MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro\/Athrawes Cyfnod Sylfaen x 2 Dros Dro - Ysgol Y Foryd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
YSGOL BABANOD Y FORYD

Rhodfa Morfa , Bae Cinmel, Conwy LL18 5LE

Ffôn: 01745 351892 ebost: pennaeth@yforyd.conwy.sch.uk

Gwefan: www.yforyd.co.uk

Pennaeth: Mrs Nicola Rowlands

Yn eisiau ar gyfer Medi 2024

ATHRO/ATHRAWES LLAWN AMSER CYFNOD SYLFAEN x 2 SWYDD DROS DRO

01/09/2024 - 31/08/2025

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon

Mae Corff Llywodraethol Ysgol y Foryd yn falch o rannu cyfle i 2 athro Cyfnod Sylfaen ymuno â'n tîm ardderchog am flwyddyn. Mae'r gallu i weithio ar draws y Cyfnod Sylfaen yn bwysig ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn athrawon sydd â disgwyliadau uchel o ddisgyblion, gyda'r gallu i gefnogi disgyblion i gyrraedd eu potensial, yn emosiynol ac yn academaidd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â thim hapus a brwdfrydig o athrawon a staff cynorthwyol broffesiynol ac ymroddgar. Mae'r cyfle yma yn codi yn dilyn ymddeoliadau ac edrychwn ymlaen at groesawu staff brwdfrydig ac angerddol sy'n ysbrydoli ac yn ofalgar wrth i ni symud ymlaen at y Cwricwlwm Newydd.

Dylai'r ymgeiswyr: -
  • ddangos ymrwymiad angerddol ac ysgogol at safon uchel o ddysgu ac addysgu
  • fod yn athro dosbarth rhagorol
  • dangos wybodaeth llawn o'r Cyfnod Sylfaen a'r Cwricwlwm Newydd
  • arddangos disgwyliadau uchel o ddysgu a disgyblaeth
  • allu sefydlu perthynas llwyddiannus gyda oedolion a phlant
  • arddangos ymwybyddiaeth o'r pwysiwgrwydd o greu awyrgylch fagwrol

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae'n ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd, neu ymweld â'r ysgol cysylltwch â Mrs Nicola Rowlands ar 01745 351892.

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.

Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English