MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 15 Gorffennaf, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £24,590 - £28,477
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...Teitl y Swydd: Arddangoswr Hyfforddwr mewn Peirianneg
Lleoliad: Ffordd y Bers, Wrecsam
Math o Gontract: Parhaol, Llawn Amser
Cyflog: £24,590 - £28,477
Rydym yn chwilio am Hyfforddwr Arddangoswr profiadol ar gyfer ein safle Ffordd y Bers, Wrecsam. Byddwch yn gyfrifol am gyflwyno sesiynau ymarferol cynhwysfawr yn ein gweithle modern sydd ag offer o safon diwydiant. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys cynllunio gweithgareddau ymarferol gan gydweithio â thîm y cwrs. Byddwch yn sicrhau datblygiad ein myfyrwyr yn ogystal â rheoli tasgau gweinyddol allweddol fel cadw cofnodion a gwerthusiadau myfyrwyr.
Bydd yn hanfodol i chi gadw at ganllawiau'r Coleg ar Gyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, ac Ansawdd. Rydym yn rhoi pwyslais ar dwf proffesiynol ac yn cynnig cyfleoedd datblygiad staff a Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
Os oes gennych arbenigedd sylweddol yn yr Amgylchedd mewn Peirianneg ac yn awyddus i fentora'r genhedlaeth nesaf byddwn yn wrth ein boddau i gael eich cais. Ymunwch â'n tîm ymroddedig ar safle Ffordd y Bers er mwyn cyfrannu at gynnydd proffesiynol ein diwydiant.
Gofynion Hanfodol
• Mae'n rhaid bod gennych gymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn pwnc proffesiynol perthnasol neu gymhwyster cyfwerth
• Profiad mewn amgylchedd Peirianneg
• Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a'r ffyrdd y byddwch yn sicrhau bod gennych y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn
• Gwybod am bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu
• Dangos lefel dda o gymhwysedd TG. Rhaid gallu defnyddio'r Rhyngrwyd a'r Fewnrwyd yn ogystal â bod yn barod a gallu dysgu sut i ddefnyddio rhaglenni a systemau TG newydd
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig