MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Llawn Amser

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Pennaeth: Mrs C Edwards

ATHRO LLAWN AMSER DROS DRO

MPS/UPR

Mae'r Corff Llywodraethu yn Lôn Barcas yn dymuno penodi athro dosbarth cynradd rhagorol o 1 Medi 2024 ar gontract cyfnod penodol am 1 flwyddyn tra y bydd aelod o staff yn mynychu Cynllun Sabothol Cymraeg.

Mae Lôn Barcas yn gymuned ysgol ofalgar, sy'n cyflawni safonau uchel ar gyfer dysg disgyblion ac ymdeimlad diogel o les.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â thîm ymroddedig o staff a:

• Byddant yn hyrwyddo dyheadau uchel a'r penderfyniad i gyflawni ar gyfer pob plentyn.

• Byddant yn flaengar, yn hyblyg, yn llawn cymhelliant ac yn ysbrydoli.

• Byddant yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol, yn rhagweithiol ac yn gweithio'n dda fel rhan o dîm.

• Byddant yn meddu ar wybodaeth gyfoes ynglÅ•n â'r datblygiadau diweddaraf o ran addysgeg a'r cwricwlwm yng Nghymru.

• Byddant wedi ymrwymo i ddatblygu llythrennedd, rhifedd, Cymraeg a chymhwysedd digidol ar draws cwricwlwm gytbwys sy'n gyfoethog a dilys o dan arweiniad y dysgwyr.

• Datblygu amgylchedd dysgu sydd yn meithrin creadigrwydd, datrys problemau ac annibyniaeth.

• Anelu i greu diwylliant cefnogol sy'n hyrwyddo cydraddoldeb a lles positif.

• Rhannu sgiliau ac arbenigedd wrth ddatblygu gweithgareddau allgyrsiol.

Mae sgiliau/diddordeb amlwg yn natblygiad cerddoriaeth yn ddymunol, ond nid yw'n hanfodol.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Nid yw'r cyfleuster ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer swyddi gwag mewn ysgolion ar hyn o bryd, a fyddech cystal â llenwi'r ffurflen gais PDF sydd ynghlwm isod yn electronig. Pe bai arnoch chi angen cwblhau'r ffurflen yn ysgrifenedig, a fyddech cystal ag argraffu, llenwi a dychwelyd y ffurflen i'r ysgol.

Dylid dychwelyd ceisiadau wedi'u cwblhau yn uniongyrchol i'r Pennaeth gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost isod.

Rydym yn croesawu ymweliadau â'r ysgol ar ddydd Iau 9 Mai 2.15pm neu ddydd Mercher 15 Mai 3.30pm. E-bostiwch yr ysgol mailbox@barkerslane-pri.wrexham.sch.uk neu ffoniwch yr ysgol i gadarnhau y byddwch chi'n bresennol.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

DYDDIAD CAU: Dydd Gwener 17 Mai - HANNER DYDD

ARSYLWADAU ADDYSGU: w/c 20 Mai

CYFWELIADAU: w/c 3 Mehefin