MANYLION
  • Lleoliad: Iâl,
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £12.00 - £14.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Gyrrwr CC/2587

Coleg Cambria

Cyflog: £12.14 - £12.14

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad 'Rhagorol' yn ein harolygiad diweddar gan Estyn ac wedi ennill Gwobr Platinwm Iechyd yn y Gweithle y Safon Iechyd Corfforaethol, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Gyrrwr Bws Mini - Oriau Achlysurol

Lleoliad: Iâl

Math o Gontract: Telir Fesul Awr, Gwaith Achlysurol

Cyflog: £12.14 yr awr

Mae Coleg Cambria yn chwilio am nifer o Yrwyr Bws Mini i weithio oriau achlysurol i ymuno â'u

tîm Ystadau a Chyfleusterau o fis Medi 2024. Fel Gyrrwr Bws Mini sy'n gweithio oriau achlysurol yng Ngholeg

Cambria byddwch chi'n gyrru cerbydau'r Coleg yn cludo staff, myfyrwyr ac eraill yn ôl yr angen.

Mae'r Coleg yn cynnal teithiau trwy gydol y flwyddyn. Bydd y rhain yn cael eu cynnal ar unrhyw

ddiwrnod o'r wythnos ac ar brydiau bydd galw am yrrwr yn gynnar yn y bore, gyda'r nos ac ar

benwythnosau. Efallai y bydd gofyn i chi gasglu, cludo a danfon eitemau a deunyddiau o

wahanol leoliadau yn fan y Coleg neu'r fan bost drydan, gan sicrhau eich bod chi'n cymryd

camau i atal unrhyw ddifrod. Eich cyfrifoldeb chi fydd sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu

gweithredu i ddiogelu teithwyr bob amser. Bydd hyn yn cynnwys cynnal gwiriadau ac archwilio'r

cerbydau yn weledol i sicrhau eu bod yn addas i'w gyrru ar y ffordd cyn eu defnyddio. Byddwch

chi'n gyrru'n gyfreithlon ac yn ddiogel bob amser yn ogystal â chydymffurfio a phrosesau a

gweithdrefnau'r Coleg.

Gofynion Hanfodol

• Mae trwydded yrru lawn, lan y DU gyda D1 yn orfodol ar gyfer y swydd hon

• Mae trwydded yrru D1+E yn ddymunol iawn ar gyfer y swydd hon

• Mae'n hanfodol bod gennych chi brofiad blaenorol wedi'i brofi o yrru bysiau mini (Bydd

angen i yrwyr gwblhau hyfforddiant MIDAS hefyd)

• Gallu dangos sgiliau trefnu a rheoli amser gwych

• Sgiliau cyfathrebu gwych yn ysgrifenedig ac ar lafar

• Yn hunanysgogol, yn drefnus ac yn gallu gweithio'n annibynnol ar eich liwt eich hun

• Llythrennedd TG sylfaenol a pharodrwydd i ddysgu er mwyn gwneud hi yn bosib i chi

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi

ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig

ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i

weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl.

Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y

swydd.

Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer

unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau'r cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y

swydd.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai