MANYLION
- Lleoliad: Iâl,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £46,168 - £49,907
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £46,168 - £49,907
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. Ar ôl cael arolwg canmoliaethus gan Estyn yn ddiweddar, rydym yn teimlo bod hyn yn ddechrau da.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Datblygwr Technoleg Gwybodaeth
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £46,168 - £49,907
Ar hyn o bryd mae gennym swydd wag ar gyfer Datblygwr Technoleg Gwybodaeth profiadol i ymuno â'n Hadran Technoleg Gwybodaeth (TG) yn Iâl. Mae Datblygwr TG yn aelod hanfodol o'r tîm TG.
Mae'r swydd yn canolbwyntio'n bennaf ar fod yn rôl arweiniol wrth ddatblygu a chyflwyno cymwysiadau a datrysiadau sgriptio i ddiwallu anghenion amrywiol y coleg. Bydd y swydd yn hwyluso integreiddio a symud data rhwng systemau gwahanol gan ddefnyddio adnoddau sgriptio ac adnoddau cronfa ddata priodol. Bydd y swydd hefyd yn cyfrannu at gynllunio, gweithredu, rheoli a chefnogi systemau newydd a chyfredol a ddarperir gan gyflenwyr trydydd parti. Yn ogystal, bydd yn gweithio gydag adrannau amrywiol i ddatblygu sgriptio arloesol, awtomeiddio ac integreiddio systemau lluosog i wella neu greu prosesau newydd sy'n dod â gwelliannau o ran ymarferoldeb ac effeithlonrwydd, fel rhan o ymrwymiad y coleg i drawsnewid digidol.
Gofynion Hanfodol
- Blaenoriaethu eich llwyth gwaith eich hun a defnyddio desg gymorth datblygwyr i ymateb i ymholiadau cymorth gan staff a myfyrwyr
- Datblygu a monitro'r trosglwyddo data rhwng systemau mewnol y Coleg a phlatfformau allanol trwy ddulliau diogel a chadarn
- Ymgymryd â systemau datblygu gan ddefnyddio sgiliau rhaglennu a datblygu yn Powershell and .Net i gynorthwyo prosesau data effeithiol, diogel a manwl
- Cynhyrchu dogfennaeth gynhwysfawr o'r holl fanylebau systemau a datblygiad a wnaed a datblygu deunydd priodol i gefnogi a chyfrannu at hyfforddiant staff ar gyfer systemau dynodedig
- Yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno deunydd hyfforddi a chyfarwyddiadau gwaith ar gyfer cymwysiadau a systemau sy'n cael eu creu yn y swydd hon
- Cyfrannu at waith tîm rheoli'r Coleg er mwyn cyflawni nodau strategol y Coleg
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig