MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth

Pennaeth

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair, Lôn yr Ysgol, Owrtyn, LL13 0ES

Rhif Ffôn: 01978 710370

Cadeirydd y Llywodraethwyr: Mrs Angharad Veneklaas Slots

Cyfanswm ar y Gofrestr: 154

PENNAETH

I ddechrau 1 Medi neu cyn gynted â phosibl wedi hynny

Arweinyddiaeth L9 - L15

Mae Llywodraethwyr yr Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair yn gwahodd Penaethiaid ac ymarferwyr profiadol sy'n meddu ar gymhwyster CPCP i wneud cais ar gyfer swydd Pennaeth.

Yn ein hysgol rydym yn breuddwydio, ymdrechu a chyflawni drwy gariad a ffydd, fel un teulu mawr. Rydym yn meithrin a chreu amgylchedd dysgu gofalgar i'n disgyblion, i fod yn ddinasyddion uchelgeisiol, hyderus ac annibynnol yng Nghymru a'r byd mawr.

Gofynnom i'n budd-ddeiliaid a'r gymuned ehangach sut y byddent yn disgrifio ein hysgol, a beth sy'n ein gwneud yn arbennig. Dyma'r geiriau allweddol a ddewiswyd, ac felly sy'n ymgorffori ein gweledigaeth ar y cyd: Parchus, Croesawgar, Cynhwysol, Hapus, Hwyliog, Cefnogol, Caredig, Teulu a Chyfannol.

Mae Ysgol y Santes Fair ym mhentref gwledig hardd Owrtyn, ger y ffin â Lloegr. Mae'r gymuned yn gefnogol iawn i'r ysgol ac mae gennym gysylltiadau cryf â'r eglwys, Cymdeithas Rhieni ac Athrawon hynod o weithgar yn ogystal â Chorff Llywodraethu rhagweithiol.

Mae'r llywodraethwyr yn dymuno penodi Pennaeth i adeiladu ar sylfeini rhagorol presennol ein hysgol, fel mae adroddiad ein harolwg diweddar gan Estyn yn tystio. Bydd y pennaeth a benodir yn sicrhau amgylchedd dysgu creadigol, cadarnhaol, ysbrydoledig ac uchelgeisiol i ddisgyblion, staff a theuluoedd yng nghanol ein cymuned.

Croesawir ymweliadau â'r ysgol cyn ymgeisio. I gael rhagor o wybodaeth ac i drefnu apwyntiad i ymweld, cysylltwch ag Angharad Veneklaas Slots, Cadeirydd y Llywodraethwyr dros e-bost drwy veneklaas-slotsa5@hwbcymru.net

Bydd y Corff Llywodraethu yn ystyried arfer ei hawl i benodi'r ymgeisydd llwyddiannus ar bwynt ar y raddfa gyflog sy'n briodol i'w sgiliau a'i arbenigedd, yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol. Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

DYLID DYCHWELYD Y FFURFLENNI CAIS ESGOBAETH YN UNIONGYRCHOL AT GADEIRYDD Y LLYWODRAETHWYR dros e-bost: veneklaas-slotsa5@hwbcymru.net

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhywedd, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Sylwer bod pob swydd mewn ysgol yn destun gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

DYDDIAD CAU: Dydd Iau, 9 Mai 2024

BYDD Y BROSES GYFWELD YN DECHRAU w/d Dydd Llun 3 Mehefin 2024