MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Bro Idris, Dolgellau,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Iaith - Ysgol Bro Idris

Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Iaith - Ysgol Bro Idris

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION CYNRADD/UWCHRADD

YSGOL BRO IDRIS, DOLGELLAU

(Cyfun 3 - 16: 571 o ddisgyblion)

Dyddiad dechrau: Mis Medi 2024

Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Iaith

Mae Llywodraethwyr Ysgol Bro Idris Dolgellau yn dymuno penodi Pennaeth Iaith sy'n gyfrifol am:-
  • ddatblygiad Iaith Blwyddyn Meithrin - Blwyddyn 8;
  • datblygu Iaith Saesneg o Blwyddyn Meithrin - Blwyddyn 11.
  • dysgu Saesneg Blwyddyn 7 - Blwyddyn 11.

Mi fydd yr ysgol yn anelu at gyflwyno addysg o'r ansawdd gorau ac i ragori ymhob agwedd o'i gweithgareddau. Hyrwyddir rhaglen addysg ddwyieithog ac mae ethos a gweinyddiad yr ysgol yn adlewyrchu hynny.

Disgwylir i'r ymgeisydd ar gyfer y swydd hon fod:
  • yn meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o holl ofynion y cwricwlwm Cynradd a/neu Uwchradd ac yn barod i arloesi yn y maes addysgu a dysgu 3 - 16 oed.
  • yn gwbl ymrwymedig i addysg ddwyieithog gyflawn.

Ystyrir ceisiadau hefyd gan:
  • ymgeiswyr sy'n athrawon Cynradd a/neu Uwchradd da ond heb arbenigedd lefel uchel yn y maes.
  • Darperir hyfforddiant.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog (£30,742 - £47,340) y flwyddyn ynghyd â lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu (CAD 2) o £7,986 y flwyddyn yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd. Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth Strategol, Mrs Jano Owen rhif ffôn 01341 424949, e-bost:- pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru

PWYSIG:- Pecyn cais i'w gael ar wefan Cyngor Gwynedd a gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w gael gan Miss Eirian R Hoyle, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY (Rhif ffôn: 01341 424949) os y dymunir gelir dychwelyd y cais drwy'r post neu gallwch ebostio'r cais i e-bost y Rheolwr Busnes:- sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru . dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DYDD IAU, 2il o FAI 2024.

RHAGWELIR CYNNAL CYFWELIADAU DYDD IAU, 9fed o FAI 2024

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person

(This is an advertisement for a Head of Language at Ysgol Bro Idris, Dolgellau Catchment Area Allthrough School for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential. The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.)

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Ebrill 2024

Annwyl Ymgeisydd

Swyddi: Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Adran Iaith
Ysgol: BRO IDRIS, DOLGELLAU

Diolch i chi am eich ymholiad am y swydd uchod. Amgaeaf ffurflen gais a manylion pellach.

Yr amser cau ar gyfer ceisiadau am y swydd yw hanner dydd ar y 2il Mai 2024.

Fe all aelod o'r Panel Penodi fod angen gwybodaeth am ymgeiswyr yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac felly gwahoddir i chwi i gyflwyno eich cais yn y ddwy iaith. A fyddwch cystal â sicrhau bod eich rhif ffôn symudol a/neu gyfeiriad e-bost wedi ei gynnwys ar y ffurflen gais.

Os ydych chi'n dymuno cyflwyno cwricwlwm vitae yn ogystal fel rhan o'ch cais fe ganiateir hyn, ond gofynnir i chwi hefyd gwblhau'r ffurflen gais safonol yn llawn.

Os ydych yn dymuno cael manylion pellach am y swydd cysylltwch â'r Pennaeth Strategol Mrs Jano Owen (01341) 424949 (Pennaeth@broidris.ysgoliongwynedd.cymru) . Eich cyswllt yn yr Ysgol yw Miss Eirian R Hoyle ar (01341) 424949. (sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru)

Nid ydym yn cydnabod derbyn ffurflenni cais. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cael cadarnhad fod eich cais wedi ei dderbyn, yna ffoniwch Eirian Hoyle yn yr Ysgol ar (01341) 424949.

PWYSIG - Nodwch, os gwelwch yn dda, enw a chyfeiriad dau ganolwr. I ymgeisydd sydd eisoes mewn gwaith mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt fod yn eich cyflogi ar hyn o bryd.

PWYSIG:- Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w gael gan Miss Eirian R Hoyle, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Bro Idris, Dolgellau, Gwynedd, LL40 1HY (Rhif ffôn: 01341 424949) os y dymunir dychwelyd y cais drwy'r post neu gallwch ebostio'r cais i e-bost y Rheolwr Busnes:- sg@broidris.ysgoliongwynedd.cymru
dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus cyn y gallant gychwyn yn yr ysgol

Oherwydd bod tâl post yn ddibynnol ar faint a phwysau amlenni, dylech sicrhau bod y tâl post cywir ar yr amlen wrth ddychwelyd eich ffurflen gais. Mae yna bosibilrwydd na fydd eich cais yn cyrraedd cyn y dyddiad cau os na fyddwch yn cydymffurfio gyda'r uchod

Yn gywir

Jano Owen

Mrs Jano Owen
Pennaeth Strategol

Manylion Person

MANYLION PERSON

TEITL Y SWYDD
PENNAETH ADRAN IAITH YSGOL BRO IDRIS

ADRAN
ADDYSG

LLEOLIAD
PRIF SAFLE YSGOL BRO IDRIS A'R SAFLEOEDD -DINAS MAWDDWY, RHYD-Y-MAIN, DOLGELLAU, LLANELLTYD A FRIOG

Pwrpas craidd Pennaeth Maes yr ysgol hon yw rhoi cymorth i ddarparu cwricwlwm uwchradd a chynradd o fewn eu maes dysgu ac i gefnogi datblygiad Ysgol Bro Idris 3 - 16 fel Cymuned Ddysgu lwyddiannus.

Disgwylir i'r Pennaeth Maes ymdrechu i gyfrannu gyda aelodau'r Uwch Dim Rheoli i sicrhau gwelliant parhaus a llwyddiant i'r ysgol yn sgil cyfleoedd dysgu ac addysgu o safon uchel i'r holl ddisgyblion a safonau cyrhaeddiad uchel o fewn eu maes dysgu.

Disgwylir i'r Pennaeth Maes gyfrannu gyda aelodau'r Uwch Dim Rheoli i sicrhau fod yr Ysgol yn gwarchod gwerthoedd yr iaith Gymraeg ac yn dilyn Polisi Iaith yr Awdurdod.

GOFYNION ANGENRHEIDIOL AR GYFER Y SWYDD
CYMWYSTERAU /HYFFORDDIANT GALWEDIGAETHOL/CYMWYSEDDAU Dull Asesu

HANFODOL
Gradd Anrhydedd
Statws athro wedi cymhwyso
Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus
DYMUNOL
GWYBODAETH A SGILIAU

HANFODOL
Meddu ar wybodaeth dda o ddatblygiadau cyfoes mewn addysg yn lleol ac yn genedlaethol
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sectorau cynradd neu uwchradd i ddatblygu eu maes.
Meddu ar y gallu i ddadansoddi Data er mwyn cynllunio i wella safonau o fewn eu maes.
Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o brosesau hunan arfarnu o fewn eu maes.
Meddu ar wybodaeth gadarn o strategaethau gweithredu sy'n sicrhau safonau uchel o ymddygiad.
Dangos brwdfrydedd personol at y defnydd o'r Iaith Gymraeg/Cwricwlwm Cymreig yn yr ysgol

DYMUNOL
Meddu ar ddealltwriaeth eglur o egwyddorion dysgu o ansawdd, addysgu ac asesu yn y sectorau cynradd ac uwchradd

PROFIAD

HANFODOL
Tystiolaeth o brofiad perthnasol o arwain cyfadran yn effeithiol
Profiad o ddatblygu strategaethau addysgu a dysgu effeithiol o fewn cyfadran
DYMUNOL

NODWEDDION A GWERTHOEDD PERSONOL

HANFODOL
Dangos brwdfrydedd ac ymroddiad tuag at y broses ddysgu
Hawdd mynd ato/ati a gallu ysbrydoli, ysgogi a gosod her i eraill
Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, gwneud penderfyniadau a chyflwyno gweledigaeth glir
Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol
Y gallu i weithio dan bwysau a chyfarfod â therfynau amser
Yn rhugl o ran safon sgiliau ar lafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg
DYMUNOL

Swydd Ddisgrifiad

Ysgol Bro Idris

Swydd Ddisgrifiad Pennaeth Maes Iaith oedran 3-16.

Graddfa Cyflog:- Telir cyflog yn unol â Graddfa Cyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) ynghyd â lwfans Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu (CAD2B) o £7,986 y flwyddyn i ymgeisydd addas yn ôl profiad a chymwysterau
Pwrpas craidd swydd Pennaeth Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu - Iaith 3 - 16 yr ysgol hon yw rhoi cymorth i ddarparu arweinyddiaeth a rheolaeth broffesiynol a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau i gefnogi datblygiad Ysgol Bro Idris 3 - 16 fel Cymuned Ddysgu lwyddiannus.
Pennaeth Iaith sy'n gyfrifol yn Ysgol Bro Idris am:-
• ddatblygiad Iaith Blwyddyn Meithrin - Blwyddyn 8,
• ddatblygu Iaith Saesneg o Blwyddyn Meithrin - Blwyddyn 11.
• Dysgu Saesneg Blwyddyn 7 - Blwyddyn 11.

Disgwylir i'r Pennaeth Maes:-
• Ysgwyddo cyfrifoldeb ac atebolrwydd am bob agwedd o fewn y gyfadran.
• Datblygu a chynnal tîm effeithiol o athrawon ar draws safleoedd yr ysgol i hybu'r dysgu a'r addysgu i'r safon uchaf.
• Codi safonau a chyrhaeddiad disgyblion o fewn y maes dysgu penodol ac i fonitro a chefnogi cynnydd disgyblion.
• Bod yn atebol am gynnydd disgyblion o fewn y maes dysgu penodol.
• Datblygu ac ymestyn arfer dysgu athrawon eraill.
• Darparu cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol ar gyfer y disgyblion, yn unol ag amcanion yr ysgol â'r polisïau Cwricwlaidd a bennwyd gan y Pennaeth Strategol a'r Corff Llywodraethol a pholisïau Cenedlaethol.
• Rheoli yn effeithiol a sicrhau bod yr athrawon sydd yn y gyfadran yn cyfrannu tuag at bortffolio'r maes dysgu penodol.
• Rheoli yn effeithiol a threfnu athrawon/ staff cefnogi dysgu, adnoddau cyllidol a ffisegol o fewn y gyfadran
• Cydweithio gyda Cydlynydd Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu - Cymraeg 3 - 16oed.

Dyletswyddau'r Swydd

Mae gofynion y swydd hon i'w gyflawni yn unol â darpariaethau Dogfen Cyflogau ac Amodau Athrawon ysgol ac o fewn amrediad dyletswyddau athrawon fel y'u nodir yn y ddogfen honno.
Mae'r swydd hefyd yn ddarostyngedig i Amodau Gwaith Athrawon Ysgol yng Nghymru a Lloegr (Y Llyfr Bwrgwyn) ac i unrhyw amodau perthnasol a gytunwyd yn lleol.
Mae'r dyletswyddau hyn i'w cyflawni yn ôl cyfarwyddyd rhesymol y Pennaeth Strategol a'r Dirprwy Bennaeth o bryd i'w gilydd fel y bo'n briodol.
Gweler yr Atodiad : Safonau Athrawon wrth eu Gwaith sydd wedi eu haddasu gan yr ysgol.
Prif Ofynion
Rhaid i ddyletswyddau proffesiynol Pennaeth Safonau yr ysgol hon gael eu cyflawni yn unol â darpariaethau'r Deddfau Addysg, Gorchmynion a Rheoliadau sy'n weithredol dan y Deddfau Addysg, offeryn llywodraethu'r ysgol, unrhyw ddogfen ymddiriedolaeth sy'n berthnasol i'r ysgol ac unrhyw gynllun sy'n cael ei baratoi neu ei gynnal gan Yr Awdurdod Lleol dan Adran 48 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(87).
Rhaid cyflawni'r dyletswyddau yn unol ag unrhyw reolau, reoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan gorff llywodraethu'r ysgol ac y mae'r corff hwnnw yn gyfrifol amdanynt; ac yn yr un modd
unrhyw reolau, rheoliadau neu bolisïau a wnaethpwyd gan Yr Awdurdod Lleol o ran materion nad yw'r corff llywodraethu yn gyfrifol amdanynt.
Mae'r Pennaeth Maes Safonau yn atebol i'r Corff Llywodraethol a Phennaeth Strategol yr Ysgol a Phennaeth Addysg Statudol Gwynedd.
Pe byddai angen, disgwylir i ddeilydd y swydd fod ar gael i weithio ar unrhyw safle yn ôl y gofyn.
Cyfrifoldebau Proffesiynol
Cynllunio Strategol:
• Arwain datblygiadau mewn meysydd llafur, adnoddau, cynlluniau gwaith, polisïau marcio, asesu a strategaethau dysgu ac addysgu o fewn y gyfadran.
• Dosbarthu gwersi'r gyfadran.
• Chwarae rhan rheolaeth ganol allweddol drwy gynorthwyo'r Pennaeth Strategol wrth greu gweledigaeth, ymdeimlad o bwrpas a balchder yng ngwaith y gyfadran.
• Cynllunio cynlluniau gwaith y gyfadran, eu cynnal a'u gweithredu, a monitro ac arfarnu'r holl bolisïau a'r ddogfennaeth berthnasol.
• Monitro a chefnogi cynnydd a datblygiad cyffredinol disgyblion o fewn y gyfadran.
• Monitro presenoldeb disgyblion ynghyd â'u perfformiad mewn perthynas â'r targedau a osodwyd ar gyfer pob unigolyn.
• Cynnal a chefnogi disgyblaeth y gyfadran.
• Chwarae rhan allweddol fel rheolwr canol yn natblygiad pob agwedd ar fywyd yr ysgol, gan gynnwys ei pholisïau a'u gweithrediad.
• Nodi a chymeradwyo llwyddiannau aelodau unigol yr Adran, eu hybu a meithrin doniau unigol.
• Helpu i greu tîm effeithiol drwy hybu cydweithredu wrth ymgymryd â datblygiadau cwricwlaidd.
• Cadeirio a llunio'r agenda ar gyfer y cyfarfod adran. Cadw cofnodion bras ar y pro-fforma a ddarperir a'u dosbarthu i aelodau'r Adran, Y Pennaeth a'r Rheolwr Cyswllt priodol.
• Rhoi ar waith bolisïau asesu a gosod targedau'r ysgol, gan wneud defnydd effeithiol o'r data i fonitro a gwerthuso cyrhaeddiad disgyblion yn y pwnc.
• Sicrhau bod pob aelod o'r gyfadran yn casglu asesiad ffurfiol pob hanner tymor, ei rhoi ar system dracio cynnydd yr ysgol a gosod targedau priodol i'r disgyblion ar sut i wella. Sicrhau bod y targedau yma yn cael eu trafod ar ddiwedd pob tymor cyn gosod targedau eraill.
• Dadansoddi data y gyfadran a chreu adroddiad sy'n adnabod a nodi camau priodol i ddatblygu'r maes a'r gyfadran.
• Creu adroddiad blynyddol ynghylch perfformiad a datblygiad y gyfadran ar gyfer y Pennaeth Strategol a'r Corff Llywodraethol.
• Hybu gweithgareddau allgyrsiol a diwylliannol, e.e. clwb gwaith cartref, ymweliadau, cystadlaethau.
• Monitro safon y dysgu ac addysgu o fewn y gyfadran.
• Sicrhau bod asesiadau risg yr adran yn cael eu hadolygu a'u hadnewyddu trwy gydweithio gyda Rheolwr Iechyd a Diogelwch yr ysgol.
• Defnyddio amser Arwain a Rheoli yn effeithiol at y pwrpasau uchod.
• Cydweithio gyda chydlynwyr cwricwlaidd eraill er mwyn datblygu cynlluniau integredig.
• Cydweithio'n rheolaidd gyda'r rheolwr Cyswllt ar gyfer cynhaliaeth broffesiynol ac i ddatblygu yn effeithiol reolaeth y gyfadran.
• Goruwchwylio a monitro cywirdeb y rhestrau arholiadau a'r dyddiadau a chydweithio'n effeithiol gyda'r swyddog arholiadau priodol
• Rheoli'r adnoddau - gofod, staff, arian ac offer yn effeithiol, gan gynnwys defnyddio cyllideb y gyfadran yn ofalus wrth archebu, trefnu a chynnal a chadw offer a stoc a chadw cofnodion priodol. Sicrhau gwerth am arian.
• Cynnal awdit o'r holl eitemau stoc a chynnal gorolwg o'u defnydd.
• Cyfrannu tuag at weithgareddau marchnata'r ysgol
• Paratoi'r gyfadran ar gyfer nosweithiau agored
• Cyflawni dyletswyddau rhesymol eraill a bennwyd gan y Pennaeth Strategol.

Datblygiad Cwricwlaidd:
• Cyfrannu at ddilyniant a pharhad o fewn cwricwlwm ysgol gyfan.
• Datblygu cynlluniau gwaith a pholisïau adrannol/cyfadrannol gweithredol a chyflawn sy'n cyflawni gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol a chwricwlwm Dyfodol Am Oes, yn ymateb i bolisïau ysgol sy'n cyfeirio at ofynion pynciol ond hefyd at ddatblygiad sgiliau, yn rhoi sylw amlwg i lythrennedd, rhifedd, TGCH, cymhwysedd ddigidol a sgiliau dysgu yn ogystal ag agweddau trawsgwricwlaidd a dimensiwn Cymreig, safbwynt rhyngwladol a sgiliau ehangach.
• Datblygu cynlluniau gwaith sy'n cynnwys ystod o ddulliau dysgu ac addysgu yn cynnig profiadau cyfoethog i'r disgyblion ynghyd ag amrywiaeth o ddulliau asesu ar adegau allweddol sy'n fodd i fesur yn gywir gynnydd disgyblion.
• Datblygu strategaethau ar gyfer datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion.
• Monitro a gwerthuso addysgu o fewn yr adran, dangos blaengaredd o ran hybu cysondeb, a dangos arweiniad yn y maes.
• Datblygu cysylltiadau buddiol ac addas gyda mentrau lleol a rhai rhanbarthol a chyda sefydliadau cenedlaethol.
• Datblygu strategaethau a threfniadau ar gyfer dysgu ac addysgu disgyblion gydag anghenion addysgol ychwanegol, drwy gydweithio gyda'r Adran ADY a Phennaeth ADY.
• Sicrhau bod y gyfadran yn cefnogi gweithredu'r holl ofynion statudol cyfredol.
• Bod yn effro i ddatblygiadau cenedlaethol o ran y pwnc a'r modd y dysgir ef, ymateb iddynt a rhannu'r wybodaeth gydag athrawon y gyfadran.
• Cadw mewn cysylltiad â'r swyddogion arholiadau o ran gwybodaeth sy'n deillio o'r byrddau arholi.
• Cyfrannu at weithgareddau pontio ac arwain y gyfadran i hybu blaengaredd yn y maes hwn.
• Darparu gwybodaeth i rieni yn ystod nosweithiau rhieni a thrwy adroddiadau.

Hunan Arfarnu:-
• Amcanu at gysondeb safonau o ran effeithiolrwydd y dysgu a'r addysgu o fewn yr adran.
• Monitro safonau dysgu ar draws yr holl ystod gallu yn y gyfadran ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• Monitro ansawdd yr addysgu yn y gyfadran gan hybu addysg effeithiol ac ymyrryd yn bwrpasol i godi safonau.
• Monitro effeithiolrwydd polisïau a chynlluniau gwaith.
• Arsylwi gwersi ac arsylwi llyfrau yn rheolaidd a rhoi adborth pwrpasol i godi safonau.
• Gwneud defnydd effeithiol o agenda'r cyfarfodydd cyfadran i drafod effeithiolrwydd unedau a chyrsiau, ynghyd â chynnydd a chyrhaeddiad disgyblion
• Gwneud dadansoddiad systematig o ganlyniadau'r arholiadau allanol a mewnol.
• Ymgymryd â marcio ar draws yr adran o asesiadau allweddol er mwyn dilysu safonau; gosod gradd/lefel i'r disgyblion gyda tharged ar sut i wella. Monitro canlyniadau asesiadau mewnol a defnyddio'r canlyniadau hynny i wella cyrsiau ac i gefnogi disgyblion.
• Arwain a chyfrannu tuag at ddarparu datblygiad proffesiynol personol, drwy raglen effeithiol o Reoli Perfformiad.
• Rhoi ystyriaeth i ddisgwyliadau ac anghenion eraill o'r adran, ac yn fwy penodol gofalu fod myfyrwyr ac Athrawon Newydd Gymhwyso yn cael eu cynnal, eu monitro a'u harfarnu mewn perthynas â safonau polisïau'r ysgol.
• Paratoi adroddiad hunan arfarnu'r adran yn flynyddol.

Gellir newid y swydd ddisgrifiad a'r cyfrifoldebau penodol trwy gytundeb.

ATODIAD I SWYDD DDISGRIFIAD: PENNAETH MAES YSGOL BRO IDRIS

Safonau Athrawon wrth eu Gwaith sydd wedi eu haddasu gan yr Ysgol

Nodweddion a gwerthoedd proffesiynol
• Gwerthfawrogi'r amrywiol anghenion sydd gan blant a phobl ifanc.
• Rhoi gwerth ar berthynas deg, barchus, llawn ymddiriedaeth, gefnogol ac adeiladol â phlant a phobl ifanc.
• Meddu ar ddisgwyliadau uchel o blant a phobl ifanc er mwyn gwella'r deilliannau ar gyfer pob dysgwr a gwella eu lles.
• Gwerthfawrogi pa mor bwysig yw meithrin cysylltiadau cadarnhaol rhwng y cartref a'r ysgol.
• Gwerthfawrogi'r rhan weithredol y mae plant a phobl ifanc yn ei chymryd yn eu cynnydd, eu datblygiad a'u lles eu hunain.
• Gwerthfawrogi'r rhan weithredol y mae rhieni a gofalwyr yn ei chymryd yng nghynnydd, datblygiad a lles plant a phobl ifanc.
• Gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae plant a phobl ifanc yn ei wneud yn eu cymunedau, a'i ddathlu.
• Gwerthfawrogi'r cyfraniad y mae staff cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill yn ei wneud i ddysgu, datblygiad a lles plant a phobl ifanc.
• Cymryd rhan weithredol mewn rhwydweithiau proffesiynol a chymunedau dysgu sy'n rhannu rhagdybiaethau a dealltwriaeth gyda chydweithwyr, ac yn eu treialu, a chyfrannu at ddatblygiad ehangach yr ysgol a'r proffesiwn.
• Gwerthfawrogi pa mor bwysig yw sicrhau bod ymarfer yn gwella drwy bwyso a mesur a chymryd cyfrifoldeb dros eu datblygiad proffesiynol parhaus.
• Meddu ar ddisgwyliadau uchel o ran datblygu'r iaith Gymraeg yn unol â natur ddwyieithog Cymru.

Gwybodaeth a dealltwriaeth proffesiynol
• Meddu ar yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddiweddaraf am ddyletswyddau a chyfrifoldebau proffesiynol athrawon a'r fframwaith statudol y maen nhw'n gweithio ynddo.
• Deall y cyd-destun polisi addysg genedlaethol yng Nghymru a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg, gan gynnwys deall egwyddorion y Cwricwlwm Cymreig a Chwricwlwm am Oes sut y dylid ei ddefnyddio fel sail i'w hymarfer.
• Defnyddio dealltwriaeth o ddisgwyliadau, trefniadaeth ac addysgeg y cyfnodau allweddol neu'r cyfnodau cyn a/neu ar ôl y rhai y maen nhw'n eu dysgu fel sail i'w hymarfer a'u cynllunio.
• Deall y ffactorau allweddol sy'n effeithio ar ddysgu a lles plant a phobl ifanc.
• Dealltwriaeth o'r disgwyliadau yn y cwricwlwm mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg a/neu Gymraeg ail Iaith.
• Parhau i gaffael yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth ddiweddaraf mewn perthynas â'u pynciau/meysydd cwricwlwm a'r addysgeg berthnasol i'w defnyddio fel sail i'w hymarfer.
• Deall eu rôl i wella sgiliau llythrennedd a rhifedd a Chymhwysedd Digidol yn draws gwricwlaidd.
• Parhau i gaffael gwybodaeth a dysgu ym maes TGCh a Chymhwysedd Digidol i gefnogi'r addysgu a'r dysgu, ac yn eu rôl broffesiynol ehangach.
• Deall Cod Ymarfer AAA Cymru a'i gymhwyso i fodloni amrywiol anghenion dysgwyr.
• Deall pryd y mae'n briodol i ofyn am wybodaeth, cyngor a chefnogaeth o ffynonellau mewnol ac allanol, gan gynnwys gweithdrefnau diogelu plant, a sut mae gwneud hynny.
• Bod yn ymwybodol o strategaethau amrywiol a gwybod sut i'w defnyddio i annog ymddygiad da a chreu amgylchedd dysgu pwrpasol.
• Deall sut y gellid defnyddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc fel sail i'w hymarfer ac i wella deilliannau dysgwyr.
• Dealltwriaeth o'r disgwyliadau yn y cwricwlwm mewn perthynas â darpariaeth cyfrwng Cymraeg a/neu Gymraeg ail iaith.

Sgiliau Proffesiynol
Cynllunio a gosod targedau
• Gosod amcanion addysgu a dysgu heriol sy'n cael eu harwain gan ddisgwyliadau deallus am ddysgwyr unigol yn seiliedig ar wybodaeth am safonau disgwyliedig y grŵp oedran perthnasol ac ystod a chynnwys y gwaith sy'n briodol i ddysgwyr yn y grŵp oedran hwnnw.
• Defnyddio'r amcanion addysgu a dysgu hyn i gynllunio gwersi, a chyfresi o wersi, sy'n dangos yn glir sut y bydd gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y dysgwyr yn cael eu hasesu.
• Personoli'r dysgu er mwyn rhoi sylw i anghenion unigol gan gynnwys ceisio barn y dysgwyr am beth fyddai o gymorth iddynt gyflawni eu potensial.
• Pennu adnoddau i gefnogi'r dysgu a fydd yn ysgogi ac yn symbylu pob dysgwr i gyflawni'r deilliannau a ddymunir.
• Gweithio'n effeithiol fel aelod o dîm a chydweithio â chydweithwyr i gynllunio gwaith a phennu targedau.
• Cynllunio er mwyn i'r staff cymorth gymryd rhan briodol yn y gwaith o gefnogi'r dysgu a sicrhau eu bod yn deall y rolau mae disgwyl iddynt eu cyflawni.
• Cynllunio cyfleoedd priodol i blant a phobl ifanc ddysgu mewn lleoliadau y tu allan i'r ystafell ddosbarth.
• Trefnu, rheoli a blaenoriaethu amser yn effeithiol o fewn eu rôl broffesiynol ehangach.
• Sefydlu a chynnal dulliau cyfathrebu effeithiol â phlant, pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr.

Monitro ac asesu
• Defnyddio amrywiaeth o strategaethau monitro ac asesu, gan gynnwys asesiadau ffurfiannol a chyfunol, i werthuso cynnydd y dysgwyr tuag at gyflawni eu hamcanion dysgu, a defnyddio'r wybodaeth hon i wella eu gwaith cynllunio ac addysgu eu hunain.
• Bodloni'r gofynion a'r trefniadau asesu ar gyfer y pynciau/meysydd cwricwlwm a chyfnodau y maen nhw'n eu dysgu, gan gynnwys y rheini sy'n gysylltiedig ag arholiadau a chymwysterau cyhoeddus.
• Defnyddio technegau monitro ac asesu i nodi a chefnogi dysgwyr, gan gynnwys: y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol; dysgwyr sy'n fwy abl a thalentog; dysgwyr sy'n gweithio ar lefel is na'r disgwyl ar gyfer eu hoed; dysgwyr sy'n methu â chyrraedd eu potensial; a dysgwyr ag anawsterau ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol.
• Cynnwys dysgwyr yn y gwaith o osod targedau ac wrth bwyso a mesur
• eu perfformiad a'i werthuso.
• Monitro a chofnodi cynnydd a chyflawniadau dysgwyr i ddarparu tystiolaeth o ystod eu gwaith, eu cynnydd a'u cyrhaeddiad dros gyfnod o amser, gan ystyried cyfranogiad a safbwynt y dysgwr.
• Rhoi adborth cywir ac adeiladol i ddysgwyr ar eu cryfderau, eu gwendidau, eu cyrhaeddiad, eu cynnydd, a'r meysydd i'w datblygu, gan gynnwys cynlluniau gweithredu ar gyfer gwella.
• Rhoi adborth amserol, cywir ac adeiladol i gydweithwyr, rhieni a gofalwyr ar gyrhaeddiad dysgwyr, eu cynnydd, a'r meysydd i'w datblygu, gan ddefnyddio cofnodion ategol a thystiolaeth arall.

Addysgu a rheoli'r dysgu
• Sefydlu a chynnal amgylcheddau dysgu effeithiol, lle mae pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel a hyderus.
• Dysgu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth angenrheidiol a disgwyliedig sy'n berthnasol i anghenion y dysgwr, gan wneud defnydd priodol o'r canllawiau cenedlaethol perthnasol.
• Cynnig darpariaeth wedi'i phersonoli effeithiol wrth addysgu, gan gynnwys rhoi ystyriaeth ymarferol i amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.
• Herio achosion o ragfarnu, stereoteipio, bwlïo ac aflonyddu, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau'r ysgol.
• Dysgu gwersi neu gyfresi o waith ag iddynt strwythur clir fel bod pob dysgwr yn deall yr amcanion dysgu arfaethedig, ac yn eu bodloni.
• Defnyddio strategaethau addysgu priodol sy'n datblygu gallu pob dysgwr i weithio ar y cyd ac yn annibynnol.
• Datblygu ar amrywiol brofiadau, cyflawniadau a diddordebau'r dysgwyr i'w helpu i wneud cynnydd.
• Rheoli'r amser addysgu a dysgu yn effeithiol.
• Rheoli'r amgylchedd dysgu ffisegol, yr offer, deunyddiau, testunau ac adnoddau eraill yn ddiogel ac effeithiol.
• Defnyddio strategaethau addysgu priodol i sicrhau ymddygiad cadarnhaol.
• Defnyddio strategaethau addysgu priodol i hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
• Defnyddio strategaethau addysgu priodol i hyrwyddo cynnydd a deilliannau da i ddysgwyr dros gyfnod estynedig o amser.
• Defnyddio TGCh a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn effeithiol wrth addysgu a dysgu.
• Annog dysgwyr i wneud cynnydd annibynnol drwy ddarparu gweithgareddau neu gyfleoedd eraill i astudio y tu allan i oriau ysgol, sy'n ategu'r gwaith a wneir yn yr ysgol, ac yn ymestyn arno.
• Cydweithio ag athrawon a chydweithwyr eraill, gan gynnwys y rheini o asiantaethau allanol, i wella dysgu a lles y rheini y maen nhw'n eu haddysgu.
• Hyrwyddo dealltwriaeth dysgwyr o natur ddwyieithog Cymru a datblygu eu sgiliau dwyieithog fel sy'n briodol.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi