MANYLION
  • Lleoliad: Merthyr Tydfil,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £70,000.00 - £75,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

DIRPRWY BENNAETH YSGOL UWCHRADD CYFARTHFA

DIRPRWY BENNAETH YSGOL UWCHRADD CYFARTHFA

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
YSGOL UWCHRADD CYFARTHFA
DIRPRWY BENNAETH

Yn eisiau at fis Medi 2024

Mae'r Corff Llywodraethol yn Ysgol Uwchradd Cyfarthfa yn gyffrous i benodi Dirprwy Bennaeth rhagorol a phroffesiynol i ymuno â'n tîm arwain i symud ein hysgol yn ei blaen. Mae lles cymuned yr ysgol yn ganolog i ethos Ysgol Uwchradd Cyfarthfa. Mae ein hysgol mewn lleoliad da o fewn tref Merthyr Tudful ac yn falch o gyfrannu at y gymuned leol ehangach.

Mae llywodraethwyr yn awyddus i benodi arweinydd ysbrydoledig sydd â gweledigaeth glir a chymhellol a chred gref ym mhwysigrwydd addysg, cefnogi'r Pennaeth a gweithio gyda'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth i yrru cenhadaeth yr ysgol. Byddwch yn galluogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion uchelgeisiol, galluog a chyflawn trwy ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel mewn amgylchedd cefnogol.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Gellir llenwi ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais trwy ffonio 01685 725000 a dylid eu dychwelyd erbyn 3 Mai 2024 fan bellaf i'r Weinyddiaeth AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.
E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Rydym yn cadw'r hawl i gau swyddi gwag yn gynharach na'r dyddiad cau.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gellir cyflwyno ffurflenni cais yn Gymraeg ac ni fydd unrhyw geisiadau a gwblheir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn Saesneg. Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer yn llwyddiannus ar gyfer cyfweliad cysylltwch â ni i roi gwybod i ni os hoffech i'ch cyfweliad gael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i amddiffyn a diogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned. Cynhelir gwiriadau cyn-cyflogaeth trwyadl ar gyfer pob penodiad fel rhan o'n proses recriwtio a dethol.

Mae'n ofynnol i bob gweithiwr gydymffurfio â'i gyfrifoldebau unigol a sefydliadol o dan y Ddeddf Diogelu Data, y Polisi Diogelwch Gwybodaeth a pholisïau gweithredol ategol perthnasol. Ni ddylai unrhyw faterion o natur gyfrinachol gael eu datgelu na'u trosglwyddo i unrhyw bersonau anawdurdodedig neu drydydd parti o dan unrhyw amgylchiad naill ai yn ystod neu ar ôl cyflogaeth ac eithrio yng nghwrs priodol eich cyflogaeth neu fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall unrhyw achos o dorri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn ein gweithlu ac yn ystyried ein hunain yn Gyflogwr o Ddewis, wedi ymrwymo i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal i bob agwedd ar ein gwaith. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb ac yn annog ymgeiswyr o bob grwp a chefndir i wneud cais ac ymuno â ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Rydym wedi ymrwymo'n gryf i ddileu gwahaniaethu yn y gweithle a sicrhau nad oes unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yn digwydd yn y broses recriwtio a dethol ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, a beichiogrwydd a mamolaeth