MANYLION
- Testun:
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Not Supplied
- Salary Range: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Athro/Athrawes (Ysgol Trefaldwyn)
Swydd-ddisgrifiad
Athro/Athrawes Rhan amser 0.4 (Cyfnod penodol) o'r 1 af o Fedi 2024 i'r 31 ain o Awst 2026. Bydd y swydd yn cael ei hadolygu yng Ngorffennaf 2026.
Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Trefaldwyn
"Tyfu gyda'n gilydd yn hapus i fod y gorau y gallwn ni!"
Mae Corff Llywodraethu Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Trefaldwyn am benodi athro/athrawes frwdfrydig, greadigol, ac ymrwymedig i ymuno â'n hysgol hapus a llwyddiannus am ddau ddiwrnod yr wythnos (dydd Iau a Gwener). Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn ein dosbarth Blwyddyn 1 a 2.
Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Trefaldwyn yn ysgol lwyddiannus gyda 111 o ddisgyblion ar y gofrestr. Ry'n ni'n ymfalchïo yn ein perthnasoedd cadarnhaol, ein hymdeimlad o deulu a'n hysbryd cymunedol. Mae plant yma yn ffynnu ar gwricwlwm newydd cyfoethog a chytbwys sy'n cofleidio'r cysylltiadau sydd gennym gyda'n cymunedau lleol ac ehangach. Ry'n ni'n falch o'n gwreiddiau Cymreig ac yn darparu digonedd o gyfleoedd i blant ddysgu am eu treftadaeth Gymreig, ynghyd â dysgu'r iaith Gymraeg hefyd.
Yn swatio yng nghanol tref farchnad hanesyddol Trefaldwyn, ry'n ni'n cofleidio ein hamgylchedd. Gyda golygfeydd o'r ysgol draw at Fryn Cornatyn o'r cefn, a golygfeydd o Gastell Trefaldwyn o'r blaen, ry'n ni mewn lleoliad delfrydol. Hefyd, mae tiroedd ein hysgol yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd, gydag ardal ysgol goedwig, twnnel polythen ar gyfer tyfu llysiau a'n coed afalau ein hunain i'n galluogi i gasglu ein ffrwythau ein hunain.
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus arddangos arfer rhagorol yn yr ystafell ddosbarth, parodrwydd i feithrin ein cysylltiadau cymunedol a dealltwriaeth ragorol o'r Cwricwlwm i Gymru.
Croesawir ceisiadau gan ANG.
Croesewir ymweliadau trwy apwyntiad ymlaen llaw gyda'r Pennaeth, Sarah Brian. I drefnu, cysylltwch â'r ysgol ar 01686 668387 neu anfonwch e-bost i head@montgomery.powys.sch.uk .