MANYLION
  • Lleoliad: Rhos-on-Sea,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 17 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynghorwr Myfyrwyr (cyfnod mamolaeth)

Cynghorwr Myfyrwyr (cyfnod mamolaeth)

Grwp Llandrillo Menai
Darparu gwasanaeth cynghori a chefnogi effeithiol, effeithlon a chyfeillgar i ddarpar fyfyrwyr a dysgwyr sy'n astudio yng Ngholeg Llandrillo. Bydd y dyletswyddau'n cynnwys gweithio wrth ddesg gymorth gan gynorthwyo dysgwyr sydd mewn perygl o ymddieithrio, darparu cymorth a'u cyfeirio fel y bo briodol, darparu gwybodaeth ac arweiniad ar amrediad o ddarpariaethau a gwasanaethau ariannol i fyfyrwyr, gweinyddu cronfeydd cyllid myfyrwyr, derbyn a chofnodi ceisiadau gan fyfyrwyr am wasanaethau ariannol, mewnbynnu a chadw cofnodion o ddata.

Byddwch yn gallu dangos bod gennych brofiad o weithio mewn swydd sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid a bydd arnoch angen sgiliau TG da. Mae'n hanfodol fod gennych sgiliau gwasanaethu cwsmeriaid a chyfathrebu o'r radd flaenaf. Mae'r gallu i fod yn hyblyg a gweithio mewn amgylchedd deinamig yn hanfodol.

Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
AS/244/24

Cyflog
£23,411.65 - £26,539.52 y flwyddyn. Cymorth Busnes Graddfa 3 - 4. Pwynt 17 - 24

Lleoliad Gwaith
  • Llandrillo-yn-Rhos

Hawl gwyliau
  • 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
  • Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
  • Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod.
  • Bydd gan y rhai ar gontractau Amser Tymor hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod a delir fel rhan o'r cyflog blynyddol.

Patrwm gweithio
Dros-dro (9 mis)

Llawn amser

37 awr yr wythnos

Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Math o gytundeb
Llawn Amser Cyfnod Penodol

Dyddiad cau
17 Mai 2024
12:00 YH(Ganol dydd)