MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Cyflog: Apprenticeship rates, £7.55 - £12.21, dependent on age
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Safle (Prentisiaeth) - Yr Ysgolion Ffederal

Torfaen Local Authority

Cyflog: Apprenticeship rates, £7.55 - £12.21, dependent on age

LLEOLIAD: FFEDERASIWN YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL BLENHEIM ROAD AC YSGOL GYNRADD COED EVA.

Ym mhopeth a wnawn :
  • Rydym yn tyfu dysgwyr llwyddiannus ffyniannus; a
  • Rydym yn arwain ein pobl i ragoriaeth;
  • Rydyn ni'n newid ein cymuned a'n gwlad er gwell?

Hoffech chi weithio i sefydliad mawr, blaengar a fydd yn eich herio ac yn eich helpu i ddatblygu'ch gyrfa, a rhoi cyfle hefyd i chi 'ennill cyflog wrth ddysgu'? Os felly, dewch i ymuno â Rhaglen Datblygu Gyrfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. Fel Prentis, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr profiadol ac yn dysgu sgiliau sy'n benodol i'r swydd wrth ennill cyflog a gweithio tuag at Ddiploma mewn Rheoli Ystadau a Chyfleusterau, sy'n gymhwyster proffesiynol a gydnabyddir yn genedlaethol, ar yr un pryd.

Rydym yn chwilio am Brentis Cynorthwyydd Safle i ymuno â'n Tîm yn Ffederasiwn Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road ac Ysgol Gynradd Coed Eva.
Mae'r swydd wedi ei lleoli mewn tîm cyfeillgar lle byddwch yn cael cefnogaeth ardderchog a hyfforddiant yn y swydd. Byddwch hefyd yn magu sgiliau gwaith a bywyd gwerthfawr i'ch helpu i lansio'ch gyrfa yn y maes o'ch dewis.


Cyfleoedd Datblygu:
  • Ennill sgiliau ymarferol mewn cynnal a chadw safleoedd ysgol ac iechyd a diogelwch.
  • Dysgu am weithdrefnau cydymffurfio a gwiriadau adeiladau.
  • Datblygu profiad mewn prosiectau ysgolion cymunedol.
  • Adeiladu hyder wrth gysylltu â chontractwyr a chefnogi tasgau gweinyddol.
  • Bod yn rhan o dîm cefnogol sy'n cyfrannu at amgylchedd dysgu diogel, diddorol.

Beth Fyddwch chi'n ei gael:
  • Diploma Lefel 2 mewn Rheoli Ystadau a Chyfleusterau
  • Sgiliau cynnal a chadw a diogelwch safle y gellir eu trosglwyddo yn y byd go iawn.
  • Profiad o weithio ar draws dwy ysgol brysur a chynhwysol.
  • Hyder wrth gyfathrebu, datrys problemau, a chynllunio.
  • Y cyfle i gyfrannu at ethos ysgol sy'n ystyriol o blant, ac yn canolbwyntio ar y gymuned font-size:12pt">Os hoffech ragor o wybodaeth neu gael trafodaeth anffurfiol ynglŷn âr swydd wag hon, cysylltwch â Darren Colcombe: Darren.Colcombe@torfaen.gov.uk font-size:12pt"> Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar bob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Uwch gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw i'r amlwg yn sgil gweithlu amrywiol, ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

    Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

    Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2025

    Dyddiad y Cyfweliad: Wythnos yn dechrau 1 Rhagfyr 2025