MANYLION
  • Lleoliad: Colwyn Bay,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 Parhaol - Ysgol Swn y Don

Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 Parhaol - Ysgol Swn y Don

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
YSGOL SŴN Y DON

Penmaenrhos, Bae Colwyn LL29 9LL

Rhif Ffon: (01492) 577290

Pennaeth: Mrs Suzanne Fox

Yn eisiau Mai 2024

CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1 PARHAOL

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Sŵn y Don yn falch o rannu cyfle i gymhorthydd dysgu Lefel 1 ymuno â'n tîm rhagorol. Mae'r gallu i weithio gyda plant yn bwysig, a rhaid iddynt allu cefnogi disgyblion i gyrraedd eu potensial, yn emosiynol ac yn academaidd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol hapus, gadarnhaol a hynod lwyddiannus sy'n elwa o gael tîm proffesiynol ac ymroddedig iawn o athrawon a staff cymorth.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.

Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar-lein.

Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â'r Pennaeth os gwelwch yn dda.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.

Os na fyddwch yn cael gwybod o fewn 3 wythnos wedi'r dyddiad cau eich bod ar restr fer ar gyfer cyfweliad, rhaid i chi gymryd yn ganiataol na fyddwch yn cael cyfweliad. Ni fyddwch yn cael gwybod hynny ar bapur.

Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.

This form is also available in English