MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £28,142 - £31,022 Pro Rata | Grade 5
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Swyddog Cyllid a Chymorth yr Ysgol - Ysgol Gyfun Abersychan
Torfaen Local Authority
Cyflog: £28,142 - £31,022 Pro Rata | Grade 5
Dyddiad Dechrau: Ionawr 2026 neu cyn gynted â phosiblDiolch am ddangos diddordeb mewn ymgeisio am swydd Swyddog Cyllid a Chymorth yr Ysgol yn Ysgol Abersychan. Yn y pecyn cais hwn cewch wybodaeth am yr ysgol, manyleb person a swydd-ddisgrifiad. Roeddwn i'n teimlo y byddai'n ddefnyddiol i chi gael y manylion canlynol i'ch helpu i benderfynu a ydych chi am ymgeisio ai peidio.
Sicrhaodd yr ysgol gyllid i adeiladu, datblygu ac adnewyddu sawl ardal ar safle'r ysgol. O safbwynt chwaraeon, mae'r cyfleusterau newydd neu'r gwaith adnewyddu yn cynnwys maes 3G+, cyrtiau pêl-rwyd, ystafelloedd newid, neuadd chwaraeon a stiwdio ddawns. Bydd y rhain at ddefnydd yr ysgol a'r gymuned. Bydd y rôl hon yn hanfodol i sicrhau eu llwyddiant, yn enwedig mewn perthynas â marchnata a chynhyrchu incwm. font-size:12pt"> Mae Ysgol Abersychan yn ysgol uwchradd gyfun i ddisgyblion 11-16 oed ac mae'n diwallu anghenion plant o bob gallu. Rydyn ni'n ysgol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn hapus, yn llwyddiannus ac yn barod ar gyfer eu bywydau y tu hwnt i'r ysgol. Mae ein disgwyliadau a'n safonau yn uchel. Mae gennym staff ymroddgar a gofalgar iawn sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni y gorau sydd o fewn eu gallu personol. Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol 740 o fyfyrwyr, 46 athro a 56 aelod o staff cymorth. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal o amddifadedd economaidd-gymdeithasol sylweddol ac mae gan 30% o fyfyrwyr hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae 51% o fyfyrwyr yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. font-size:12pt"> Cyflawnir nodau'r ysgol trwy system fugeiliol gref, ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel a dewis helaeth o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol, cerddorol ac allgyrsiol. Mae'r myfyrwyr yn hapus, yn gweithio'n galed ac yn teimlo'n bositif am yr ysgol. Maen nhw'n gaffaeliad go iawn i'n cymuned ac yn gyfeillgar dros ben. Maen nhw eisiau cael addysg o ansawdd uchel a dod yn fyfyrwyr llwyddiannus. Mae gennym rieni a llywodraethwyr gwych, sy'n gefnogol dros ben wrth gefnogi'r ysgol i ddarparu'r addysg orau bosibl. font-size:12pt"> Os ydych chi'n llawn cyffro am y posibilrwydd o chwarae rhan bwysig i'n helpu i gyflawni ein huchelgeisiau, yn credu y gall pob myfyriwr, waeth beth fo'u cefndir neu eu gallu, gyflawni, ac yn teimlo'n angerddol am ddarparu addysg ragorol, yna, byddem wrth ein boddau i glywed gennych! Yn gyfnewid, rydyn ni'n gwarantu y cewch y gefnogaeth orau bosibl. Mae'r Tîm Busnes yn Ysgol Abersychan yn gymharol newydd ac os ydych chi'n angerddol am sicrhau gwelliannau, yna cysylltwch â ni! font-size:12pt">Yn y cyfamser, os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech ymweld â'r
ysgol, mae croeso i chi gysylltu âr Rheolwr Busnes, David Williamson-Dicken - david.williamson-dicken@abersychanschool.co.uk .
Dyddiad Cau: 11.59pm 4 Rhagfyr 2025
Cyfweliad: 9 Rhagfyr 2025
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.
Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.