MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Pennal, Machynlleth,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £10,000.00 - £15,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cogydd a Gofal Ysgol Pennal

Cogydd a Gofal Ysgol Pennal

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Gwyneth Elizabeth Hughes ar 01286 679185

Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.

Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD C AU: 10.00 O'R GLOCH 30/04/24

Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Gallu gweithredu fel aelod o dîm (Tîm Ysgol a Thîm Cegin)

Dim hanes o afiechyd sy'n gysylltiedig â bwyd (gweler Holiadur ar Tud D-7 o Lawlyfr y Gegin)
Dymunol
Hunan ysgogol, personoliaeth hapus

Gwybodaeth o fwyd iach a maethlon

Bod yn gymdeithasol a dangos parch tuag at eraill

Ymddangosiad glân a thaclus

Safon dda o lendid personol
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cymhwyster Glendid Bwyd Sylfaenol

Cymhwyster diet a maeth neu ymrwymiad i basio cwrs Lefel 2 o fewn 3 mis o'r penodiad
Dymunol
Cymhwyster goruchwylio staff

Cymhwyster coginio

Hyfforddiant mewn sgiliau coginio

Hyfforddiant mewn sgiliau gweini bwyd

Hyfforddiant mewn Iechyd a Diogelwch, e.e. symud a thrin neu gymorth cyntaf

Hyfforddiant mewn sgiliau marchnata

Trwydded gyrru llawn
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad o weithio mewn cegin fasnachol neu gegin debyg i gegin ysgol
Dymunol
Profiad o weithio mewn amgylchedd cynhyrchu bwyd

Profiad o gynllunio bwydlen, paratoi ryseitiau ac archebu bwyd

Profiad o gofnodi ac adrodd ar gostau arlwyo

Profiad o weithio yn unol â systemau sicrwydd ansawdd
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Profiad o weithio fel rhan o dîm a'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol mewn grŵp.
Dymunol
Meddu ar sgiliau rhyngbersonol da

Sgiliau cyfathrebu da
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Mynediad
Gallu ynganu enwau llefydd a phobl yn gywir.
Darllen a Deall - Mynediad
Gallu darllen a deall llythyrau byr, syml, negeseuon ebost, taflenni, ac arwyddion syml drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar faterion cyfarwydd bob dydd er mwyn eu trosglwyddo i berson arall.
Ysgrifennu - Mynediad
Gallu ysgrifennu nodyn syml yn gofyn am neu'n rhoi gwybodaeth am faterion cyfarwydd bob dydd yn y gweithle.

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Paratoi bwyd, arolygu a gweinyddu mewn cegin yn paratoi a gweini bwyd. Anwytho a hyfforddi staff cegin.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Cyllid

• Staff

• Offer
Prif ddyletswyddau
• Darparu bwyd - gan gynnwys cynllunio bwydlen, archebu bwyd, rheoli maint prydau, paratoi bwydydd a choginio.

• Cydymffurfio o ddydd i ddydd a gofynion Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Bwyd sy'n effeithio ar staff, a phobl eraill a all fod yn defnyddio neu ymweld â'r safle.

• Sicrhau fod holl staff Arlwyo yn dilyn arferion gwaith da ac y cedwi'r at ofynion unrhyw Ddarpariaeth Statudol a pholisiau Cyngor Gwynedd.

• Trefnu ag arolygu'r gwasanaeth bwyd, yn cynnwys gweini'r bwyd.

• Arolygu staff y gegin. Pennu dyletswyddau, trefniadau gwaith a hyfforddiant.

• Sicrhau fod pob aelod o staff y gegin wedi derbyn hyfforddiant anwytho, Iechyd a Diogelwch a Diogelwch Bwyd cyn cychwyn gwaith.

• Arolygu a rheoli glanweithdra, iechyd a diogelwch.

• Diogelwch y gegin a'i chyffiniau drwy gloi ac agor y gegin.

• Sicrhau bod offer yn cael ei gynnal a'i gadw.

• Dyletswyddau clercyddol (e.e. archebu cyflenwadau, cadw cyfrif stoc bwyd, llenwi ffurflenni adrodd misol, sicrhau fod y llyfr cofnodion y gegin wedi ei gwblhau bob dydd).

• Unrhyw ddyletswydd arall yn ôl cais rhesymol.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Bydd amgylchiadau yn codi yn gofyn am baratoi lluniaeth tu allan i oriau gwaith e.e. cyfarfod athrawon, hyfforddiant mewn swydd.

• Bydd disgwyliad cyd weithio gyda threfniadau argyfwng Cyngor Gwynedd i fwydo pobl mewn argyfwng ac i symud i gegin arall i helpu allan mewn argyfwng.

• I symud i geginau eraill lle mae angen cymorth.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi