MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Testun:
  • Cytundeb:
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £20,000.00 - £25,000.00
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Mai, 2024 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Nyrs Feithrinfa CC/2573

Nyrs Feithrinfa CC/2573

Coleg Cambria
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol. A ninnau eisoes wedi cael dyfarniad 'Rhagorol' yn ein harolygiad diweddar, rydym yn teimlo ein bod wedi cael dechrau da.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Nyrs Feithrinfa, Cyfnod penodol

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Llawn amser, Cyfnod penodol (Mehefin 2025)

Cyflog: £23,197 - £23,334

Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn chwilio am Nyrs Meithrin llawn amser i ymuno â ni am gyfnod penodol yn ein Meithrinfa Toy Box sydd wedi'i lleoli ar ein safle ar Lannau Dyfrdwy

Meithrinfa Toybox yw ein meithrinfa ar y safle sy'n darparu lleoedd llawn amser a rhan amser i blant staff a myfyrwyr y coleg yn ogystal ag aelodau'r gymuned leol. Rydym yn cynnig gofal plant o ansawdd da, gan sicrhau bod rhieni a phlant mewn amgylchedd croesawgar a chyfeillgar, gyda gofal ac addysg o'r safon uchaf.

Fel Nyrs Feithrinfa, byddwch yn cynorthwyo â'r holl weithgarwch sy'n gysylltiedig â gofalu am blant a'u datblygiad, gan gynnwys eu hiechyd cyffredinol, eu lles, eu diogelwch a'u datblygiad corfforol sylfaenol. Byddwch yn gweithredu fel gweithiwr allweddol, ac yn cynorthwyo â threfnu, cynllunio a pharatoi prydau bwyd, gweithgareddau, amseroedd gorffwys, glanhau a golchi dillad.

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog ac yn gallu dangos cymhelliant a hunanhyder. Rhaid bod yn aelod cadarn o dîm sy'n gallu cyd-weithio ag aelodau o'r tîm o bob lefel.

Gofynion Hanfodol

• Cymhwyster NNEB, BTEC neu NVQ Lefel 2/3 mewn Astudiaethau Gofal Plant, a phrofiad blaenorol o weithio mewn sefydliad gofal plant.

• Gwybodaeth am faterion lles plant, a dealltwriaeth o bwysigrwydd gosod nodau ac amcanion.

• Lefel dda o sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol.

• Brwdfrydig, hyblyg a gallu gweithio ar eich liwt eich hun.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.

Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.

Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig