MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Tryfan, Bangor,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £30,000.00 - £35,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth Addysg Grefyddol - Ysgol Tryfan

Pennaeth Addysg Grefyddol - Ysgol Tryfan

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADRAN ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL TRYFAN, BANGOR

(Cyfun 11 - 18; 536 o ddisgyblion)

Yn eisiau: ar gyfer 1 o Fedi, 2024

PENNAETH ADDYSG GREFYDDOL

Swydd Llawn Amser Parhaol

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person ymroddgar, brwdfrydig ac egnïol

i arwain yr adran Addysg Grefyddol. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys, sydd â'r

profiad a'r sgiliau angenrheidiol i arwain yr adran flaengar hon. Disgwylir i'r sawl a benodir addysgu Dyniaethau / Addysg Grefyddol yn CA3, ac Addysg Grefyddol yn CA4 a CA5.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) + CAD 2C (£3271) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Dr Geraint Owen Jones.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU

(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru )

Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DYDD GWENER, EBRILL 26AIN, 2024

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau W/C 29/04/24

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd a chadarnhad o gofrestriad gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn y swydd yma.

(The above is an advertisement for a Head of Religious Education at Ysgol Tryfan, Bangor for which the ability to teach through the medium of Welsh and English is essential.

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn. This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

Manylion Person

CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL
HANFODOL
• Statws athro/athrawes cymwysedig
• Yn meddu ar radd safonol mewn maes perthnasol

DYMUNOL

• Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol perthnasol diweddar

PROFIAD PERTHNASOL
HANFODOL

Profiad o:
• sgiliau rheolaeth dosbarth effeithiol
• gynnal gwersi heriol a diddorol
• ddefnyddio adnoddau yn effeithiol
• osod a gweithredu disgwyliadau uchel yn gyson
• gynllunio'n llwyddiannus ac yn drwyadl
• gyfrannu at fywyd allgyrsiol ysgol
• gydweithredu fel aelod o dîm
• addysgu'r pwnc hyd at Safon Uwch

SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL

• Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r prif faterion a'r datblygiadau addysgol cyfredol yn y maes
• Person egniol gyda'r gallu i gyflawni strategaethau effeithiol ar gyfer gwelliant
• Y gallu i weithio o dan gyfarwyddid a chydweithio fel aelod o dîm
• Y gallu i sicrhau dysgu o'r safon uchaf, cyfleoedd dysgu unigol o safon uchel i bob disgybl, a safonau cyrhaeddiad uchel
• Y gallu i ddefnyddio asesiadau'n effeithiol
• Sgiliau rhagorol wrth reoli ymddygiad disgyblion
• Defnydd effeithiol o DGCh
• Y gallu i addysgu'r pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg
• Y gallu i arwain llwyddiant a gwelliant adran trwy brosesau hunan arfarnu.

NODWEDDION PERSONOL
HANFODOL

• Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
• Person egniol a hyblyg ei natur gyda disgwyliadau uchel
• Sgiliau rhyngbersonol o'r radd flaenaf
• Y gallu i berthnasu yn dda gyda phlant a gwarchod eu hawliau unigol
• Dymuniad i ddatblygu'n broffesiynol
• Y gallu a'r brwdfrydedd i gyfrannu i fywyd allgyrsiol yr ysgol

ANGHENION IEITHYDDOL

Gwrando a Siarad
Gallu cyflwyno pob agwedd o'r swydd ar lafar yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gystal â'i gilydd.
Darllen a Deall
Gallu defnyddio a dehongli'n gywir unrhyw wybodaeth o amrywiol ffynonellau ar gyfer cyflawni holl agweddau'r swydd.
Ysgrifennu
Gallu cyflwyno gwybodaeth yn ysgrifenedig mewn modd gwbl hyderus

Dylid disgrifio'r nodweddion rheiny a ddisgwylir gan ddeilydd y swydd. Defnyddir
rhain fel meini prawf wrth asesu pob ymgeisydd.

Swydd Ddisgrifiad

Gwybodaeth ar gyfer y swydd Pennaeth Addysg Grefyddol
I gychwyn 01/09/24 - (Swydd Llawn Amser Parhaol)
MANYLION AM YR YSGOL
Ysgol uwchradd sy'n darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i gylch Bangor yw Ysgol Tryfan. Mae yma 536 o ddisgyblion 11-18 oed ar hyn o bryd, gyda 75 o fyfyrwyr yn y chweched dosbarth erbyn hyn.
Ymhyfrydwn yng nghanlyniadau rhagorol ein disgyblion yn yr arholiadau allanol, y gymdeithas glos a chyfeillgar sy'n bodoli yn yr ysgol a'r sylw unigol a roddwn i ddisgyblion mewn dosbarthiadau bychain wrth gynorthwyo ac ymestyn.

Mae amserlen yr ysgol yn seiliedig ar 6 gwers 50 munud y dydd.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr ysgol: www.ysgoltryfan.org. Yno ceir blas ar fywyd yr ysgol a gellir lawrlwytho dogfennau megis prosbectws yr ysgol a'r adroddiad diweddaraf gan Estyn.

Datganiad o werthoedd yr ysgol.

Yn Ysgol Tryfan amcanir i greu cymdeithas glos, Gymraeg ei hiaith, ble fod pawb-
• yn hapus ac yn hyderus;
• yn llwyddo hyd eithaf eu gallu ym mhob maes;
• yn arddel hunan-barch a pharch at eraill;
• yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Rhagoriaeth yw nod yr ysgol yn ei holl weithgaredd. Cred yr ysgol mewn bod yn agored ac yn ymatebol.

Nodau.
1. Cynnig addysg o'r ansawdd uchaf posibl i gynorthwyo'r disgybl unigol i ddod i adnabod ei hunan, i feithrin yr adnoddau cynhenid sydd ganddo i eithaf ei allu ac i oresgyn ei wendidau.

2. Creu awyrgylch a fydd yn meithrin ym mhob disgybl berthynas iach gydag eraill, a'i ddysgu i barchu a gwerthfawrogi cymeriadau, talentau a daliadau pobl eraill.

3. Galluogi pob disgybl i ddatblygu i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg fel y gall ddod i adnabod a deall y gymdeithas a'r byd y mae'n byw ynddo ac ennyn ymwybyddiaeth o'i wreiddiau, ei gefndir a'i amgylchedd.

Amcanion
1. Datblygu cwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol ar gyfer pob disgybl a fydd yn ateb gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol, polisïau'r ysgol a pholisïau'r AALl.

2. Meithrin a monitro datblygiad pob disgybl drwy'r drefn fugeiliol sy'n bodoli yn yr ysgol i ofalu am les a ffyniant y disgyblion.

3. Paratoi'r disgyblion i feithrin y cymwysterau y byddant eu hangen yn y gymdeithas y deuant yn rhan ohoni ac er mwyn iddynt allu cyfrannu'n gyfrifol iddi.

4. Datblygu cysylltiadau gyda masnach a diwydiannau lleol a chreu perthynas glos gyda'r rhieni, addysg bellach ac uwch a'r gymdeithas yn gyffredinol

Y SWYDD

Yn eisiau: ar gyfer 1 o Fedi, 2024

PENNAETH ADDYSG GREFYDDOL
Swydd Llawn Amser Parhaol

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i benodi person ymroddgar, brwdfrydig ac egnïol i arwain yr adran Addysg Grefyddol. Gwahoddir ceisiadau gan athrawon cymwys, sydd â'r profiad a'r sgiliau angenrheidiol i arwain yr adran flaengar hon. Disgwylir i'r sawl a benodir addysgu Dyniaethau / Addysg Grefyddol yn CA3, ac Addysg Grefyddol yn CA4 a CA5.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Gyflog Athrawon (£30,742 - £47,340) + CAD 2C (£3271) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth, Dr Geraint Owen Jones.

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Miss Bethan Thomas, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Tryfan, Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, LL57 2TU
(Rhif Ffôn: 01248 352633, e-bost: sg@tryfan.ysgoliongwynedd.cymru)

Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DYDD GWENER, EBRILL 26AIN, 2024

Rhagwelir cynnal y cyfweliadau W/C 29/04/24

RHAI MANYLION PERSONOL

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus fod:

 chymwysterau priodol i arwain y maes yn yr ysgol.

Yn frwdfrydig a chreadigol, er mwyn ysgogi a chynnal diddordeb disgyblion yn y maes.

Yn abl i addysgu'r pwnc i'r ystod oedran llawn.

Yn meddu ar sgiliau TGCh cadarn.

Yn rheolwr dosbarth effeithiol gyda'r sgiliau i sicrhau fod yna awyrgylch gynhaliol yn y dosbarth i hybu'r dysgu.

Yn deall fod disgyblion yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol ac felly'n barod i addasu'r addysgu i'w hanghenion.

Yn weinyddwr trefnus gyda'r gallu i gynllunio gwaith a'i orffen; i asesu gwaith yn rheolaidd a chofnodi hynny'n drefnus; i ysgrifennu adroddiadau manwl a pherthnasol.

Yn abl i weithio'n annibynnol a hefyd yn barod i gydweithio fel rhan o dîm.

Yn barod i ymateb i ddatblygiadau pynciol lleol a chenedlaethol yn y maes.

Yn gallu arwain yn strategol ac yn gydwybodol holl agweddau datblygol adran, gan gynnwys yn benodol y cylch datblygu a'r hunan arfarnu.

Yn meddu ar ymwybyddiaeth gadarn o ofynion iechyd a diogelwch yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad Pennaeth Adran:

Prif gyfrifoldebau:

Sicrhau'r safonau uchaf o ran chyrhaeddiad ac ymroddiad disgyblion o fewn y pwnc.

Bod yn atebol am gynnydd a chyflawniad disgyblion yn y pwnc.

Darparu addysg o ansawdd ragorol i'r dosbarthiadau sydd o dan eich gofal.

Arwain drwy esiampl yr addysgu a dysgu yn eich adran a darparu arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol o'r adran.

Datblygu a chynnal tîm effeithiol o athrawon, ac ymestyn arfer addysgu athrawon eraill yn yr adran gan sicrhau cyfleon datblygu proffesiynol priodol

Datblygu'n barhaus ddarpariaeth yr adran i fod yn cynnig profiadau buddiol a difyr i'r disgyblion sy'n cynnig lefel briodol o her ar gyfer disgyblion ar draws yr ystod oed a gallu.

Sicrhau fod cyfleon addas i ddatblygu medrau disgyblion yn y pwnc.

Sicrhau adnabyddiaeth gadarn a chyfredol o gryfderau a meysydd angen yng ngwaith yr adran drwy drefn barhaus o sicrhau ansawdd

Darparu arweiniad clir a phendant ar gamau nesa yn dilyn arsylwi gwersi, craffu ar waith disgyblion, casglu barn rhanddeiliaid. Monitro cynnydd yn y gwelliannau hyn.

Sicrhau gweithrediad llwyddiannus gynlluniau gwella buddiol sydd yn seiliedig ar ganfyddiadau'r broses hunan arfarnu

Tracio cynydd disgyblion a sicrhau ymyraethau priodol

Cynnal a chefnogi disgyblaeth a chanmoliaeth disgyblion sy'n dilyn y pwnc.

Darparu dogfennaeth adrannol defnyddiol a rhesymol ar gair y Pennaeth

Cyfarfod yn rheolaidd â'r aelod cyswllt o'r UDR a'r Llywodraethwr Cyswllt i drafod materion strategol

Rheoli gweithrediad dydd i ddydd yr adran yn cynnwys rheoli cyllid ac adnoddau yn effeithiol

Rhoi ar waith bolisiau ysgol gyfan o fewn yr adran

Hybu gweithgareddau allgyrsiol a diwylliannol e.e. clwb gwaith cartref, ymweliadau, cystadlaethau.

Drwy gydweithrediad â'r Cydlynydd, datblygu trefniadau ar gyfer disgyblion ag ADY yn yr adran, gan gynnwys ymateb i anghenion unigol disgyblion.

Cydweithio'n effeithiol gyda'r swyddog arholiadau.

Gofalu fod athrawon dan hyfforddiant ac Athrawon Newydd Gymhwyso o fewn yr adran yn cael eu cynnal, eu monitro a'u harfarnu, yn unol â threfn yr ysgol.

Gweithredu fel Arfarnwr yn y drefn Rheoli Perfformiad lle bo'n cyd-fynd â threfn yr ysgol.

Cydweithio gydag ysgolion cynradd i sicrhau dilyniant esmwyth wrth drosglwyddo.

Chwarae rhan allweddol fel aelod o'r tîm o rheolwr canol yn natblygiad pob agwedd o fywyd yr ysgol.

Cynghori'r UDR am ddatblygiadau yn y maes.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi