MANYLION
  • Lleoliad: Usk, Monmouthshire, NP15 1GA
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Dyddiad Dechrau: 01 September, 2024
  • Dyddiad Gorffen: 31 August, 2025
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Ysgol Tryleg

Cyngor Sir Fynwy
Daeth cyfle ar gael i wneud gwahaniaeth go iawn: y cyfle i ddod yn rhan o dîm effeithiol tu hwnt.

Mae rhywbeth arbennig iawn am Ysgol Gynraddd Tryleg a rydym yn anhygoel o falch o’n plant, rhieni cefnogol, staff ysbrydoledig a llywodraethwyr blaengar a Chymdeithas Rhieni ac Athrawon ymroddedig lle’r ydym i gyd yn cydweithio i wneud Ysgol Tryleg yn lle diogel, hapus a bywiog i ddysgu a gweithio.

Arwyddair ein hysgol yw ‘Meithrin, Ysbrydoli’, Cyflawni’ ac mae’n greiddiol i bopeth a wnawn. Mae gennym ddisgwyliadau uchel ohonom ein hunain a’n plant: mae’r heriau a osodwn iddynt yn dangos y credwn y gallwn ei gyflawni, gan feithrin yr hyder a’r uchelgais i wneud hynny.
Gyda’n gilydd, gweithiwn mewn partneriaeth gyda rhieni a gofalwyr i sicrhau fod ein disgyblion yn ennill gwerthoedd, gwybodaeth, sgiliau ac agweddau a fydd yn eu helpu i ddod yn ddysgwyr gydol oes gwydn a dinasyddion cyfrifol y dyfodol.

Rydym yn edrych am ymarferydd ysbrydoledig sy’n angerddol am wneud gwahaniaeth i brofiadau bywyd plentyn.

Bydd gennych ddisgwyliadau uchel o ddysgu ac ymddygiad, gan herio pob plentyn i wneud eu gorau glas. Gyda’ch egni ac ymroddiad i fynd yr ‘ail filltir’, byddwch yn llunio dyfodol ein hysgol mewn cytgord â’n hethos a gweledigaeth, i feithrin, ysbrydoli a chyflawni. Rydych yn credu mewn gwelliant parhaus ar eich cyfer eich hun fel ffordd o gyflawni’r gorau oll ar gyfer plant a theuluoedd ein cymuned.

DIBEN Y SWYDD

Ymgymryd â dyletswyddau Athro/Athrawes yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol, y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth, a deddfwriaeth bresennol arall ym maes addysg.

MEYSYDD ALLWEDDOL

Addysgeg

1. Sicrhau’r deilliannau gorau yn gyson i ddysgwyr trwy fireinio a datblygu addysgu yn raddol a dylanwadu ar ddysgwyr.
2. Sefydlu a chynnal amgylchedd dysgu sy’n annog arferion ac ymddygiadau dysgu cadarnhaol sy’n cyflawni’r pedwar diben ac sy’n galluogi dysgwyr i ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain.
3. Defnyddio amrywiaeth o dechnegau asesu i fonitro a chofnodi cynnydd disgyblion ac i lywio cynllunio er mwyn diwallu anghenion canfyddadwy dysgwyr.
4. Gwneud defnydd effeithiol o wahaniaethu er mwyn diwallu anghenion bob dysgwr.
5. Gwneud defnydd effeithiol o ddata i lunio adborth, cofnodion ac adroddiadau cywir ar yr adegau priodol, er mwyn hwyluso dealltwriaeth ddwysach o ddysgu a gwella’r profiad dysgu.
6. Sicrhau fod rhieni, gofalwyr, partneriaid eraill a rhanddeiliaid y cyfrannu at ddatblygiad dysgwyr mewn perthynas â phedwar diben y cwricwlwm.
7. Ymgorffori, datblygu ac ymestyn y pedwar diben wrth gynllunio, paratoi ac addysgu, er mwyn dylanwadu ar brofiadau dysgwyr a sicrhau deilliannau cadarnhaol i bob dysgwr.
8. Defnyddio dulliau addysgeg a disgyblaethau perthnasol o fewn ac ar draws cynnwys y pwnc, meysydd dysgu a themâu trawsgwricwlaidd, wrth gynllunio a darparu.
9. Defnyddio amrywiaeth helaeth o ddulliau addysgu a phrofiadau dysgu cyfunol.
10. Ehangu profiadau diwylliannol ieithyddol, crefyddol ac economaidd-gymdeithasol dysgwyr trwy’r defnydd o gyd-destunau dysgu dilys, go iawn.
11. Cydweithio â dysgwyr i dracio cynnydd eu dysgu a nodi beth yw’r camau nesaf sy’n ofynnol er mwyn gwneud cynnydd.
12. Datblygu a defnyddio themâu trawsgwricwlaidd sy’n berthnasol i feysydd dysgu er mwyn datblygu cysylltiadau a galluogi adfyfyrio effeithiol ar ddysgu.
13. Cyfathrebu a darparu lefelau priodol o her a disgwyliadau ar gyfer galluoedd a nodweddion y myfyrwyr er mwyn cymell dysgwyr i gyflawni.
14. Ceisio canfod safbwyntiau dysgwyr a gwrando arnynt a’u cymryd i ystyriaeth er mwyn ennyn eu diddordeb yn eu dysgu eu hunain a’u hannog i fod yn gyfranogwyr gweithgar yn y dysgu hwnnw.
15. Annog dysgwyr i adfyfyrio ar eu dysgu eu hunain a chyfrannu’n weithgar at y gwaith o reoli eu hagenda dysgu eu hunain.
16. Annog dysgwyr i fod yn hunangymhellol ac yn hunangyfeiriol, a sicrhau eu bod yn cyflawni hynny.
17. Sicrhau fod amser ar gael i ddysgwyr i adfyfyrio ar eu dysgu a’u hymddygiadau eu hunain a’u gwerthuso.
18. Hybu cysylltiadau rhwng profiadau dysgu a deilliannau o ansawdd uchel a gwella dysgu a llesiant.
19. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant ac Oedolion yn flaenoriaethau allweddol i'r Ysgol a'r Cyngor. Ein nod yw cefnogi plant ac oedolion sydd mewn risg i fod mor ddiogel ag y gallant ac i gyflawni eu potensial. Chi sy'n gyfrifol am chwarae eich rhan yng ngwaith lles, diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn risg. Bydd gennych gyfrifoldeb i gymryd rhan mewn hyfforddiant i'r lefel briodol o ddiogelu ac mae gennych ddyletswydd i gyflawni eich cyfrifoldebau personol o ran diogelu.


Cydweithredu

20. Cydweithredu’n gynhyrchiol â phob partner sy’n gysylltiedig â dysgu er mwyn ehangu effeithiolrwydd proffesiynol.
21. Mynd ati i geisio a defnyddio cyngor a chymorth o amrywiaeth o ffynonellau ffurfiol ac anffurfiol, a gweithredu hynny er mwyn gwella’r deilliannau i ddysgwyr.
22. Gweithio’n gydweithredol ac yn arloesol gyda chydweithwyr yn yr ysgol er mwyn gwella profiadau dysgwyr.
23. Cynorthwyo pobl eraill i ddatblygu trwy gyfrannu at fentrau ar lefel yr ysgol gyfan, cyfranogi mewn rhaglenni sy’n ehangu arbenigedd a datblygu perthnasoedd o ansawdd uchel â chydweithwyr er mwyn dylanwadu’n gadarnhaol ar brofiadau dysgwyr.

Dysgu Proffesiynol

24. Ysgwyddo cyfrifoldeb am ei (d)dysgu proffesiynol ei hun trwy fynd ati’n rheolaidd i geisio ehangu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth, a derbyn her a chymorth yn frwdfrydig er mwyn datblygu addysgeg yn raddol.
25. Darllen yn eang er mwyn gwella dealltwriaeth o theorïau ac ymchwil sy’n ymwneud ag asesu, addysgeg, datblygiad plant a phobl ifanc a dysgu am faterion sy’n berthnasol i gynllunio ac arferion beunyddiol.
26. Cyfranogi mewn rhwydweithiau a chymunedau proffesiynol.
27. Defnyddio’r Pasbort Dysgu Proffesiynol i gofnodi dysgu proffesiynol ac adfyfyrio ar arferion gwaith a’u gwella.



Arloesedd

28. Mynd ati’n arloesol i ddatblygu technegau a dulliau i wella addysgeg a deilliannau.
29. Cynorthwyo pobl eraill i ddatblygu trwy fodelu technegau addysgu a defnyddio profiad i gynnig cyngor ac arbenigedd.
30. Defnyddio barn broffesiynol a dadansoddi beirniadol i ddatblygu technegau newydd a llunio arferion gwaith er mwyn datblygu dysgu.
31. Gwerthuso, dadansoddi a rhannu dylanwad newidiadau mewn arferion.

Arwain

32. Dangos arweinyddiaeth ym mhob agwedd o arferion pobl eraill i gynorthwyo ag ymdrechion pobl eraill ar draws yr ysgol a thu hwnt i gyflawni’r uchelgeisiau ar gyfer addysg yng Nghymru.
33. Arddangos ymrwymiad personol a phroffesiynol i egwyddorion tegwch a sicrhau fod potensial bob dysgwr yn cael ei gyflawni yn llawn.
34. Ysgwyddo cyfrifoldeb corfforaethol trwy sicrhau dealltwriaeth o bolisïau, egwyddorion a gwerthoedd yr ysgol, a chydymffurfio â hwy. Mae hynny’n cynnwys diogelu, iechyd a diogelwch a chydraddoldeb.
35. Dangos ymroddiad i arwain dysgu trwy gyfranogi mewn profiadau cydweithredol yn yr ysgol ac mewn cyd-destunau eraill.
36. Cynorthwyo’r sawl sy’n gwneud swyddi arweinyddion ffurfiol trwy geisio datblygu dealltwriaeth o swyddogaethau, cyfrifoldebau a chyfraniad pobl eraill ar draws yr ysgol tuag at ethos yr ysgol a chyflawni ei gweledigaeth.