MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 13 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes Dosbarth (Ysgol Gynradd Carreghofa)

Athro/Athrawes Dosbarth (Ysgol Gynradd Carreghofa)

Cyngor Sir Powys
Athro/Athrawes Dosbarth (Ysgol Gynradd Carreghofa)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Ysgol Carreghofa mewn pentref heddychlon o'r enw Llanymynech, rydym ger y ffin ym Mhowys ger Swydd Amwythig. Mae Carreghofa yn cynnwys 100 o ddisgyblion disglair ac unigryw, yn dysgu sut i dyfu a chreu. Bydd y disgyblion hyn yn tyfu i fod yn oedolion anhygoel yn y gymdeithas, gan ymestyn yn uchel am eu nodau a'u breuddwydion. Mae ein hardal yn llawn byd natur ac anturiaethau, o gamlesi hardd i'r Ardal Dreftadaeth. Mae Llanymynech yn ardal hyfryd i fyw ynddi. Mae Ysgol Carreghofa yn cynnig cyfle anhygoel i ddysgu iaith wahanol, rydym yn dysgu Cymraeg a'i diwylliant i ddysgwyr ifanc. O gyfarchion hawdd i frawddegau llawn. Yng Ngharreghofa rydym yn mwynhau gweithgareddau hwyliog, boed yn yr awyr agored yn ardal ein hysgol goedwig, neu yn greadigol y tu mewn gydag ysbrydoliaeth celf gan artistiaid enwog. Mae pwyllgorau yn cynnig amser i blant ddysgu bod yn gyfrifol gyda thasgau a chael cyfleoedd i wneud yr ysgol yn fwy egnïol, ecogyfeillgar a llawer mwy. Mae disgyblion Carreghofa wedi'u magu yng Nghymru a Lloegr, a chanran fechan hefyd wedi dod o wahanol wledydd hefyd. Mae dysgu gyda ni yn ffordd o addysgu plant i fod yn ddawnus, yn dalentog ac yn falch o fod yn ein cymuned ragorol.

'Ysgol Gynradd Carreghofa: Hapus Gyda'n Gilydd, Ceisio yn Uchel."

Ysgrifennwyd cyd-destun yr ysgol gan Flwyddyn 6

Rydym yn chwilio am athro sydd:
  • yn ymarferydd rhagorol gyda gwybodaeth dda o'r Cwricwlwm newydd i Gymru
  • yn gallu addysgu ar draws sawl grŵp blwyddyn (yn bennaf, BL - 2)
  • â disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad.
  • yn angerddol am gefnogi lles disgyblion ac yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth i'r plentyn 'cyfan'.
  • yn chwaraewr tîm ymroddedig a hyblyg sy'n ceisio ac yn rhannu syniadau.
  • yn barod i ddangos ymrwymiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau allgyrsiol.
  • yn meddu ar y sgiliau (neu'r ddawn i ddysgu sut) i gefnogi'r ysgol i hybu'r Gymraeg.
  • yn agored i ddulliau newydd sy'n cefnogi addysgeg.
Yn gyfnewid, gall yr ysgol gynnig i chi:
  • disgyblion cyfeillgar, parchus a brwdfrydig
  • tîm o staff gweithgar, cydwybodol ac ymroddedig
  • amgylchedd dysgu gofalgar, bywiog ag adnoddau da
  • cysylltiadau cryf gyda'r gymuned leol.

Caiff ymweliadau â'r ysgol eu croesawu'n gynnes a'u hannog yn gryf. Cysylltwch â swyddfa'r ysgol ar:

01691 830396 neu e-bostiwch office@carreghofa.powys.sch.uk am sgwrs neu i drefnu ymweliad.

Dyddiad cau ar gyfer ffurflenni cais wedi'u cwblhau: 13 Mai 2024

Llunio rhestr fer: 14 Mai 2024

Cyfweliadau: 22 Mai 2024

I gael ffurflen gais a manyleb swydd ffoniwch 01597826409, e-bost recruitment@powys.gov.uk neu gwnewch gais ar-lein yn www.powys.gov.uk