar draws y cwricwlwm.
• Monitro ansawdd y ddarpariaeth
• Cynnal / diweddaru archwiliad rhifedd ar draws y cwricwlwm gan adnabod cyfloedd ychwanegol i ddarparu a datblygu sgiliau rhifedd o fewn pynciau / MDaPh.
• Gweithio'n agos gyda'r UDRh i arfarnu gwaith yr ysgol yn y maes rhifedd.
• Datblygu polisi'r ysgol er mwyn hybu rhifedd ar draws y cwricwlwm.
• Cynghori athrawon sut i addysgu sgiliau rhifedd a sut y gellid ymgorffori'r elfen hon i'w cynlluniau gwaith.
• Sicrhau cysondeb agwedd ar draws y pynciau.
• Adnabod anghenion hyfforddiant o fewn y maes.
• Cynllunio, rheoli ac arfarnu ymyrraeth Rhifedd.

Cyfrifoldebau Athro/Athrawes:
Cyfrifoldeb
Mae athro yn gyfrifol am ddarparu profiadau dysgu llawn ar gyfer pob disgybl.
Mae angen i bob athro:-
• I weithredu a chyflwyno cwricwlwm perthnasol, eang, cytbwys, a gwahaniaethol ar gyfer y disgyblion ac i gefnogi'r ardal gwricwlwm penodol / pwnc priodol.
• I fonitro a chefnogi cynnydd a datblygiad y disgyblion fel athro/tiwtor dosbarth.
• I hyrwyddo ac annog profiadau dysgu sy'n rhoi cyfle i'r disgyblion i gyflawni eu potential personol.
• I gyfrannu at godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion.
• I rannu a chefnogi cyfrifoldeb yr ysgol i barhau a monitro cyfleoedd am gynnydd academaidd a phersonol.
• I weithredu cynlluniau ansawdd yr ysgol.

Cwricwlwm
Cynllunio, Datblygu a Hunan Arfarnu
• Cyfrannu at Gynllun Datblygu ysgol gyfan.
• Cyfrannu at Cynlluniau Datblygu trawsgwricwlaidd ac adrannol a'u gweithrediad.
• Cynorthwyo gyda datblygiad Cynlluniau Gwaith, adnoddau, Polisi Marcio a strategaethau dysgu yn ardaloedd trawsgwricwlaidd ac adrannol.
• Cynllunio a pharatoi cyrsiau a gwersi.
• Cynorthwyo'r Pennaeth Adran a'r Dirprwyon drwy baratoi amrediad o amcanion dysgu sy'n cefnogi blaenoriaethau'r ysgol.
• Cynorthwyo yn y broses o ddatblygu cwricwlwm a rheoli newid i sicrhau bod y cyrsiau yn berthnasol i anghenion y disgyblion yn ogystal â'r byrddau arholi a gwobrwyo.
• I adolygu'r dulliau dysgu a rhaglen astudio.
• Cyfrannu i'r broses o fonitro ac arfarnu Cynlluniau Datblygu o fewn cylch hunan-arfarnu, gan gynnwys arfarnu yn erbyn targedau a meincnodau.
• I geisio a gweithredu newidiadau a gwelliant.
• I adolygu'r datblygiadau cwricwlwm, trefnyddiaeth a bugeiliol yr ysgol.

Addysgu
• I addysgu disgyblion yn ôl eu hanghenion addysgol, gan gynnwys gosod a mario gwaith ar gyfer y disgybl yn yr ysgol neu mewn lle arall.
• Asesu, recordio ac adrodd ar bresenoldeb, cynnydd, datblygiad a chyrhaeddiad y disgyblion ac i gadw cofnodion yn ôl y galw.
• I baratoi, neu gyfrannu at, asesiadau llafar ac mewn ysgrifen, adroddiadau a geirda sy'n berthnasol i ddisgyblion unigol neu grŵp o ddisgyblion.
• Sicrhau bod yr elfennau trawsgwricwlaidd TGC, Llythrennedd, Rhifedd, Datrys Problemau a gwybodaeth bynciol yn cael eu hadlewyrchu ym mhrofiadau dysgu ag addysgu'r disgyblion.
• Ymgymryd â llwyth gwaith dysgu penodol.
• Sicrhau profiadau dysgu o safon ar gyfer y disgyblion sy'n cyrraedd ansawdd disgwyledig safonau mewnol ac allanol.
• Paratoi ac uwchraddio adnoddau pynciol.
• Defnyddio dulliau dysgu amrywiol fydd yn symbylu'r dysgu ac ateb anghenion y disgyblion a'r Maes Llafur.
• Cynnal disgyblaeth yn ôl cytundeb a phrosesau'r ysgol, ac i annog arfer da gyda prhydlondeb, ymddygiad, safonau gwaith a gwaith cartref.

Asesu a Chynnydd
• I asesu disgyblion ar gais y byrddau arholiad allanol, adrannau a gofynion ysgol gyfan.
• I farcio, graddio a pharatoi adborth yn llafar ac yn ysgrifenedig.
• Cadw cofnod priodol a darparu gwybodaeth gyfredol gywir ar gyfer SIMS, cofrestri ayyb.
• Cwblhau dogfennau priodol i gynorthwyo'r broses o ddilyn disgyblion
• I ddefnyddio'r data fel gwybodaeth ar gyfer sicrhau cynnydd yn y gweithgareddau dysgu ag addysgu.

Adnoddau
Staffio
• I gymryd rhan yn rhaglen datblygu staff yr ysgol er mwyn sicrhau datblygiad proffesiynol.
• I barhau i ddatblygu'n bersonol yn yr ardaloedd a adnabuwyd drwy'r broses hunan arfarnu gan gynnwys gwybodaeth bynciol a dulliau dysgu.
• Gweithredu'r broses Rheoli Perfformiad gydag arddeliad.
• I gyfrannu yn bositif i'r cydweithio effeithio o fewn yr ysgol.

Cefnogaeth
• Sicrhau defnydd effeithiol /effeithlon o gymorthfeydd dosbarth.
• Cefnogi eich cyd-weithwyr fel aelod o dîm.

Cyfathrebu
• Cyfathrebu yn effeithiol a chydweithio gyda rhieni.
• Cyfathrebu yn effeithiol o fewn y sefydliad.
• Cymryd rhan mewn Nosweithiau Agored a Chyfarfodydd Rhieni a chydweithio gydag ysgolion lleol.
• Cyfrannu at ddatblygu cysylltiadau pynciol effeithiol gyda'r Sector Cynradd ac asiantaethau allanol eraill.

Adnoddau Dysgu
• Cyfrannu at y broses o archebu a dosbarthu cyfarpar a defnyddiau.
• Adnabod adnoddau addas a gwneud defnydd effeithiol/effeithlon o'r adnoddau o fewn yr adran ac ar draws y cwricwlwm.

Bugeiliol
• Bod yn Diwtor Dosbarth i grŵp penodol o ddisgyblion.
• I hyrwyddo cynnydd cyffredinol a lles yr unigolion ar grŵp tiwtorial.
• Cydweithio gyda'r Arweinydd Bugeiliol i sicrhau gweithrediad system Bugeiliol yr ysgol.
• Cofrestru disgyblion, mynd gyda'r grŵp i'r gwasanaethau, rhoi anogaeth am bresenoldeb llawn mewn gwersi ac i gymryd rhan yn holl agweddau o fywyd ysgol.
• Arfarnu a monitro cynnydd y disgyblion ac adolygu'r dyddiadur gwaith cartref yn rheolaidd.
• Cyfrannu at gynnwys y Ffeil Gynnydd.
• Codi ymwybyddiaeth y staff perthnasol o broblemau sydd gan y disgyblion a gwneud argymhellion o sut y dylid datrys y broblem.
• Cyfrannu i'r Rhaglen ABaCh, dinasyddiaeth a menter yn ôl Polisi'r Ysgol.
• Defnyddio'r systemau rheoli ymddygiad er mwyn sicrhau bod dysgu effeithiol yn cymryd lle.
• Cyflwyno'r cwricwlwm addysg bersonol a chymdeithasol.
• Adolygu'r cwricwlwm ABaCh yn flynyddol.

Dyletswyddau Penodol Eraill
• Chwarae rhan amlwg ym mywyd yr ysgol, cefnogi'r bwriadau ac ethos ac annod staff a disgyblion i ddilyn eich eisampl.
• Cefnogi oblygiadau cyfreithiol yr ysgol i gynnal cyfarfod addoliad dyddiol.
• Hyrwyddo polisïau canolog ysgol.
• Cadw at bolisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol a gwneud asesiadau risg yn ôl y galw.
• Ymgymryd â dyletswyddau eraill yn ôl y Dyletswyddau Proffesiynol Cyffredinol.
• Ymateb yn bositif i gais rhesymol gan reolwr i wneud gwaith tebyg i'r hyn sy'n ofynnol yn y swydd ddisgrifiad.
• Bod yn gwrtais gyda'ch cyd-weithwyr a chreu awyrgylch o groeso i ymwelwyr ac wrth ddelio gyda galwadau ffôn.
• Bydd yr ysgol yn gwneud addasiadau rhesymol i alluogi cyfleoedd i ymgeiswyr gydag anabledd am swyddi neu ar gyfer gweithiwr sy'n datblygu cyflwr o anabledd dros gyfnod.

Er bod ymdrech deg wedi ei wneud i egluro'r prif dyletswyddau'r swydd, nid oedd yn bosib nodi pob tasg
unigol.

Yn Olaf

Mae'r swydd ddisgrifiad yn gyfredol ar y dyddiad a nodir ond yn dilyn ymgynghoriad gyda chwi, gall newid i adlewyrchu unrhyw newidiadau yn y swydd sy'n gyfesur gyda lefel cyflog a theitl y swydd.

Dyddiad Mai 2024
Sut i Ymgeisio:
Ffurflen Gais a Llythyr cais, i sylw'r Pennaeth, Mr Clive Thomas i:
pennaeth@syrhughowen.ysgoliongwynedd.cymru
Dyddiad Cau:
Mai 22ain 2024 am 10:00yb.
Dyddiad Cyfweld:
I'w gadarnhau.
Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi