MANYLION
  • Lleoliad: Newport, All Wales, NP20 1GA
  • Testun: Staff Cyflogadwyedd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 02 Mehefin , 2024 11:59 y.p

This job application date has now expired.

Rydym yn recriwtio Anogwr Cyflogadwyedd

Gyrfa Cymru
Ydych chi’n edrych am swydd lle rydych yn ysbrydoli a chynorthwyo pobl i feddwl am eu gyrfa yn y dyfodol? A oes gennych sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid rhagorol? Os felly, rydym yn edrych am gyfathrebwyr hyblyg ac effeithiol sydd yr un mor gartrefol yn cyfathrebu â chwsmeriaid ar lafar neu wyneb-yn-wyneb ag ydynt yn defnyddio cyfathrebu digidol (dros y ffôn, dros y we neu’r cyfryngau cymdeithasol) er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor i’n cwsmeriaid.
Mae Career Choices Dewis Gyrfa Cyf (CCDG) yn is-gwmni ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru. Rydym yn darparu cyfarwyddyd a hyfforddiant gyrfaoedd hanfodol, annibynnol, di-duedd a dwyeithog i bobl o bob oedran yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen newydd Cymru’n Gweithio.

Anogwr Cyflogadwyedd X 2, un swydd parhaol ac un swydd dros-dro tan 31/03/2025

Cyflog £23,756 - £25,718
Cyflog Cychwynnol £23,756

Mae gennym ddwy swydd llawn amser yng Nghanolfan Gyrfa Casnewydd, 37 awr yr wythnos/llawn amser Dydd Llun-Dydd Gwener.


Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda grŵp amrywiol o gleientiaid gan gynnwys pobl ifanc yn eu blwyddyn olaf o addysg sydd am symud ymlaen i waith neu hyfforddiant; rhieni; oedolion di-waith sydd yn chwilio am gymorth i gael gwaith ac oedolion sy’n awyddus i newid eu gyrfa.

Mae ein Anogwyr Cyflogadwyedd
• yn cefnogi ac ysbrydoli eu cleientiaid i sicrhau’r yrfa orau bosibl sydd ar gael iddynt;
• yn darparu gwybodaeth a chyngor i gefnogi cleientiaid i reoli eu gyrfaoedd;
• yn darparu cymorth cyflogadwyedd (cymorth gyda chreu CV, gweithgareddau chwilio am swyddi ayb)i’r rhai sy’n dymuno dychwelyd i’r gwaith neu newid swyddi;
• yn helpu cleientiaid i gyflawni eu canlyniadau cadarnhaol cynaliadwy (addysg, hyfforddiant, cyflogaeth).
Dylai Anogwyr Cyflogadwyedd fod wedi’u haddysgu i safon Lefel 3 neu gymhwyster cyfatebol, yn ddelfrydol mewn maes cysylltiedig e.e. cyngor a chyfarwyddyd, neu fod â phrofiad o weithio ar y lefel hon. Os nad oes gennych Ddiploma Lefel 4 mewn Gwybodaeth a Chyngor Gyrfa eisoes, byddwn yn darparu’r hyfforddiant a’r cymorth sydd ei angen arnoch i ennill y cymhwyster gwerthfawr hwn.

Sgiliau Iaith Gymraeg: Mae’r gallu i allu sgwrsio â’n cwsmeriaid yn Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon (nid oes angen unrhyw sgiliau ysgrifenedig yn Gymraeg) ond rydym hefyd yn annog ceisiadau gan ddysgwyr Cymraeg gan y gallem gynnig cymorth i wella eich sgiliau siarad Cymraeg.

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gael Gwiriad Sylfaenol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Rydyn ni fel cenedl yn ffynnu pan fyddwn yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant. Mae sefydliadau sydd â gweithlu amrywiol yn gwneud gwell penderfyniadau, yn fwy creadigol, yn gadarnach, yn hapusach fel y cyfryw – ac, wrth gwrs, dyna’r peth cywir i’w wneud.

Gall amrywiaeth a chynhwysiant fod yn weddnewidiol, gan gyfrannu at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel, a sicrhau gwelliant parhaus yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud dros bobl Cymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gael gweithlu sy’n gynrychioliadol o’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu, a hynny yn ein holl swyddi, beth bynnag fo’u gradd.

Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd cais a wneir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Ni fydd unrhyw ymgeisydd am swydd yn derbyn triniaeth lai ffafriol ar sail oed, anabledd, rhywedd a hunaniaeth o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd, crefydd a chredo (yn cynnwys dim credo), statws priodasol neu bartneriaeth sifil, statws economaidd neu dueddiad rhywiol.

Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd sy’n rhydd o bob math o wahaniaethu, ac sy’n trin pobl yn deg gydag urddas a pharch. Mae’r ymrwymiad hwn yn dechrau gyda’r broses recriwtio ac yn cael ei gynnal trwy’r holl arferion cyflogaeth, ac yn y pen draw i’r gweithle – gan gefnogi a gwella bywydau pobl Cymru.

Mae’r swydd-ddisgrifiad llawn a ffurflen gais ar gael yn: Swyddi - Gyrfa Cymru (llyw.cymru)
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn ar 02/06/24.

Ewch i Safle Recriwtio Gyrfa Cymru am fanylion ein swyddi gwag. Gallwch hefyd ddysgu mwy amdanom ni, ein polisi cyflogaeth a'n telerau ac amodau.

Er gwybodaeth, nid ydym yn derbyn ceisiadau ar ffurf CV .
Ymysg y buddiannau deniadol mae oriau hyblyg a gweithio’n ystwyth, 31 diwrnod o wyliau, cynllun pensiwn cyfrannol a chynllun arian yn ôl sy’n gysylltiedig ag iechyd.

JOB REQUIREMENTS
Mae’r disgrifiad swydd llawn a ffurflen gais ar gael yn:
https://apply.careerswales.gov.wales/