MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Mai, 2024 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cymhorthydd Lefel 4

Cymhorthydd Lefel 4

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Morgan Llwyd

Pennaeth: Miss Catrin Pritchard

Cymhorthydd Lefel 4

Amrediad Cyflog - G06 pwynt 12-15 Pro Rata

Oriau : 30 awr yr wythnos (39 wythnos y blwyddyn)

£18,344 - £19,304

Swydd Barhaol

Mae Llywodraethwyr Ysgol Morgan Llwyd yn dymuno penodi Cymhorthydd Dysgu Lefel 4 i weithio yn yr ysgol hapus a llwyddiannus hon.

Mae'r Corff Llywodraethol yn frwd dros addysg ac yn awyddus i barhau ar ein taith o welliant. Rydym yn chwilio am berson gweithredol a brwdfrydig sy'n rhannu'r weledigaeth:

Ysgol ofalgar sydd yn datblygu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, mewn awyrgylch ble mae pawb yn hapus, yn ddiogel ac yn awyddus i ddysgu.

Ategu at waith proffesiynol athrawon drwy dderbyn cyfrifoldeb am agweddau dysgu y cytunir arnynt. Gall hyn gynnwys, cynllunio, paratoi a darparu gweithgareddau dysgu ar gyfer unigolion / grwpiau neu yn y byr dymor ar gyfer y dosbarth cyfan a monitro ac asesu, cofnodi ac adrodd am lwyddiant cynnydd a datblygiad disgyblion. Cyfrifoldeb am reoli a datblygu maes arbenigol o fewn yr ysgol a /neu reoli cynorthwywyr dysgu eraill gan gynnwys dyrannu a monitro, gwerthuso a hyfforddiant. Am ragor o wybodaeth gweler y Swydd Ddisgrifiad.

Mae'r gallu i siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon yn hanfodol.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda Miss Rhian Owen Rheolwr Busnes owenr350@hwbcymru.net.

I wneud cais lawrlwythwch y ffurflen gais os gwelwch yn dda a'i ddychwleyd at Miss Rhian Owen, Rheolwr Busnes, drwy e-bost owenr350@hwbcymru.net erbyn hanner dydd ar 10 Mai 2024.

Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

DYDDIAD CAU: 12:00 y.p ar 10 Mai 2024