MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Hyfforddwr Dysgu Chweched Dosbarth - Ysgol Gyfun Penglais

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Rydym yn awyddus i benodi Hyfforddwr Dysgu Chweched Dosbarth brwdfrydig i ymuno a thîm y chweched ddosbarth. Byddwch yn gweithio gyda'r tîm chweched ddosbarth a staff eraill I gefnogi myfyrwyr i gyrraedd eu gallu academaidd a phersonol gorau.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn mwynhau gweithio gyda'n staff a phobl ifanc i sicrhau fod myfyrwyr yn derbyn y gefnogaeth, cyngor a chyfarwyddyd i ddatblygu i fod yn unigolion uchelgeisiol, aeddfed a medrus. Byddwch yn sicrhau fod pob disgybl yn llwyddo'n uchel ac yn datblygu eu hyder, a'u cefnogi i fod yn barod i gychwyn ar fywyd ar ôl ysgol yn llwyddiannus. Byddwch yn ymrwymedig i ddarganfod ffyrdd cynhwysol i ysbrydoli myfyrwyr ac i wella cyfleoedd bywyd ein myfyrwyr oll.

Mae hwn yn gyfle gwych i ymgeisydd uchelgeisiol gael chwarae rôl allweddol i sicrhau datblygiad y myfyrwyr yn y chweched dosbarth ac felly yn cyfrannu at daith Ysgol Penglais i fod yn ysgol ardderchog. Bydd y swydd yn dechrau ym Mis Medi.

Mae gan Ysgol Penglais lawer i'w gynnig:
  • ysgol sydd yn gwella'n gyflym gyda pherthnasau da rhwng staff a disgyblion
  • ymroddiad i ddatblygiad proffesiynol staff er mwyn cyrraedd rhagoriaeth
  • agos i dref Prifysgol bywiog Aberystwyth
  • wedi ei leoli ar arfordir bendigedig bae Ceredigion, ardal o hyfrydwch naturiol
Pecyn Gwybodaeth

Am fwy o fanylion, cysylltwch a Helena Clements (PA i'r Pennaeth) ar 01970 624811 neu drwy e-bost hcl@penglais.org.uk

Mae Ysgol Penglais yn gyflogwr sydd yn sicrhau cyfleoedd cyfartal.

Cyfweliadau: 24/05/2024

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy