MANYLION
  • Lleoliad: Ysgol Ardudwy, Harlech,
  • Testun:
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Salary Range: £0.00 - £10,000.00
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Glanhawr/wraig - Ysgol Ardudwy

Glanhawr/wraig - Ysgol Ardudwy

Cyngor Gwynedd
Manylion
Hysbyseb Swydd

ADDYSG

YSGOLION UWCHRADD

YSGOL ARDUDWY

(Ysgol Gyfun 11 - 16: 324 o ddisgyblion)

Yn eisiau: Cyn gynted â phosib

Glanhawr

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn awyddus i apwyntio person brwdfrydig ac egnïol ar gyfer y swydd uchod sydd yn meddu ar y cymwysterau priodol a'r sgiliau addas.

Oriau gwaith: 12.5 awr yr wythnos

(42 wythnos waith mewn blwyddyn ysgol sef 38 wythnos tymor Ysgol yn ogystal â bod ar gael i weithio 4 wythnos yn ychwanegol tu hwnt i'r oriau arferol).

Graddfa Gyflog: Telir cyflog yn unol ag Amodau Gwaith ar gyfer Gweithwyr Llywodraeth Leol, Graddfa GS1 pwyntiau 2 (£7,006.00 y flwyddyn) yn ôl profiad a chymhwyster.

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae'r ysgol yn gweithredu'n unol a'i Bolisi Iaith. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog. (Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas).

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb neu sydd angen mwy o wybodaeth i gysylltu i drafod yn anffurfiol a'r Pennaeth, Mr. Aled Williams B.Sc. (Rhif Ffôn 01766 780331 neu pennaeth@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru

Gellir cyflwyno cais am y swydd yma ar-lein ar wefan Cyngor Gwynedd neu mae pecyn cais i'w cael gan Mrs. Fiona Williams, Rheolwr Busnes a Chyllid, Ysgol Ardudwy, Harlech, LL46 2UH Rhif ffôn 01766 780331 e-bost: sg@ardudwy.ysgoliongwynedd.cymru . Os dymunir dychwelyd y cais drwy'r post, dylid ei ddychwelyd i'r cyfeiriad uchod erbyn y dyddiad cau.

DYDDIAD CAU HANNER DYDD, DDYDD LLUN, 22 O EBRILL 2024.

Bydd y Cyngor yn gofyn am gopi o'r dadleniad gan Wasanaeth Datgelu a Gwahardd gan yr ymgeisydd llwyddiannus cyn y gallent gychwyn yn yr Ysgol.

(The above is an advertisement for the post of a Cleaner at Ysgol Ardudwy for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential).

Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.

This authority is committed to safeguarding and promoting the welfare of children and young people and expects all staff and volunteers to share this commitment.

The Council will require a Disclosure and Barring Service certificate for the successful applicant before they can start at the school.

Os hoffech gefnogaeth i ymgeisio, mae Gwaith Gwynedd ar gael i roi cymorth i drigolion Gwynedd mynd i waith - am fwy o wybodaeth cliciwch yma .

Manylion Person

.

Swydd Ddisgrifiad

.

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi