MANYLION
  • Lleoliad: Anglesey,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £12.00 - £14.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 07 Mehefin , 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

WRTH GEFN  - Cynorthwy-ydd Llyfrgell

WRTH GEFN - Cynorthwy-ydd Llyfrgell

Cyngor Sir Ynys Mon
Disgrifiad

Gwasanaeth: Gwasanaethau Dysgu

Adran: Llyfrgelloedd

Oriau: Fel bod angen (Dydd Llun - Dydd Gwener)

Cyflog: Graddfa 2, pwynt 4 (£11.9806 yr awr)

Cytundeb: Achlysurol

Swydd Cymhorthydd Llyfrgell Wrth Gefn yw hwn, mae gan Wasanaeth Llyfrgell Ynys Môn 7 llyfrgell, lleoliad gwaith i'w gytuno ond mae angen hyblygrwydd a pharodrwydd i weithio mewn gwahanol lyfrgelloedd.

Gweler y Swydd Ddisgrifiad ar gyfer y gofynion sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y swydd hon.

Mae croeso i chi gyflwyno cais yn eich dewis iaith. Bydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg neu'n Saesneg bob amser yn cael eu trin yn gyfartal.

Atodir isod disgrifiad swydd/manylion personol fel ffeil PDF.

Rydym yn eich cynghori i arbed y swydd ddisgrifiad a'r manyleb personol i'ch cyfrifiadur neu go bach gan unwaith y bydd y swydd yn cau, bydd y ddwy ddogfen yma yn diflannu.

** Ni ddylai staff Cyngor Sir Ynys Môn ymgeisio drwy'r dudalen allanol, bydd angen i chi fewngofnodi drwy Ddangosfwrdd Amdanaf I i wneud cais. Os na fyddwch yn gwneud cais drwy Dangosfwrdd Amdanaf I, yn anffodus ni dderbynnir eich ffurflen gais. **

Er mwyn gwneud cais am y swydd hon, rhaid i chi allu darparu'r atebion gofynnol i'r cwestiynau canlynol:
  • Ydych chi'n gyflogedig gan Gyngor Sir Ynys Mon (gan gynnwys staff wrth gefn)? Os ydych, gwnewch gais trwy Dangosfwrdd Amdanaf I. Os nad ydych yn gyflogedig, dewiswch 'Na' a pharhewch hefo'ch cais.