MANYLION
  • Lleoliad: Monmouth, Monmouthshire, NP25 3XR
  • Testun: Gweithiwr Cymorth Dysgu
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 12 Ebrill, 2024 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Addysgu – Cymorth Ymddygiad, Ysgol Gynradd Thornwell

Cyngor Sir Fynwy
Mae Ysgol Gynradd Thornwell yn edrych am unigolyn ymroddedig sy’n ysbrydoli i weithio o fewn ein darpariaeth cynradd uwch yn swydd cynorthwyydd addysgu anghenion ychwanegol. Mae Ysgol Gynradd Thornwell yn ysgol ddeinamig a blaengar sy’n edrych am gynorthwyydd addysgu i gefnogi disgyblion gydag anawsterau dysgu canolig i ddifrifol ac anghenion cymhleth. Bydd hon yn swydd heriol ond eto werth chweil iawn.

Ein Diben:-
Mae Ysgol Gynradd Thornwell yn edrych am unigolyn ymroddedig sy’n ysbrydoli i weithio gyda’n darpariaeth cynradd uwch yn swydd cynorthwyydd addysgu anghenion ychwanegol. Mae Ysgol Gynradd Thornwell yn ysgol ddeinamig a blaengar sy’n edrych am gynorthwyydd addysgu i gefnogi disgyblion gydag anawsterau dysgu canolig i ddifrifol ac anghenion cymhleth. Bydd hon yn swydd heriol eto gwerth chweil iawn.

Diben y Swydd:-
• Gweithio dan gyfarwyddyd ac arweiniad staff addysgu a/neu aelodau o dîm arweinyddiaeth yr ysgol.
• Cefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i alluogi mynediad i ddysgu.
• Cynorthwyo’r athro/athrawes i reoli disgyblion o fewn yr ystafell ddosbarth, ardal tu fas a thu hwnt.
• Cyfrannu at gylch cynllunio yr athro/athrawes i sicrhau fod pob disgybl yn cael mynediad cyfartal i ddysgu.
• Cefnogaeth un i un i ddisgyblion gydag anghenion penodol a chymhleth yn ôl cyfarwyddyd tîm arweinyddiaeth yr ysgol neu gydlynydd anghenion dysgu ychwanegol os oes angen.
• Addasu cynllunio i weddu plentyn gydag anghenion cymhleth a chyflwyno cwricwlwm wedi ei bersonoli a’i dargedu.
• Deall sut i gefnogi anghenion cymhleth plant gydag anawsterau ymddygiad, cymdeithasol ac emosiynol.
• Bod â disgwyliadau uchel a bod yn ymroddedig i gynhwysiant ar gyfer pob plentyn a’u teuluoedd.
• Gallu amlwg i weithio ar eich cymhelliant eich hun.
• Lefel uchel o sgiliau cyfathrebu a’r gallu i gysylltu’n gadarnhaol gyda phlant ac oedolion.

Eich cyfrifoldebau yw:-
• Goruchwylio a darparu cymorth wedi ei dargedu ar gyfer disgyblion, gan gynnwys y rhai hynny sydd ag anghenion arbennig, gan sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn cael mynediad at weithgareddau dysgu.
• Cynorthwyo gyda’r broses o addysgu a datblygu'r holl ddisgyblion, gan gynnwys gweithredu Cynlluniau Datblygu Unigol a rhaglenni Gofal Personol - gan gynnwys mynd i’r toiled, bwydo a symudedd.
• Hyrwyddo awyrgylch sydd yn cynnwys ac yn derbyn pob un disgybl.
• Annog disgyblion i ryngweithio ag eraill ac ymgysylltu yn y gweithgareddau sydd yn cael eu harwain gan yr athro/athrawes / plentyn / plant
• Gosod disgwyliadau heriol a hyrwyddo hunanwerth ac annibyniaeth.
• Darparu adborth effeithiol i’r holl ddisgyblion o ran cynnydd a chyrhaeddiad, a hynny o dan arweiniad yr athro/athrawes.
• Gweithredu strategaethau er mwyn annog annibyniaeth a hunanhyder.
• Darparu adborth i ddisgyblion mewn perthynas â rhaglenni, cydnabod a gwobrwyo’r hyn sydd yn cael ei gyflawni.
• Dilyn polisïau a gweithdrefnau yr ysgol a’r awdurdod lleol ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant yn yr holl waith gyda phlant a theuluoedd.
• Dilyn y canllawiau yn seiliedig gydag ymarfer ystyriol i drawma, llesiant, tegwch a phrosesau cydraddoldeb.
• Cefnogi uchelgais yr ysgol i fod yn ddwyieithog drwy ddefnydd beunyddiol o’r Gymraeg a dymuniad i wella sgiliau yn y Gymraeg yn barhaus.
• Rhoi gwybodaeth i asiantaethau allanol perthnasol.