MANYLION
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth (Pontnewydd-Ar-Wy)

Dirprwy Bennaeth (Pontnewydd-Ar-Wy)

Cyngor Sir Powys
Dirprwy Bennaeth (Pontnewydd-Ar-Wy)
Swydd-ddisgrifiad
Mae Pontnewydd-Ar-Wy yn Ysgol pentref bach ond uchelgeisiol a llwyddiannus sy'n ganolog i'r gymuned. Wedi'i hamgylchynu gan gefn gwlad hardd Canolbarth Cymru mae'r ysgol yn gallu mwynhau manteision lleoliad mor wledig a chwarae rhan hanfodol yn y gymuned leol. Mae'r corff llywodraethu yn edrych i benodi arweinydd sy'n llawn cymhelliant ac ysbrydoledig i barhau â'r ymgyrch am safonau uchel ac arwain datblygiad yr ysgol i'r dyfodol. Bydd y rôl hon yn cynnwys cyfrifoldebau addysgu yn yr ystafell ddosbarth o fewn rôl arwain a rheoli'r dirprwy bennaeth, gan ganiatáu i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn ymarferol wrth gyflwyno'r Cwricwlwm Newydd i Gymru..

Mae gweledigaeth ein hysgol yn ganolog i bopeth a wnawn:

Cydweithio i fod yn ysgol lwyddiannus sy'n canolbwyntio ar y plentyn sydd wrth galon ein cymuned lle mae dysgu yn gyffrous, yn arloesol ac yn llawn dychymyg a lle mae meddyliau'n cael eu hysbrydoli i lwyddo a ffynnu. Ymdrechwn i ddarparu plant â'r sgiliau, y gwerthoedd Cristnogol, a'r meddylfryd a fydd yn caniatáu iddynt ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial, nid yn unig yn yr ysgol ond mewn bywyd nawr ac yn y dyfodol.

Ry'n ni'n edrych i benodi dirprwy bennaeth hynod ymroddedig sydd yn:
  • ofalgar, cefnogol ac yn gweithio fel rhan o dîm.
  • cael disgwyliadau uchel o ddisgyblion a staff ac yn gallu cefnogi symud yr ysgol ymlaen o'i sefyllfa bresennol gadarnhaol iawn.
  • cefnogi ethos a gwerthoedd Cristnogol yr ysgol yn rhagweithiol.
  • credu ym manteision partneriaeth agos rhwng yr ysgol a'r gymuned ehangach.
  • gallu gweithio ar y cyd ac yn effeithiol â rhwydweithiau'r clwstwr, rhanbarthol a chenedlaethol.
  • meddu ar hanes profedig o arweinyddiaeth ysgol effeithiol ac yn gwbl ymroddedig i wella ysgol gyfan.
  • angerddol am addysgu a dysgu ac yn dangos ymrwymiad mawr i'r plant a'r staff.
Gallwn ni gynnig i chi:
  • Staff brwdfrydig ac ymrwymedig;
  • Corff Llywodraethu cefnogol;
  • Plant sy'n cael eu gwerthfawrogi, yn hapus ac yn awyddus i ddysgu;
  • Amgylchedd gweithio a dysgu sy'n ddeniadol a dymunol.
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â'r pennaeth -Miss Samantha Williams - head@newbridge.powys.sch.uk neu 01597 860273 (trwy ffôn yr ysgol).

Gwefan: Newbridge-on-Wye Church in Wales School

Rhagwelir y bydd y cyfarfod llunio rhestr fer a'r cyfweliad ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cau: Dydd Gwener y 3 ydd o Fai 2024

Llunio'r rhestr fer: Dydd Llun y 6 ed o Fai 2024

Cyfweliad: Dydd Llun y 13 eg o Fai 2024