MANYLION
  • Lleoliad: Wrexham,
  • Testun:
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Salary Range: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro / Athrawes Blynyddoedd Cynnar - Cyfnod Mamolaeth

Athro / Athrawes Blynyddoedd Cynnar - Cyfnod Mamolaeth

Cyngor Wrecsam
Disgrifiad

Ysgol Plas Coch

Ffordd Stansty,

Wrecsam,

LL11 2BU

01978 311198

mailbox@plascochpri.wrexham.sch.uk

Pennaeth: Mr. Osian Jones

Nifer ar y gofrestr: 306

Athro / Athrawes Blynyddoedd Cynnar - Cyfnod Mamolaeth

Swydd Llawn Amser Dros Gyfnod Mamolaeth - Prif Raddfa Gyflog

I gychwyn Medi 1af 2024

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi athro / athrawes brwdfrydig i addysgu yn un o ddosbarthiadau Blynyddoedd Cynnar yr ysgol dros gyfnod mamolaeth gan gychwyn ar Medi'r 1af 2024.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

• rhoi datblygiad addysgol a lles disgyblion wrth wraidd eu hymarfer

• yn meddu ar wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru

• â sgiliau rhyngbersonol ardderchog er mwyn gweithio o fewn tim yr ysgol, i reoli a chefnogi cymhorthyddion addysgu yn effeithiol ac i allu cyfathrebu'n dda efo rhieni a gwarchodwyr

Ysgol benodol Gymraeg yw Ysgol Plas Coch wedi'i lleoli ar gyrion tref Wrecsam.

Gallwn gynnig awyrgylch ac ethos hyfryd ymysg y staff a'r plant sy'n cyfrannu'n helaeth at lwyddiant yr ysgol. Mae adroddiad diweddaraf Estyn am yr ysgol ar gael drwy:

https://www.estyn.llyw.cymru/system/files/2022-08/Adroddiad%20arolygiad%20Ysgol%20Plas%20Coch%202022.pdf

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr rhugl eu Cymraeg.

I gael rhagor o wybodaeth am y swydd cysylltwch â'r Pennaeth ar y rhif uchod neu drwy ebostio mailbox@plascochpri.wrexham.sch.uk

Mae pecynnau cais ar gael i'w lawrlwytho o www.wrecsam.gov.uk/swyddi, neu drwy gysylltu â'r Ganolfan Gwasanaethau Adnoddau Dynol drwy e-bost: hrservicecentre@wrexham.gov.uk neu ffonio: 01978 297403.

ANFONWCH Y FFURFLENNI CAIS YN ÔL WEDI EU LLENWI YN UNIONGYRCHOL AT BENNAETH YR YSGOL

Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw,anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran

Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)

Mae hwn yn swydd 'Cymraeg hanfodol' lle mae angen Cymraeg ysgrifenedig a llafar. Rhaid i ymgeiswyr cyflwyno cais yn y Gymraeg am y swydd yma.

DYDDIAD CAU: 03/05/2024

DYDDIAD CYFWELIADAU: i'w gadarnhau