MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £25,000.00 - £30,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd Ysgolion Bro

Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd Ysgolion Bro

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd Ysgolion Bro

Gradd 06 £26,421 - £27,803 pro rata

18.5 awr yr wythnos

Mae hwn yn gontract neu secondiad Dros Dro / cyfnod penodol.

Dyddiad gorffen - 31/07/2025

Ysgolion a Swyddfa

Mewnol yn Unig

Seiliedig mewn Ysgolion a'r Swyddfa

Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae'n hanfodol gallu gyrru car oherwydd mae'n bosibl y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gludo plant, pobl ifanc a theuluoedd - bydd angen yswiriant busnes.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i fod yn rhan o brosiect newydd o'r enw Ysgolion Bro a fydd yn gweithredu ar draws dwy Ysgol uwchradd yn Wrecsam. Rôl Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd Ysgolion Bro fydd ffurfio, datblygu a chynnal perthnasoedd proffesiynol gyda rhieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc trwy waith uniongyrchol, cyngor a chanllawiau a gweithio gyda theuluoedd gan eu cefnogi a chynyddu eu hymgysylltiad â dysgu eu plant. Bydd deiliad y swydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r ysgol a'r clwstwr a gydag ystod o bartneriaid gwasanaeth ehangach i feithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda theuluoedd y mae eu plant yn mynychu'r ysgol, i sicrhau bod gan y plant, yn enwedig y rhai mwyaf difreintiedig, fynediad llawn at gyfleoedd addysgol a goresgyn rhwystrau i ddysgu a chymryd rhan.

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.