MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro / Athrawes (Ysgol Rhiw-Bechan)

Cyngor Sir Powys
Athro / Athrawes (Ysgol Rhiw-Bechan)
Swydd-ddisgrifiad
Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol

Mae Llywodraethwyr Ysgol Rhiw-Bechan am benodi ymarferwr rhagorol, brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm deinamig yn ein hysgol gynradd wledig dwy ffrwd. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus ddysgu dosbarth oedran cymysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Dylent feddu ar y gallu i arwain ac ysbrydoli plant er mwyn cyrraedd eu llawn botensial. Byddai profiad o arwain mewn Maes Dysgu yn fanteisiol. Bydd Athrawon Newydd Gymhwyso hefyd yn cael eu hystyried.Rhaid i ymgeiswyr fod yn rhugl yn y Gymraeg a meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol. Nodwch hefyd unrhyw feysydd arbenigedd eraill sydd gennych i'w cynnig i'r ysgol.

Oherwydd natur y gwaith dan sylw, mae'r swydd yr ydych yn gwneud cais amdani wedi'i chwmpasu gan Orchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 (fel y'i diwygiwyd yn 2013) - Mae'r swydd hon yn gofyn am Wiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, y swydd hon yn cael ei ddosbarthu fel gweithgaredd a reoleiddir o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 a bydd yn destun gwiriad i'r rhestr o'r bobl hynny sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio gyda phlant.