MANYLION
- Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £47,696 - £50,815 / blwyddyn
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 04 Awst, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: £47,696 - £50,815 / blwyddyn
Pennaeth DatblyguApplication Deadline: 4 August 2024
Department: Gwasanaethau Cyfrifiadurol
Employment Type: Parhaol
Location: Campws Graig
Reporting To: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol
Compensation: £47,696 - £50,815 / blwyddyn
DescriptionFel sefydliad corfforaethol sy'n gwasanaethu anghenion Addysg Bellach ac Addysg Uwch hefyd, mae Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth ymatebol a phroffesiynol i staff a myfyrwyr. Un o'r swyddogaethau eang sy'n rhychwantu'r Coleg cyfan yw'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Digidol ac, yn benodol, y modd y cymhwysir hyn i waith dysgu'r myfyrwyr.
Wrth wraidd yr ymrwymiad hwn, mae ein tîm TG, sy'n cwmpasu saith o gampysau ar draws Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, yn arwain y ffordd mewn arloesedd technolegol a seilwaith digidol. Gyda meingefn rhwydwaith 10 Gbps cadarn o gwmpas Sir Gaerfyrddin a chyswllt 1 Gbps i Geredigion, rydyn ni'n sicrhau cysylltedd di-dor a mynediad cyflymder uchel ar draws ein sefydliad. Ceir enghraifft bellach o'n dull blaengar yn ein hamgylchedd cwbl rithwir a'n defnydd strategol o dechnoleg cwmwl, gan alluogi adnoddau graddadwy a gwell hygyrchedd i ddata. Mae'r seilwaith hwn o'r radd flaenaf yn cefnogi systemau integredig sy'n symleiddio prosesau gweinyddol ac academaidd, gan gynnig profiad di-dor i'n cyfadran, ein staff a'n myfyrwyr. Gan ddarparu casgliad amrywiol o gyfrifiaduron, Macs, Chromebooks, ac amrywiol ddyfeisiau symudol, rydyn ni'n cyfarparu'n cymuned â'r offer sy'n angenrheidiol ar gyfer llwyddiant mewn byd sy'n gynyddol ddigidol. Trwy fanteisio ar ddatrysiadau TG blaengar, gan gynnwys gwasanaethau cwmwl a systemau integredig, rydyn ni'n ymrwymedig i wella'r profiad addysgol, gan feithrin arloesedd, effeithlonrwydd a rhagoriaeth ar draws ein holl gampysau.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn sicrhau bod systemau megis systemau cofnodion myfyrwyr, systemau ariannol, a systemau Adnoddau Dynol a'r gyflogres yn integredig, effeithlon, dibynadwy, a diogel. Yn ychwanegol, mae'r swydd hon yn gofyn profiad ymarferol mewn datblygu meddalwedd, yn enwedig mewn datblygu a chynnal a chadw rhyngwynebau systemau gan ddefnyddio amrywiaeth o ieithoedd rhaglennu a systemau cronfeydd data. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arddangos dull creadigol ac arloesol, y gallu i flaenoriaethu prosiectau'n effeithiol, rheoli prosiectau yn erbyn terfynau amser tynn, a'r sgil i adeiladu perthnasoedd proffesiynol o fewn TG ac ar draws y coleg.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Arwain datblygiad, gweithrediad, ac integreiddiad cymwysiadau cymhleth a systemau, gan ganolbwyntio ar wella diogelwch, effeithlonrwydd, a phrofiad defnyddwyr;
- Datblygu amgylchedd digidol y coleg ymhellach a chychwyn, cyflwyno a rheoli prosiectau yn erbyn terfynau amser y cytunwyd arnynt a Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIs);
- Cyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig, syniadau neu fanteision sy'n ymwneud â systemau, gwasanaethau a phrosiectau TG, gan gynnwys hyrwyddo datrysiadau/datblygiadau technegol yn effeithiol i gydweithwyr annhechnegol;
- Sicrhau bod arferion a phrosesau gwaith effeithlon ac effeithiol yn cael eu rhoi ar waith a'u cynnal wedyn;
- Sicrhau yr eir i'r afael â nodau strategol y coleg a dadansoddi anghenion gweithredu a busnes y coleg;
- Cynnal gwasanaethau cymwysiadau, integreiddiadau, rhyngwynebau, systemau gwe a chyfrifiadurol sy'n bodoli eisoes a datblygu rhai newydd;
- Cynnal cyfrinachedd, argaeledd a chywirdeb systemau gwybodaeth busnes hanfodol;
- Ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol, gweithio'n agos gyda staff y coleg a phartneriaid/ymgynghorwyr allanol i ddatblygu strategaethau TG, polisïau a datrysiadau sy'n bodloni gofynion sefydliadol, proffesiynol, deddfwriaethol a rheoliadol perthnasol
Sgiliau Gwybodaeth ac ArbenigeddHanfodol:
- Addysgedig i lefel radd neu gyfwerth mewn cyfrifiadureg, peirianneg meddalwedd neu faes TG tebyg
- Gweithiwr TG proffesiynol profiadol gyda thystiolaeth o brofiad proffesiynol helaeth yn y Diwydiant TG
- Profiad ymarferol o ddatblygu meddalwedd yn enwedig datblygiad a gwaith cynnal a chadw rhyngwynebau systemau yn defnyddio C#, PHP, ASP, .NET, MS Visual Basic, Java Script, MS SQL, cymwysiadau Gwe, systemau cronfeydd data yn cynnwys Oracle, MS SQL Server, MySQL, MS Access a chymwysiadau ysgrifennu adroddiadau
- Dealltwriaeth dda o feddalwedd a thechnegau rheoli prosiectau
- Bod yn gyfarwydd â dadansoddiad systemau a methodolegau cynllunio, a chymhwyso'r rhain i ddatrys problemau
- Gwybodaeth gynhwysfawr o ddiogelwch datblygu cymwysiadau a phrotocolau diogelwch cymwysiadau gwe
- Dealltwriaeth dda o sut i gymhwyso'r newidiadau technoleg diweddaraf er mwyn cyflawni cyrchnodau busnes a masnachol
- Llwyddiant a dylanwad amlwg o arwain, rheoli ac ysgogi staff yn effeithiol, gan sicrhau ymgysylltu a gweithredu unigol a chyfunol
- Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
- Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.
Am ddisgrifiad swydd llawn, cliciwch ynghlwm.
Buddion
- Byddwch yn cael 37 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 50 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
- Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
- Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
- Cynllun seiclo i'r gwaith
- Maes parcio ceir am ddim ar y safle
- Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein