MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Leadership 9 - 13
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyfle am Secondiad - Dirprwy Bennaeth - Ysgol Gynradd Maendy
Torfaen Local Authority
Cyflog: Leadership 9 - 13
I gychwyn ar ôl hanner tymor Chwefror 2026 am flwyddynYstod Cyflog: L9 - L13
Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Maendy yn dymuno penodi uwch arweinydd profiadol, arloesol a llawn cymhelliant sydd â hanes o lwyddiant i ysbrydoli a grymuso staff a disgyblion i gyflawni rhagoriaeth mewn addysgu, dysgu a lles. Rydyn ni'n chwilio am Ddirprwy Bennaeth a fydd yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer Addysgu a Dysgu ar draws yr ysgol, gan yrru safonau uchel a meithrin diwylliant o welliant parhaus.
Nodwch: Mae'r swydd hon yn cael ei chynnig ar secondiad am flwyddyn i gychwyn ar ôl hanner tymor mis Chwefror 2026. Gofynnir i ymgeiswyr sydd â diddordeb drafod eu diddordeb gyda'u Pennaeth presennol cyn cyflwyno cais.
Mae Ysgol Gynradd Maendy yn ysgol fywiog a chynhwysol sydd wrth galon y gymuned. Rydym yn falch o gynnig ystod o ddarpariaethau arbenigol yr Awdurdod Lleol, gan gynnwys Canolfan Adnoddau Dysgu, Pont Fach, darpariaeth asesu allgymorth rhan-amser, a Meithrinfa ran-amser. Yn ddiweddar, rydym wedi symud i'n hadeilad ysgol newydd sbon yn ystod tymor yr haf, sy'n bennod newydd a chyffrous i'r ysgol. Mae'r datblygiad hwn wedi rhoi cyfle i ni ehangu o dderbyn un dosbarth yn y flwyddyn i dderbyn dau, felly bydd disgwyl i'n niferoedd gynyddu'n sylweddol.
Rydym yn chwilio am uwch arweinydd rhagorol sydd:
- Â hanes o lwyddiant o ran ysbrydoli staff a disgyblion i gyflawni safonau uchel mewn addysgu, dysgu a lles
- Wedi ymrwymo i arwain Addysgu a Dysgu ar draws yr ysgol
- Yn dangos ymrwymiad cryf i gynhwysiant ac adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda'r holl randdeiliaid
- Yn gallu arwain Diogelu ar draws yr ysgol
- Yn angerddol am ddatblygu eraill a meithrin cariad at ddysgu
Dyma gyfle unigryw i ymuno ag ysgol ar adeg dyngedfennol yn ei datblygiad a chyfrannu at ei thwf a'i llwyddiant parhaus.
Bydd y broses ddethol yn cynnwys arsylwi ar wers, ac yna cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer.
Dyddiad Cau: Dydd Sul 7 Rhagfyr
Tynnu'r rhestr fer: Dydd Llun 8 Rhagfyr
Cyfweliadau: Dydd Llun 15fed a dydd Mawrth 16eg o Ragfyr