MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth Adran Technoleg a Gwybodaeth CA3 a 4, Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL Y MOELWYN, BLAENAU FFESTINIOG
(Cyfun 11 - 16; 335 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1 o Fedi, 2024

PENNAETH ADRAN TECHNOLEG A GWYBODAETH CA3 a 4

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion profiadol a brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol ac yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Yn dilyn ail-strwythuro oddi-mewn i'r Ysgol 'rydym yn chwlio am Bennaeth Adran TG ar gyfer mis Medi 2024. Bydd y deilydd llwyddiannus yn gyfrifol am TGCh CA3 a 4 a gwersi STEM. Byddai'r gallu i gynnig TGAU mewn pwnc fel D&T, Graffeg neu Beirianneg L2 yn fanteisiol

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) ynghyd a lwfans CAD2 (£3,271) y flwyddyn i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu'n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol i'r swydd. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i pholisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Eleri Moss rhif ffôn 01766 830435, e-bost:-
pennaeth@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Ms. Mena Price, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Y Moelwyn, Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3DW, (Rhif ffôn 01766 830435,) e-bost: sg@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru. Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 12:00Y.H, DYDD MAWRTH, 21 MAI, 2024.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

(This is an advertisement for a Head of Information Technology Department at Ysgol y Moelwyn for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential)

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi