MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £10.00 - £12.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 12 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Arlwyo - Symudol

Cynorthwyydd Arlwyo - Symudol

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Cymhorthydd Arlwyo Llanw Parhaol

Grade 02, £11.59 awr

15 awr yr wythnos, yn ystod tymor yr ysgol yn unig

Rydym ni'n chwilio am Gymhorthydd Arlwyo Llanw parhaol i weithio pan fo aelodau staff gwasanaeth arlwyo prydau ysgol Wrecsam yn absennol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gerbyd, polisi yswiriant dilys sy'n cynnwys defnydd busnes, treth car a thrwydded yrru lawn. Telir treuliau teithio ar gyfer milltiroedd busnes o'r gegin ganolog i'r ysgol.

Mae'r prif ddyletswyddau yn cynnwys:-

1 - Paratoi bwydydd a diodydd e.e. paratoi ffrwythau, llysiau a saladau.

2 - Dyletswyddau coginio syml, megis paratoi byrbrydau.

3 - Dyletswyddau cyffredinol yn y gegin a'r ffreutur e.e. golchi llestri, symud byrddau a

chadeiriau yn y ffreutur, clirio'r ffreutur.

4 - Glanhau'r gegin, yr offer a'r wyneb gweithio.

5 - Cludo a gweini prydau bwyd pan fo angen.

6 - Unrhyw ddyletswydd arall sy'n gymesur â natur a gradd y swydd, yn unol â

chyfarwyddiadau'r Cogydd mewn Gofal.

7 - Gweithredu system gyfrifiadurol gweinyddu prydau ysgol

Cewch lenwi ffurflen gais ar-lein neu ofyn am becyn cais gan: Susan Thomas, Adain Gwasanaethau Cefnogol, Addysg ac Ymyrraeth Gynnar,Adeiladau'r Goron, 31 Heol Caer Wrecsam. LL13 8BG -Rhif ffôn: 01978 315647.

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.