MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 5 | £28,142 - £31,022 per annum
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Rhagfyr, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Ymgysylltu Dechrau'n Deg

Torfaen Local Authority

Cyflog: Grade 5 | £28,142 - £31,022 per annum

CONTRACT: CYFNOD PENODOL (HYD NES 31/03/26 gyda photensial i ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad hwn yn amodol ar gyllid)

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Mae Dechrau'n Deg yn un o brif raglenni Llywodraeth Cymru i gefnogi teuluoedd â phlant 0-4 oed. Un o elfennau allweddol y rhaglen hon yw Gofal Plant ac mae'r ardal hon wedi'i hehangu'n ddiweddar i fwy o deuluoedd ar draws Torfaen.

Bydd y rôl hon yn allweddol i hyrwyddo Cynnig Gofal Plant Dechrau'n Deg yn Nhorfaen, gan godi ymwybyddiaeth o fuddion Dechrau'n Deg ymhlith teuluoedd a'r Sector Gofal Plant.

Trwy ymgymryd â'r rôl hon, byddwch yn ymgysylltu â theuluoedd cymwys yn y gymuned ac yn eu cefnogi i gael mynediad at Ofal Plant Dechrau'n Deg. Byddwch yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu â theuluoedd i roi gwybodaeth ac i feithrin cysylltiadau âr holl bartneriaid a rhanddeiliaid allweddol perthnasol.

Byddwch yn magu dealltwriaeth am yr hyn sy'n atal rhai teuluoedd rhag gwneud cais am ofal plant a bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i wella'r gwasanaeth hwn i deuluoedd. Er nad yw siarad Cymraeg yn hanfodol, mae'n hanfodol eich bod yn deall manteision dwyieithrwydd i blant ifanc ac yn hyrwyddo hyn fel rhan o'r cynnig gofal plant.

Yn aml bydd gofyn i chi weithio mewn mwy nag un lleoliad bob dydd. Rhaid i chi allu teithio o amgylch y Fwrdeistref Sirol.

Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch ag Emma Treadgold, Rheolwr Dechrau'n Deg ar 01633 647360 neu emma.treadgold@torfaen.gov.uk

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed, a'i hyrwyddo. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.