MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Hirael, Bangor,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £929 - £947 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mehefin , 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Clerc Llywodraethwyr Ysgol Hirael- 84.5 Awr y flwyddyn

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £929 - £947 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Clercio ar gyfer cyfarfodydd llywodraethwyr - 6 cyfarfod y flywddyn

Paratoi ymlaenllaw cyn cyfarfod 3 awr bob cyfarfod

Cofnodion a gohebu wedi cyfarfod 7.5awr bob cyfarfod

Cyfarfod 2 awr

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Linda Evans / Meleri Mair Griffith ar 01248 352182

Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 10.00 O'R GLOCH, 13/06/24

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Yn gallu cyd-weithio fel aelod o dim.

Yn gallu gweithio i gyrraedd targedau penodol.

Gallu cyfathrebu'n effeithiol ac arddangos blaengaredd (gweld gwaith).
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cefndir addysgol cadarn.

Cymhwyster Lefel 2 neu gyfwerth.

Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau'r cymhwyster/hyfforddiant ar gyfer Clercod Llywodraethol o fewn cyfnod o flwyddyn o ddyddiad y penodiad.
Dymunol
Cymhwyster cydnabyddedig neu brofiad blaenorol ym maes gweinyddiaeth.

Wedi mynychu cyrsiau hyfforddi llywodraethwyr yn y gorffennol.
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad blaenorol o gofnodi cyfarfodydd, pwyllgorau, cymdeithasau neu glybiau.
Dymunol
Ymwybyddiaeth o faes Llywodraethwyr Ysgolion.

Profiad o gydweithio'n effeithiol efo gweithwyr eraill ar bob lefel.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Sgiliau cyfathrebu cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg gyda'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol.
Dymunol
Gwybodaeth am drefniadaeth Cyrff Llywodraethol Ysgolion

Profiad o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office a'r we
Anghenion ieithyddolHanfodolGwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Darparu gwasanaeth Clerigol i'r Corff Llywodraethol.

• Gweinyddu a chefnogi gwaith y Corff Llywodraethu yn unol â chanllawiau'r awdurdod lleol, gan weithio'n effeithiol gyda chadeirydd y llywodraethwyr a phennaeth yr ysgol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• -
Prif ddyletswyddau
• Cyd-weithio gyda'r Cadeirydd a'r Pennaeth ar gynnwys rhaglen cyfarfodydd gan ddarparu papurau cefndir ar gyfer y

cyfarfodydd hynny - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.

• Darparu ac anfon rhaglen i aelodau'r corff llywodraethu - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.

• Gwirio gyda'r Cadeirydd ar unrhyw faterion y gweithredwyd arnynt rhwng cyfarfodydd ac sydd angen eu hadrodd i'r corff llywodraethu.

• Mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu llawn yn ogystal â'r is-bwyllgorau statudol gan gymryd cofnodion priodol (hyd at 6cyfarfod yn flynyddol yn unig). Gall y Clerc hawlio tal ychwanegol i glercio cyfarfodydd ychwanegol.

• Mae'n statudol i Gorff Llywodraethu gynnal o leiaf un cyfarfod o'r Corff Llawn yn dymhorol

• Cyfarfod ffurfiol y rhieni gyda'r Llywodraethwyr pe byddai gofyn yn dilyn petitiwn

• Is-bwyllgorau statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol os yw dros 6 cyfarfod mewn blwyddyn

• Sicrhau bod y Corff Llywodraethu yn pennu dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd ymlaen llaw a bod y wybodaeth

hynny yn hysbys i'r Awdurdod Lleol.

• Cynhyrchu ac anfon copïau drafft o'r cofnodion i'r Cadeirydd a'r Pennaeth cyn creu fersiwn derfynol i'w

ddosbarthu i bob aelod o'r Corff Llywodraethu a ALl.

• Cofnodi presenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd a rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn

perygl o'i ddatgymhwyso oherwydd diffyg presenoldeb.

• Cadw cofnod o dymor gwasanaeth pob llywodraethwr gan gysylltu â'r Awdurdod Lleol ar achlysuron pan fo

cyfnod gwasanaeth yn dod i ben, neu pan fo ymddiswyddiadau.

• Gohebu ar ran y Corff Llywodraethu, yn ôl yr angen.

• Cadw trefn ar gofnodion, gohebiaeth a dogfennau eraill yng nghyswllt gwaith y corff llywodraethu.

• Cynorthwyo'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu i baratoi Adroddiad Blynyddol i Rieni.

• Mynychu a chadw cofnodion o Gyfarfod Llywodraethwyr a Rhieni wedi dilyn cais gan y Rhieni.

• Cynorthwyo'r Corff Llywodraethol i ddarparu tystiolaeth ar gyfer Gwobrau Ansawdd i'r Corff Llywodraethol.

• Mynychu'r cyrsiau a drefnir ar gyfer Clercod Llywodraethol, a chwblhau'r cwrs mandadol i glercod newydd. Dosbarthu gwybodaeth am hyfforddiant i'r Corff Llywodraethol, cadw cofnod o'r llywodraethwyr fynychodd.

• Cadw cofnod fanwl o'r llywodraethwyr sydd angen mynychu cyrsiau mandadol . Rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn perygl o'i ddatgymhwyso oherwydd diffyg mynychu cwrs mandadol.

• Disgwylir i'r Clerc gadw cofnod a gofalu fod Dadleniad Datganiad Troseddol a Datganiad Buddiant pob llywodraethwr yn gyfredol.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Angen i weithio oriau anghymdeithasol - fin nos fel rheol y cynhelir cyfarfodydd y Cyrff Llywodraethol.

• Angen bod ar gael i gofnodi mewn 6 cyfarfod mewn blwyddyn

• Angen bod ar gael i gofnodi mewn is-baneli statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol

• Angen bod ar gael i gofnodi mewn cyfarfod ffurfiol ar gais Rhieni gyda Llywodraethwyr

ORIAU CLERCIO LLYWODRAETHOL (GS4) CYNRADD

Paratoi ymlaenllaw cyn cyfarfod3 awr bob cyfarfod

Cofnodion a gohebu wedi cyfarfod7.5awr bob cyfarfod

Cyfarfod 2 awr

Cyfanswm oriau fesul cyfarfod12.5awr

12.5awr x 6 cyfarfod = 75 awr

Gweinyddiaeth - DBS,buddiannau, Cyrsiau Llywodraethwyr, Etholiadau, Aelodaeth, Rhestr Polisiau

7.5 awr mewn blwyddyn

Gweinyddu =7.5 awr

Yn ychwanegol i hyn telir 2 awr ar gyfer hyfforddiant

Cyfanswm oriau = 84.5awr

NODYN

• 6 cyfarfod Corff Llywodraethol mewn blwyddyn.

• Pe byddai'r cyfarfod yn mynd dros 2 awr gall y Clerc hawlio gor-amser.

• Pe byddai'r corff angen gwasanaeth y Clerc mewn is-banel neu mwy na 6 cyfarfod gall y Clerc hawlio'r amser hwn yn ychwanegol.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi