MANYLION
  • Lleoliad: Tondu Primary,
  • Testun:
  • Oriau: Not Specified
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Fesul awr
  • Salary Range: £14.00 - £17.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth - Ysgol Gynradd Tondu

Pennaeth - Ysgol Gynradd Tondu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Pennaeth - Ysgol Gynradd Tondu
Disgrifiad swydd
Dyddiad Dechrau: Medi 2024

Grŵp Ysgol 2 - ISR L15 – L21

Mae Ysgol Gynradd Tondu yn gwasanaethu pentref Abercynffig a'r ardal gyfagos i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr. Ar hyn o bryd mae 192 disgyblion ar y gofrestr rhwng 3 ac 11 oed sy'n cael eu haddysgu ar draws wyth dosbarth.  Fe'i lleolir ar ddau safle, sy'n golygu bod y dosbarthiadau Meithrin a Derbyn tua chwarter milltir i ffwrdd o weddill yr ysgol. Fodd bynnag, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr holl blant, staff a theuluoedd yn teimlo'n rhan o'n Teulu Tondu. Rydym yn angerddol am hyrwyddo a chefnogi llesiant disgyblion a staff ac mae'r ethos hwn wrth wraidd popeth a wnawn.

Mae Tondu yn darparu dysgu cyffrous ac ystyrlon. Mae'r ysgol yn cael budd o amgylcheddau dysgu rhagorol yn yr awyr agored ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr yn sgil y cysylltiad cryf â'r gymuned ehangach. Darparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn.

Mae'r Corff Llywodraethu yn chwilio am Bennaeth sy'n arloesol, yn llawn cymhelliant ac yn drugarog gyda'r egni i barhau ar ein taith i wella'r ysgol.

Mae Tondu yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.

A chithau'n Bennaeth, Dirprwy Bennaeth, arweinydd ysgol neu'n weithiwr proffesiynol addysg profiadol, bydd gennych brofiad rheoli gyda sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol amlwg.

Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad cyntaf yn Bennaeth feddu ar y CPCP.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 24 Ebrill 2024

Dyddiad llunio rhestr fer: 30 Ebrill 2024

Dyddiad Cyfweld: Cynhelir y cyfweliadau ar ddydd Llun 20 a dydd Mawrth 21 Mai 2024

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person