MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: MPS \/ UPS
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Ionawr, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Saesneg - Ysgol Uwchradd Cwmbrân

Torfaen Local Authority

Cyflog: MPS \/ UPS

Rydym wrth ein bodd eich bod wedi dangos diddordeb yn swydd Athro Saesneg.

Rydym yn chwilio am berson sy'n unigolyn cryf, myfyriol a gwydn, a fydd yn integreiddio'n ddi-dor i'r tîm ac yn rhan annatod o'n ffordd i lwyddiant.

Mae ein hysgol ar bwynt sylweddol yn ei gwelliant, ac rydym yn awyddus i benodi aelod o staff hynod effeithiol sydd â'r profiad, yr ymrwymiad a'r ysgogiad i godi safonau a gwella'r ddarpariaeth ar draws yr ysgol i sicrhau bod pob disgybl yn ffynnu ac yn llwyddo. font-size:12pt">Mae hwn yn gyfle cyffrous ac unigryw a bydd yn brofiad gwerth chweil i ymuno â chymuned ysgol groesawgar sy'n adeiladu tuag at ddyfodol llwyddiannus.

Mae gennym ddyheadau a disgwyliadau uchel i bawb. Ein nod yw darparu profiadau dysgu ac addysgu sydd o ansawdd uchel yn gyson, a hynny ar gyfer pob disgybl, mewn diwylliant lle mae llesiant staff a disgyblion yn hollbwysig.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob un o'n disgyblion yn datblygu fel unigolion llwyddiannus, o'n disgyblion mwyaf agored i niwed i'n disgyblion mwy abl a thalentog. Rydym yn cydnabod bod gofyn personoli dysgu'r disgyblion i fodloni eu hanghenion penodol, er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial. Rydym yn cydnabod hefyd fod dysgu yn fwy na chyrhaeddiad academaidd yn unig. Dylai ffocws fod ar ddatblygu'r plentyn cyfan, gan gynnwys datblygiad personol. Yn y pen draw, rydym yn ymdrechu i fod yn ysgol lle gwerthfawrogir dysgu, lle mae disgyblion yn cyrraedd eu potensial mewn cymuned hapus a diogel lle maent yn dangos parch a goddefgarwch at eraill a adlewyrchir yn ein datganiad o genhadaeth, &slshquot;Ymdrechu, Credu, Llwyddo".

 ninnau'n ysgol gynhwysol, gwerthfawrogir pob aelod o gymuned ei hysgol. Rydym yn disgwyl y gorau gan bawb, p'un a yw disgyblion yn fwy abl yn academaidd neu'n dalentog mewn chwaraeon neu'r celfyddydau neu ag anghenion ychwanegol. Rydym yn ymrwymo i sicrhau'r daith ddysgu orau bosibl i bob unigolyn, gan adeiladu eu gallu i ddod yn ddysgwyr medrus, gydol oes sy'n ddinasyddion cymdeithasol-ymwybodol, iach a gweithgar. font-size:12pt">Mae datblygiad proffesiynol staff yn hanfodol i'n siwrnai wella. Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi'n helaeth mewn pecyn o gefnogaeth berthnasol ac ystyrlon i staff, sydd wedi ei deilwra at anghenion unigol.

Mae hwn yn gyfle gwych i fathemategydd ac arweinydd rhagorol sydd âr egni, yr ysfa a'r set sgiliau i sicrhau darparu profiadau dysgu o ansawdd uchel ar draws yr ysgol a siapio diwylliant rhagoriaeth. font-size:12pt">Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon neu i ymweld âr ysgol yn anffurfiol, cysylltwch â fi i drafod y cyfle hwn ymhellach: Matthew.sims@cwmbranhigh.ysgol

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.