MANYLION
  • Lleoliad: Caldicot, Monmouthshire, NP26 3LZ
  • Oriau: Rhan amser
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Arlwyo - Ysgol Gynradd Gwyndy

Cyngor Sir Fynwy
Rydym yn chwilio am berson i lenwi’r rôl fel Cynorthwyydd Arlwyo yn Ysgol Gynradd Gwyndy. Bydd dyletswyddau yn cynnwys paratoi, gweini, clirio, golchi a glanhau.

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn chwaraewr tîm, ac yn meddu ar y gallu i gyfathrebu yn effeithiol ac effeithlon gyda staff ar bob lefel.

Bydd angen cymhwyster Hylendid Bwyd CIEH Lefel 2 ond nid yw hyn hanfodol gan y bydd hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Pwrpas y Rôl:-
Rydym yn chwilio am berson i lenwi’r rôl fel Cynorthwyydd Arlwyo yn Ysgol Gynradd Gwyndy. Bydd dyletswyddau yn cynnwys paratoi, gweini, clirio, golchi a glanhau.

Disgwyliadau a Chanlyniadau’r Rôl hon:-
Bydd disgwyl i chi gynorthwyo gyda’r broses o sicrhau bod y gwasanaeth prydau bwyd ysgolion yn cael ei ddarparu yn ddidrafferth ar unrhyw safle addysgol.

Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus fod yn chwaraewr tîm, ac yn meddu ar y gallu i gyfathrebu yn effeithiol ac effeithlon gyda staff ar bob lefel.

Bydd angen cymhwyster Hylendid Bwyd CIEH Lefel 2 ond nid yw hyn hanfodol gan y bydd hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i’r ymgeisydd llwyddiannus.

Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:-
• Gweithio o dan oruchwyliaeth y cogydd a/neu’r cogydd cynorthwyol.

• Dilyn unrhyw gyfarwyddiadau o ran paratoi, coginio a gweini bwyd neu glirio, golchi neu lanhau.

• Yn barod i weithio ar unrhyw amser rhesymol pan fydd yr uned arlwyo

• Yn barod i weithio oriau ychwanegol fel sydd angen o ganlyniad i absenoldeb pobl eraill neu'r galw cynyddol am brydau bwyd ayyb.

• Meddu ar Hylendid Bwyd Lefel 2 CIEH (byddwn yn cynnig hyfforddiant os nad yw’r ymgeisydd yn meddu ar hyn).

• Gweithio fel rhan o dîm arlwyo Sir Fynwy ar unrhyw safle addysgol.

• Mynd ar unrhyw gyrsiau hyfforddi fel sydd angen ar gyfer y swydd.

• Cydymffurfio gyda’r gofynion sydd wedi eu hamlinellu yn Llawlyfr Gweithdrefnau Arlwyo Sir Fynwy o ran safonau ansawdd.

• Cydymffurfio gyda rheoliadau Iechyd a Diogelwch.

• Cydymffurfio ag egwyddorion ac arferion cyfleoedd cyfartal fel sydd wedi eu hamlinellu ym Mholisi Cyfle Cyfartal y Cyngor.

• Rhaid cymryd gwyliau yn ystod gwyliau ysgol.