MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Cefnogol Lefel 4

Cymhorthydd Cefnogol Lefel 4

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG - YSGOLION UWCHRADD

YSGOL Y MOELWYN, BLAENAU FFESTINIOG

(Cyfun 11 - 16; 360 o ddisgyblion)

Yn eisiau: 1af o Fedi neu cyn gynted a phosib wedi hynny.

CYMHORTHYDD CEFNOGAETH DYSGU LEFEL 4

Cytundeb dros dro hyd at 31/08/2025 yn y lle cyntaf.

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth unigolion brwdfrydig i weithio gyda thîm ymroddgar ac egnïol

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

(40 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor ysgol, 5 diwrnod mewn hyfforddiant yn ogystal â bod ar gael i weithio wythnos yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa S1 pwyntiau 12 - 17 (£23,330 - £25,404.00 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Eleri Moss, pennaeth@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru neu Mr Daniel Bell, Daniel.Bell@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Gwerfyl Jarrett, Swyddog Gweinyddol, Ysgol Y Moelwyn, Heol Wynne, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 3DW, (Rhif ffôn 01766 830435,) e-bost: sg@moelwyn.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir ddychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU: 12:00Y.H, DYDD GWENER, 26 O EBRILL 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwyr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

(The above is an advertisement for a Level 4 Learning Support Assistant at Ysgol Y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service Certificate and confirmation of registration with the Education Workforce Council for the successful applicant before they can start at the school.

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi