MANYLION
  • Lleoliad: Lampeter,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Arweinydd Cynnydd - Ysgol Bro Pedr

Cyngor Sir Ceredigion
Ynglŷn â'r rôl
Erbyn 2il o Fedi 2024, mae Corff Llywodraethol Ysgol Bro Pedr am benodi Arweinydd Cynnydd eiddgar sydd â'r weledigaeth a'r gallu i arwain, ysbrydoli ac ysgogi cymuned gyfan. Mae Ysgol Bro Pedr yn falch o gynnig y cyfle cyffrous hwn i Arweinydd Canol arloesol, egn ïol ac ymroddgar sy'n brofiadol wrth yrru safonau drwy ddefnydd strategol o ddata a thechnoleg i ymuno â'n Tîm Arwain fel Arweinydd Cynnydd. Rydym yn chwilio am arweinydd rhagorol gyda hanes profedig o lwyddiant. Bydd gan y sawl a benodir yr angerdd, egni a'r brwdfrydedd i gefnogi'r Pennaeth a'r Tîm Arwain wrth arwain yr ysgol. Pwrpas craidd y rôl fydd darparu arweiniad strategol a chyfeiriad o ran asesu, tracio cynnydd, defnydd strategol o ddata, adrodd ar gynnydd a iechyd a diogelwch o fewn yr ysgol.

Mae Ysgol Bro Pedr yn ysgol flaengar a chyffrous. Gwahoddir ceisiadau gan arweinwyr profiadol, sy'n frwdfrydig ac ysbrydoledig, i adeiladu ar y dreftadaeth gref hon. Rydym yn falch iawn ein bod yn
  • ysgol hapus a gwâr yng nghalon ein cymuned
  • dathlu cynnydd a llwyddiannau pawb yn ddi-wahân
  • gofalu am ein gilydd ac am eraill
  • anelu am y gorau bob tro
  • cynnig addysg a phrofiadau o'r radd flaenaf
Bydd y sawl a benodir yn cynorthwyo yn y broses o arwain a rheoli'r ysgol ac yn meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth ragorol a fydd yn:
  • hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb
  • dylanwadu ar gydweithwyr trwy osod esiampl fel model rôl ysbrydoledig sydd yn drefnus a chydwybodol
  • cysylltu â staff, disgyblion a rhieni i annog ethos gwaith effeithiol
Mae'r ysgol yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn un o ysgolion cyntaf 3-19 Cymru, ac yn torri tir newydd o ran darparu addysg gydol oed ar gyfer ein disgyblion. Mae Ysgol Bro Pedr yn gyfuniad o ddwy ysgol flaenorol, sef Ysgol Gynradd Ffynnonbedr ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Cafodd Ysgol Bro Pedr ei harolygiad Estyn diwethaf yn Hydref 2016. Er bod nifer o ddisgyblion yn cychwyn yn yr ysgol yn 3 oed, daw nifer yn ogystal o ysgolion cynradd partner eraill o'r Awdurdod Lleol ac o Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin. Mae 1,007 o ddisgyblion ar rôl yr ysgol - 329 o ddisgyblion Meithrin i flwyddyn 6 a 678 o ddisgyblion Blwyddyn 7-13 (sy'n cynnwys 67 o ddisgyblion ym mlwyddyn 12 a 69 o ddisgyblion ym mlwyddyn 13).

Daw 70% o ddisgyblion yr ysgol o gartrefi lle nas defnyddir y Gymraeg. Mae'r disgyblion yn cael eu ffrydio'n ieithyddol, gyda dosbarthiadau cyfrwng Cymraeg a dosbarthiadau Cymraeg Ail-Iaith ym mlynyddoedd 3-13. Mae'r ysgol wedi mynd trwy ymgynghoriad llwyddiannus yn ddiweddar sy'n golygu bod disgyblion y Cyfnod Sylfaen i gyd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar hyn o bryd, mae 24.42% o'n disgyblion yn hawlio prydiau ysgol am ddim (20.64% o'n disgyblion oed uwchradd a 32.21% o'n disgyblion oed cynradd). Mae'r ysgol yn darparu ar gyfer ystod lawn o alluoedd. Mae 11.02% o'n disgyblion Saesneg fel Iaith Ychwanegol, sy'n uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae'r ganran yn uwch o fewn yr oed cynradd (12.46%) o'i gymharu â'r oed uwchradd (10.32%). Mae proffil poblogaeth yr ysgol yn gosmopolitan, gyda Chymry cynhenid Ceredigion a Sir Gâr, canran uchel o siaradwyr Cymraeg, ond sydd o gefndir Seisnig, nifer gynyddol o ddisgyblion sy'n hwyrddyfodiaid i'r ardal a'r ysgol a chanran sylweddol o ddisgyblion o Wlad Pwyl, Rwmania a chanran llai o ddisgyblion o Falaysia a China.

Lleolir Canolfan Y Bont, sef adnodd sirol ar gyfer disgyblion o oed uwchradd ag anghenion amrywiol (ASD, SLD, PMLD, MSI), ar safle'r ysgol. Mae'r ganolfan yn rhan lawn o'r ysgol, ac mae'r disgyblion ar rôl Ysgol Bro Pedr. Yn ogystal, sefydlwyd Uned Sgiliau Bywyd sy'n darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol lled ddwys a disgyblion ymddygiadol bregus a chynigai barhad a dilyniant i rai o ddisgyblion Canolfan y Bont lle'n berthnasol ac ymarferol. Mae yna 14 o ddisgyblion yn mynychu Canolfan Y Bont a 22 o ddisgyblion yn mynychu'r Uned Sgiliau Bywyd, ar hyn o bryd.

Ym mis Medi 2024, mi fydd Tîm Arwain Ysgol Bro Pedr yn cynnwys: Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, dau Bennaeth Cynorthwyol, Arweinydd Lles ac Arweinydd Cynnydd.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Proses ymgeisio

  • Dyddiad cau - Dydd Gwener, 17eg o Fai 2024
  • Cyfweliadau - Dydd Mercher, 22ain o Fai 2024
  • Dyddiad Dechrau - Dydd Llun, 2il o Fedi 2024
Gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar 22ain o Fai ar gyfer y cyfweliadau.

Am fwy o wybodaeth neu drefnu ymweliad cysyllter â Chadeirydd y Llywodraethwyr drwy Glerc y Llywodraethwyr Angela.Jones3@ceredigion.gov.uk

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant