MANYLION
- Lleoliad: Wrexham,
- Testun:
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Salary Range: Not Supplied
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Disgrifiad
Ysgol Llan-y-pwll,
Ffordd Parc Borras,
Wrecsam,
LL12 7TH
Pennaeth: Mrs Rhiannon James
Athro/ Athrawes
Rhan amser (Parhaol) Boreuau yn unig
Prif Raddfa Cyflog/ Graddfa Cyflog Uwch
I gychwyn Medi 1af 2024
Mae Ysgol Llan-y-pwll yn ysgol cyfrwng Cymraeg wedi ei leoli ar gyrion tref Wrecsam yn ardal Borras. Agorodd yr ysgol i ddisgyblion am y tro cyntaf ym mis Medi 2022. Ym mis Medi, 2024, bydd gennym ddisgyblion o'r dosbarth Meithrin hyd at Flwyddyn 2 yn yr ysgol.
Rydym yn chwilio am athro egnïol, ymroddgar a brwdfrydig i ymuno gydag ein tîm llwyddiannus ac i weithio yn ein hadran Blynyddoedd Cynnar.
- Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn : -
- Athro/athrawes ragorol, greadigol a hyderus, gydag ymroddiad llwyr i ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg;
- Barod i groesawu addysgeg ac athroniaeth y Cwricwlwm i Gymru a bod yn rhan o'i ddatblygu o fewn cyd-destun cymuned yr ysgol;
- Ymrwymedig i sicrhau bod pob dysgwr, waeth beth fo eu gallu na'u cefndir yn hapus ac yn llwyddiannus yn eu dysgu;
- Gosod lles a diogelwch ein plant yn ganolog;
- Cynllunio a pharatoi gwersi yn ofalus a thrylwyr gan greu a chynnal ardaloedd deniadol, amrywiol a phleserus;
- Dangos bod ganddynt agwedd gadarnhaol; eu bod yn gallu gweithio yn annibynnol ac fel rhan o dîm pan fo angen gan ddefnyddio dulliau gweithio blaengar.
Mae croeso i ymgeiswyr gysylltu â'r Pennaeth am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweld â'r ysgol.
Mae pecynnau cais ar gael ar wefan Sir Wrecsam www.wrexham.gov.uk/jobs
DYCHWELWCH EICH FFURFLEN GAIS TRWY E-BOST AT Y PENNAETH headteacher@ysgolllanypwll-pri.wrexham.sch.uk
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran
Noder fod yr holl swyddi mewn ysgolion yn ddibynnol ar wiriad DBS uwch (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
Mae hwn yn swydd 'Cymraeg hanfodol' lle mae angen Cymraeg ysgrifenedig a llafar. Rhaid i ymgeiswyr cyflwyno cais yn y Gymraeg am y swydd yma.
Mae'r swydd hon yn amodol ar gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg.
Dyddiad cau: Hanner dydd, Dydd Llun, Ebrill 29fed 2024