MANYLION
  • Lleoliad: Coety Primary,
  • Testun:
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £12.00 - £14.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 01 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Cegin Cyffredinol wrth Gefn - Ysgol Gynradd Coety

Cynorthwy-ydd Cegin Cyffredinol wrth Gefn - Ysgol Gynradd Coety

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cynorthwy-ydd Cegin Cyffredinol wrth Gefn - Ysgol Gynradd Coety
Disgrifiad swydd Yn ôl yr Angen
Tymor yr Ysgol

Gan ddarparu prydau i ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig i 56 o ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol, mae gan y Gwasanaethau Arlwyo amrywiaeth o gyfleoedd i chi weithio fel Cynorthwyydd Cegin Cyffredinol ar draws eu gwasanaeth a hoffent glywed gennych.

Mae'r rôl yn cynnwys cynorthwyo wrth baratoi, cyflwyno a gweini prydau ysgol, wrth ddarparu amgylchedd diogel, glân i ddisgyblion a staff.  Bydd yn ofynnol i chi osod byrddau a chadeiriau bwyta ac, mewn rhai ysgolion, gall fod yn ofynnol gweithredu terfynell sgrin gyffwrdd - rhoddir hyfforddiant wrth ddechrau.

Mae cwmpasu ysgolion ledled y fwrdeistref sirol yn un o ofynion y rôl yn ogystal â chael Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel Dau; darperir hyfforddiant os bydd angen i'ch helpu i gyflawni hyn.

Bydd yr oriau gwaith yn cael eu cadarnhau ar ôl penodi ond byddant rhwng 10.00am a 2.30pm, i gefnogi'r cyfnodau egwyl canol bore ac amser cinio, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor

Dylai ymgeiswyr nodi y bydd yn angenrheidiol i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl, ffoniwch Emma Bennett ar 01656 815964 a fydd yn croesawu eich cais.

Dyddiad cau: 01 Mai  2024

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr