MANYLION
  • Lleoliad: MERTHYR TYDFIL,
  • Testun:
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athrawes Athro Ddosbarth Ysgol Gynradd Trelewis

Athrawes Athro Ddosbarth Ysgol Gynradd Trelewis

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL MERTHYR TUDFUL
ADRAN YSGOLION

YSGOL GYNRADD TRELEWIS
(rhan o Bartneriaeth Dysgu Taf Bargoed)

TRELEWIS, TREHARRIS
MERTHYR TUDFUL
CF46 6AH

www.trelewisprimary.wales

PENNAETH GWEITHREDOL:

Mr. Ryan Morgan BA (Hons), NPQH, MInstLM
NOR: 247

Prif Raddfa Athro
Angen o fis Medi 2024 i Awst 2025

Athro Dosbarth CA2 - Dros dro - Blwyddyn

Mae Ysgol Gynradd yn rhan o bartneriaeth Dysgu Taf Bargoed ac wedi'i lleoli yng Nghwm Taf Bargfoed, Merthyr Tudful. Mae'r ysgol yn llwyddiannus, bywiog a hapus sydd yn cynnig cyfleoedd dysgu gwych i bob un o'n plant yn ogystal â datblygiad proffesiynol ein staff. Mae Ysgol Gynradd Trelewis yn ysgol flaengar sydd yn darparu amrywiaeth o gyfleoedd dysgu cyffrous ac ymgysylltiol i'n disgyblion. Mae'r Corff Llywodraethu yn edrych am Athro Cynradd ysbrydoledig, dyfeisgar, ysgogol a chydwybodol i ymuno â thîm ymroddgar yn yr ysgol lwyddiannus hon. Bydd angen i'r ymgeisydd feddu ar arbenigedd a hyblygrwydd i weithio mewn lleoliad Cynradd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
? Ymarferwr dosbarth gwych
? Trefnus ac yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol gwych
? Parod i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol
? Atebol i safonau disgyblion y dosbarth
? Creadigol, deimamig a hyblyg
? Ymroddedig i godi safonau a gwneud dysgu yn hwyl ac yn ymgysylltiol
? Gallu meithrin ac ysbrydoli disgyblion o wahanol alluoedd
? Gallu gweithio fel rhan o dîm er mwyn sicrhau'r gorau ar gyfer pob disgybl
? Gallu defnyddio TGaCh yn effeithiol er mwyn cynorthwyo i wella'r dysgu a'r addysgu
? Dangos dealltwriaeth o ddiwygiadau addysgol, cyfredol
? Meddu ar sgiliau rheoli dosbarth a chyfathrebu gwych.
? Y dydddiad cau ar gyfer y swydd yw Dydd Gwener 3 Mai 2024 am 12:00pm.
? Bydd y rhestr fer yn cael ei llunio Ddydd Mercher 8 Mai. Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr llwyddiannus.
? Bydd arswylwadau gwersi yn cael eu trefnu â'r ymgeiswyr llwyddiannus Ddydd Llun 13 Mai / Ddydd Mawrth 14 Mai.
? Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal, Ddydd Mercher 15 Mai yn Ysgol Gynradd Trelewis.

Croesawir ymgeiswyr i gysylltu â'r ysgol ar 01685 351822 er mwyn trafod y swydd ymhellach â'r Pennaeth Gweithredol.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o bob cymhwyster a nodwyd i fod yn hanfodol.

Gellir cwblhau ffurflenni cais ar-lein ar www.merthyr.gov.uk
Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd, gellir cael ffurflenni cais drwy ffonio 01685 725199 a'u dychwelyd, ddim hwyrach na Dydd Gwener 3 Mai 2024 i Adran Weinyddol yr Adran AD, Y Ganolfan Ddinesig, Stryd y Castell, Merthyr Tudful, CF47 8AN.

E-bost: Human.ResourcesAdmin@merthyr.gov.uk

Mae'r gallu i siarad y Gymraeg yn ddymunol.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg. Gall ffurflenni cais gael eu cyflwyno yn y Gymraeg ac ni fydd ffurflenni a fydd yn cael eu cwblhau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai a gyflwynir yn y Saesneg.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi ymrwymo i warchod a diogelu pobl fwyaf bregus ein cymunedau. Wrth recriwtio a dethol staff byddwn yn cynnal gwiriadau manwl cyn penodi unrhyw un.

Mae'n rhaid i bob gweithiwr, wrth gyflawni eu cyfrifoldebau personol a sefydliadol, gydymffurfio â'r Ddeddf Gwarchod Data, y Polisi Diogelu Gwybodaeth a'r polisïau gweithredol perthnasol eraill. Ni ddylid datgelu unrhyw fater cyfrinachol wrth berson heb awdurdod neu drydydd parti ar unrhyw achlysur naill ai yn ystod neu wedi'ch cyflogaeth oni bai y bydd disgwyl i chi wneud hynny dan amodau eich cyflogaeth, pan fydd yn ofynnol, yn gyfreithiol i wneud hynny neu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful neu'r ddau. Gall torri cyfrinachedd arwain at gamau disgyblu.