MANYLION
  • Lleoliad: Swansea, Swansea, SA2 8PP
  • Pwnc: Addysg Uwch
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg

This job application date has now expired.

UWCH-DDARLITHYDD ADDYSGU UWCH

Prifysgol Abertawe
Fel rhan o’i hymrwymiad strategol i helpu i wella safonau addysgol yng Nghymru, mae Prifysgol Abertawe wedi sefydlu'r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod. Mae'r Adran eisoes wedi lansio cyfres arloesol o raglenni Addysg a arweinir gan ymchwil, sy'n canolbwyntio ar ymchwil. Mae'r Adran ac ysgolion ledled de Cymru wedi creu Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe (PYPA) er mwyn darparu rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA). Ar ôl lansio'n llwyddiannus ei rhaglen AGA uwchradd, mae'r Adran yn ehangu er mwyn darparu rhaglen AGA gynradd a fydd yn dechrau yn 2022. Mae'r rhaglen yn datblygu gwybodaeth broffesiynol ac ymarfer addysgegol effeithiol a fydd yn mynd i’r afael â’r heriau a nodwyd yn y ddogfen ddiweddar gan Lywodraeth Cymru "Addysg yng Nghymru: ein cenhadaeth genedlaethol”.

Er mwyn cyflawni hyn, mae'r Adran am benodi Uwch-ddarlithydd AGA, er mwyn cefnogi datblygiad athrawon dan hyfforddiant ar draws cyfnodau oedran cynradd a Meysydd Dysgu a Phrofiad. Byddem yn croesawu ymgeiswyr sydd â phrofiad yn y dyniaethau a'r celfyddydau mynegiannol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, ond efallai bydd ganddynt rai dyletswyddau yng nghyd-destun ehangach Prifysgol Abertawe ac ar draws Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe. Pennaeth yr Adran fydd rheolwr llinell deiliad y swydd, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â Darlithwyr/Uwch-ddarlithwyr Cynradd ac Uwchradd eraill sy'n gweithio ar draws amrywiaeth o bynciau, cyfnodau oedran a Meysydd Dysgu a Phrofiad. Yn ogystal â'u dyletswyddau o ran AGA, bydd yr Uwch-ddarlithydd Cynradd yn meithrin ei sgiliau ymchwil, mentora a hyfforddi ac yn defnyddio'r rhain i wella'r gwaith o ddarparu AGA a datblygu athrawon dan hyfforddiant fel 'ymarferwyr myfyriol wedi'u llywio gan ymchwil' a all ddarparu gwelliant parhaus mewn ysgolion yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru.

https://www.swansea.ac.uk/cy/y-brifysgol/swyddi-a-gweithio-yn-abertawe/swyddi-gwag/details/?nPostingID=110199&nPostingTargetID=137763&ID=QHUFK026203F3VBQB7VLO8NXD&lg=CY&mask=suext